Amdanom Ni

Cwestiynau cyffredin

Pa hyfforddiant fydda i’n cael?

Fel cyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl, mae hyfforddi a datblygu ein staff yn hanfodol. Bydd hyfforddiant penodol yn dibynnu ar ble rydych chi’n gweithio, ond byddwch yn cael y wybodaeth ac unrhyw sgiliau ychwanegol sydd eu hangen i wneud y swydd. Yn y tymor hirach, cewch gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol.

brig y dudalen

A fydd angen sgiliau cyfrifiadurol arna i?

Nid yw pob swydd yn DWP yn cynnwys defnyddio cyfrifiadur, er bod mwyafrif y swyddi yn gofyn am hynny mewn rhyw ffordd neu`i gilydd. Fodd bynnag, nid oes angen sgiliau neu brofiad TG arnoch i wneud cais am ein swyddi. Bydd faint y byddwch yn defnyddio cyfrifiadur yn dibynnu’n llwyr ar y gwaith y byddwch yn ei wneud. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r e-bost a Word, mae eraill hefyd yn defnyddio Excel a phecynnau cyfrifiadurol eraill. Byddwn yn darparu hyfforddiant ar y systemau y bydd angen i chi eu defnyddio.

brig y dudalen

Pa oriau fydda i’n gweithio?

Yn y rhan fwyaf o lefydd, gall ein staff ddewis gweithio ‘oriau hyblyg’. Ystyr oriau hyblyg yw bod rhywfaint o hyblygrwydd gennych yn oriau’ch contract. Os ydych chi’n gweithio’n amser-llawn, 37 awr yr wythnos yw hyn (36 awr yr wythnos yn ein parthau talu yn Llundain), heb gynnwys eich egwyl ginio. Yn amodol ar anghenion y gwaith, gallwch amrywio’r amseroedd rydych yn dechrau a gorffen ac yn cael eich egwyl ginio o fewn ffiniau amser penodol.

brig y dudalen

A alla i ddisgwyl y bydd fy nghyflog yn cynyddu?

Mae angen i bob gweithiwr fodloni lefelau perfformiad gofynnol i fod yn gymwys am godiad cyflog. Mae DWP yn cynnal trafodaethau tâl gyda`i Undebau Llafur i gytuno ar godiadau cyflog a chodiadau amrediad cyflog bob blwyddyn.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.