Amdanom Ni

Dethol yn deg

Ymdrechwn i fod yn deg, yn agored ac yn effeithiol wrth ddethol a recriwtio.

Rydym yn ceisio sicrhau bod hygyrchedd i’n swyddi gwag mor eang â phosibl. Rydym yn monitro’n gweithdrefnau recriwtio a dethol i sicrhau nad ydynt yn rhoi unrhyw un dan anfantais annheg.

Caiff pob swydd yn DWP ei llenwi ar sail cymwyseddau personol - sgiliau a galluoedd y byddwch efallai wedi eu meithrin yn y gwaith, gartref, yn yr ysgol, drwy weithgareddau hamdden neu drwy waith gwirfoddol.

Ym mhob cam o’r broses recriwtio, ac fel cyflogwr, byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i bobl sydd ag anableddau. Mae DWP yn ddefnyddiwr y Symbol Anabledd, sy’n golygu ein bod yn gweithredu’r Cynllun Cyfweliad Sicr.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.