Diwygio Lles

Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth

Mae ‘Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhadaeth’yn amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gyrraedd y nod hirdymor o sicrhau 80% o gyflogaeth a sgiliau o’r radd flaenaf.

Mae’r papur yn ymateb i’r ymgynghoriad ‘Mewn gwaith, gwell eich byd’ a gynhaliwyd o fis Gorffennaf i fis Hydref 2007. Mae’n manylu’r camau a gymerir i ddiwygio’r system lles ymhellach, gan sicrhau y caiff pobl ddi-waith fynediad at gymorth effeithlon, modern, personol, a symud pobl o fod yn wylwyr ar yr ymylon – pobl oddefgar sy’n cael budd-daliadau – i ddod yn gyfranogwyr gweithredol – yn chwilio am waith, gwella eu sgiliau a datblygu.

Y ddogfen lawn

Asesiad effaith

Papur tystiolaeth y Fargen Newydd hyblyg

Mae ‘Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth’ yn amlinellu’r cynigion ar gyfer y Fargen Newydd hyblyg i ddarparu cymorth personol yn ôl i waith i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis. Caiff y Fargen Newydd hyblyg ei chynnal gan gyfundrefn well y Ganolfan Byd Gwaith sy’n cynnig mwy o gymorth i bobl yr hiraf y byddant yn ddi-waith.

Mae papur tystiolaeth y Fargen Newydd hyblyg yn dwyn ynghyd ymchwil a gomisiynwyd yn annibynnol a dadansoddiad mewnol o’r cymorth cyflogaeth ar gyfer ceiswyr gwaith yn y DU. Mae’r papur yn amlinellu’r dystiolaeth sy’n sylfaenol i’r cynllun Lwfans Ceisio Gwaith a’r Fargen Newydd hyblyg gwell ac yn eu cefnogi.

Yr heriau sy’n wynebu DWP yn y dyfodol: Ymchwil cydgynghorol gyda’r cyhoedd

Adroddiad ymchwil yw hwn sy’n edrych ar farn y cyhoedd ynghylch y prif heriau sy’n wynebu DWP. Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfres o weithdai cydgynghorol ledled Prydain Fawr. Roedd gan ymatebwyr berthynas agos â’r wladwriaeth les a safbwyntiau ar les sy’n canolbwyntio ar waith. Roeddent yn rhannu ymagwedd y Llywodraeth i gael pobl oddi ar fudd-daliadau ac i mewn i waith. Ychydig o wybodaeth oedd gan gyfranogwyr am yr heriau ond roeddent o’r farn bod DWP wedi gwneud gwaith da gan helpu pobl bob dydd

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.