Llwybrau at Waith
Mae rhwng 80-90 y cant o bobl sy’n symud i fudd-daliadau analluogrwydd yn dweud wrthym eu bod am ddychwelyd i`r gwaith. Bydd y broses Llwybrau at Waith yn eu helpu i ddod yn annibynnol ac ennill bywoliaeth drwy dargedu rhai o`u rhwystrau sy`n gysylltiedig ag iechyd a thrwy roi cymroth ariannol.
Ers mis Rhagfyr 2006, mae cymorth Llwybrau at Waith wedi cael ei gyflenwi dros 18 o ddosbarthau i 40% o gwsmeriaid newydd a rhai sy’n gwneud ailgais am fudd-dal analluogrwydd.
O 3 Rhagfyr 2007, mae’r ddarpariaeth Llwybrau ar gael mewn 15 Dosbarth y Ganolfan Byd Gwaith ychwanegol, a ddarperir gan ddarparwyr o dan gontract. Cyhoeddwyd cam olaf contractau Llwybrau at Waith ar 20 Rhagfyr 2007 i gyflenwi’r rhaglen yn y 16 dosbarth Canolfan Byd Gwaith sy’n weddill o fis Ebrill 2008, gan gwblhau’r cyflwyniad cenedlaethol ledled Prydain Fawr.
- Asesiad Canlyniad Cydraddoldeb Anabledd: Cyflwyno Llwybrau at Waith a diwygiad budd-daliadau analluogrwydd (112KB)

- Mae'r ddogfen gwahoddiad i dendro ar gyfer Llwybrau at Waith Darparwyr ar gael yma.