Diwygio Lles

Trawsnewid yr Asesiad Gallu Personol

Yr Asesiad Gallu Personol yw’r broses a ddefnyddir i asesu cymhwyster unigolion ar gyfer budd-daliadau analluogrwydd.

Fel rhan o gynigion diwygio lles mae’r asesiad wedi’i adolygu, er mwyn ei drawsnewid yn asesiad mwy cadarnhaol o allu meddyliol a chorfforol a’r cymorth sydd ei angen ar unigolyn i’w helpu i weithio. Bydd y broses newydd, a elwir yr Asesiad Gallu  i Weithio, yn berthnasol i bobl sy’n gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth pan gyflwynir y Lwfans hwn yn hydref 2008.

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr o Undebau Llafur, elusennau a sefydliadau anabledd wedi gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar yr adolygiad hwn. Y canlyniad yw broses asesiad diwygiedig sy’n:

datblygu’r asesiad sy’n canolbwyntio ar waith ac iechyd.

Caiff yr asesiad diwygiedig ei arbrofi a’i werthuso yn awr, a gwneir unrhyw welliannau angenrheidiol. Caiff ei ddefnyddio yn 2008 ochr yn ochr â’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) newydd (yn unol â ESA yn derbyn cymeradwyaeth y llywodraeth).

Darllenwch yr Adroddiad Trawsnewid yr Asesiad Gallu Personol (290KB) PDF

Mae’r asesiad diwygiedig wedi cael ei brofi’n drylwyr. Cyhoeddwyd adroddiad dros dro ym mis Chwefror 2007 a’r adroddiad terfynol (740KB) PDF ym mis Tachwedd 2007. Byddwn yn dechrau defnyddio’r asesiad newydd yn yr Hydref 2008 ar gyfer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Newydd. 

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.