Yn Barod am Waith, Sgiliau ar gyfer Gwaith: Datgloi Dawn Prydain
Ar 28 Ionawr 2008, cynhaliwyd cynhadledd gan James Purnell, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a John Denham, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau, a fynychwyd gan y Prif Weinidog, ar gyfer uwch arweinwyr a phartneriaid busnes.
Lansiwyd ‘Yn Barod am Waith, Sgiliau ar gyfer Gwaith: Datgloi Dawn Prydain’ yn y gynhadledd. Mae’r ddogfen hon yn dangos sut, drwy lywodraeth a busnes yn cydweithio, y gallwn ddatgloi dawn Prydain, sicrhau y gall cyflogwyr gael gafael ar y sgiliau sydd ei hangen arnynt i ffynnu, a rhoi cyfle i filiynau o bobl i wireddu eu potensial a newid eu bywydau.
Gosododd y gynhadledd a’r ddogfen y cynnig i gyflogwyr:
- Mae’r Llywodraeth yn sefydlu system gyflogaeth a sgiliau i fodloni anghenion cyflogwyr.
- Yn gyfnewid, rydym am i gyflogwyr gynnig cyfleoedd swyddi i gronfa fwy o ddawn posibl, ymroi i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithlu a chynnig lleoliadau prentisiaethau.
- Gall cyflogwyr ddisgwyl rôl ganolog wrth lywio’r newidiadau sydd eu hangen arnynt, a chymorth ddigyffelyb wrth recriwtio a hyfforddi gweithlu’r dyfodol.
- Mae cael hyn yn iawn yn hanfodol i gyflawni amcanion strategol allweddol yr Adran.
Y Ddogfen Lawn
- Darllenwch Yn
Barod am Waith, Sgiliau ar gyfer Gwaith: Datgloi Dawn Prydain (607KB)
(bydd y ddolen hon yn eich arwain at wefan yr Adran Arloesi, Prifysgolion a Sgiliau)
Areithiau Cynadleddau
- Darllenwch araith y Prif Weinidog (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan 10 Downing Street)
- Darllenwch araith James Purnell
Ffilmiau Cynadleddau
- Gwyliwch ffilm fer, Datgloi Dawn Prydain, a ddangosir mewn cynhadledd sy’n dangos sut y gall symud i mewn i waith wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a sut y gellir fod yn fuddiol i fusnesau. (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan YouTube.)
- Darllenwch drawsgrifiad Datgloi Dawn Prydain (18KB)

- Gwyliwch ffilm Yn barod am waith, yn seiliedig ar gyfer gwaith: trosolwg o’r gynhadledd. Mae’r ffilm hon yn dangos uchafbwyntiau areithiau gan y Prif Weinidog, James Purnell a Chadeirydd BT Syr Michael Rake a sylwadau gan ddirprwyon yn y gynhadledd. (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan YouTube.)
- Darllenwch drawsgrifiad Yn barod am waith, yn sgiliedig ar gyfer gwaith: trosolwg o’r gynhadledd (21KB)

Datgloi Dawn Prydain
- Darllenwch Datgloi
Dawn Prydain (514KB)
sef
canllaw fer am yr hyn sydd angen i gyflogwyr ei wybod i wneud gwahaniaeth
i’w busnes (bydd y cyswllt hwn yn eich arwain at wefan yr Adran Arloesi,
Prifysgolion a Sgiliau)
Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEPs) yn ffordd allweddol o gyflawni hyn. Bydd y Llywodraeth yn helpu cyflogwyr i gael mynediad at fwy o bobl sydd â sgiliau sy’n barod ar gyfer gwaith ac agwedd barod am waith. Ar hyn o bryd, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda thros 400 o gyflogwyr, drwy LEPs, i ddarparu ystod o gymorth, o hyfforddiant cyn-alwedigaethol sy’n addas i anghenion cyflogwyr i dreialon gwaith, a’i cysylltu’n llwyddiannus ar gyfer ymgeiswyr sy’n barod am waith.
Rydym yn ceisio cydgysylltu ein gwasanaethau er mwyn sicrhau ymagwedd ‘llwyddo’ i gymorth cyflogaeth a sgiliau Ar gyfer cyflogwyr o bob maint. Yn y dyfodol, dylai pob pwynt darparu mynediad at bob gwasanaeth roi mynediad at yr ystod llawn o gymorth sydd ar gael, er enghraifft, pan fydd cyflogwyr yn ymuno â LEPs bydd ganddynt fynediad at wasanaeth sy’n cefnogi eu hanghenion recriwtio ac sy’n sicrhau y bydd staff yn parhau i ddatblygu eu sgiliau, drwy’r gwasanaeth Train to Gain.