DWP wedi ymrwymo i gydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
Ein datganiad o ymrwymiad:
"Mae`r Adran wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel cyflogwr, rydym wedi ymroi hefyd i gydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu. Ein nod yw sicrhau y caiff yr ymrwymiadau hyn, a atgyfnerthir gan ein Gwerthoedd, eu hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n holl gwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid.";
Byddwn yn cynnig cyfle cyfartal ac nid ydym yn goddef gwahaniaethu ar sail:
rhyw, statws priodasol, tueddfryd rhywiol, hil, lliw, cenedligrwydd, crefydd, oedran, anabledd, bod yn HIV-bositif, patrwm gweithio, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch undeb llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall.
Byddwn yn dangos ein hymrwymiad drwy:
- hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn y cymunedau lle rydym yn gweithio ac ymysg ein holl bartneriaid a’n gweithlu cyfan;
- anelu at feithrin gweithlu sy’n adlewyrchu’n sylfaen o gwsmeriaid, o fewn y cymunedau amrywiol lle rydym yn gweithio, gyda’r nod o gyflawni cynrychiolaeth gyfartal ar draws y gweithlu;
- gwneud hyn drwy annog recriwtio o grwpiau a dangynrychiolir yn yr Adran ar hyn o bryd, a gwneud cynnydd wedi iddynt ddod i`r Adran;
- trin ein cwsmeriaid, cydweithwyr a’n partneriaid yn deg ac â pharch;
- hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o wahaniaethu, bwlio ac aflonyddu, a mynd i’r afael ag ymddygiad sy’n tarfu ar hyn;
- cydnabod a gwerthfawrogi’r gwahaniaeth a’r cyfraniad unigryw y mae pobl yn ei wneud;
- cynorthwyo ac annog staff i ddatblygu eu gyrfaoedd a chynyddu eu cyfraniad i’r sefydliad drwy wella’u sgiliau a’u galluoedd;
- ymgorffori gofynion deddfwriaethol ac arfer orau (er enghraifft, fel y nodir mewn Codau Ymarfer gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar Hil) yn ein holl bolisïau a gweithdrefnau ar gyflwyno gwasanaeth ac ar weithwyr, a chefnogi’r rhain gyda hyfforddiant ac arweiniad priodol.
Mae cyfrifoldeb personol ar bawb sy’n gweithio i’r Adran i weithredu a hyrwyddo’r egwyddorion hyn yn eu trafodion beunyddiol â chwsmeriaid, gyda’i gilydd ac â phartneriaid. Mae ymddygiad amhriodol yn annerbyniol.
Byddwn yn mesur ac yn adrodd ar effeithiolrwydd ein polisïau a’n gweithdrefnau ar gyflwyno gwasanaethau ac ar weithwyr mewn perthynas â’r egwyddorion hyn, drwy gyflwyno gofynion monitro perfformiad a gwybodaeth reoli i’n prosesau datblygu polisi a chynhyrchion. Defnyddir y wybodaeth hon i lywio polisïau yn y dyfodol ac i wella prosesau busnes.