Diwygio Lles

Cymorth i'r ardaloedd arbrofi

Ym mis Mehefin 2007, lansiodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ardaloedd arbrofi'r Strategaeth Dinasoedd yn y Confensiwn O Fudd-dal i Waith. Roedd hyn yn arwydd i'r ardaloedd arbrofi symud ymlaen i'r cam cyflawni.

Ar yr un pryd, lansiodd yr Ysgrifennydd Gwladol y Rhwydwaith Dysgu sydd â'r nod o gefnogi'r gwaith o rannu syniadau ac arfer da, ysgogi meddwl newydd a helpu i ddiwallu anghenion cyfathrebu'r ardaloedd arbrofi.

Bydd yr ardaloedd arbrofi yn cael arian a hyblygrwydd gan y Llywodraeth i wireddu eu huchelgeisiau. Ar 2 Ebrill 2007, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai'r ardaloedd arbrofi yn cael:

Targedau

Rydym wedi cytuno gyda'r ardaloedd arbrofi i leihad o 3 y cant yn nifer y bobl sydd ar fudd-daliadau a chynnydd cyfatebol mewn cyflogaeth. Caiff ffigurau manwl gywir eu pennu'n derfynol ar gyfer y targed budd-daliadau, gyda rhywfaint o gyd-drafod terfynol ar y targed cyflogaeth. Yna byddwn yn cefnogi'r ardaloedd arbrofi i gyflawni eu targedau lleol.

O ganlyniad, mae'r ardaloedd arbrofi sydd wedi cyrraedd y cam terfynol yn cael rhywfaint o'r Gronfa Ardaloedd o Amddifadedd.

Y cynnig i'r Ardaloedd Arbrofi

Nid oes a wnelo'r Strategaeth Dinasoedd ag arian newydd yn bennaf. Mae a wnelo â gwneud defnydd gwell o'r buddsoddiad presennol ym maes cyflogaeth a sgiliau yn lleol. Fodd bynnag, mae tair ffordd y gall DWP gyfrannu arian at y Strategaeth Dinasoedd.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.