Rhieni unigol
Mae Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb (a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf 2008) yn cynnwys cynigion newydd i gefnogi mwy o rieni unigol sydd â phlant iau i mewn i gyflogaeth fel bod paratoi am waith yn dod yn gynnydd naturiol, yn hytrach na cham sydyn ymlaen:
- prawf sgiliau pan fydd y plentyn ieuengaf yn 5 oed
- gofyniad i fynychu hyfforddiant sgiliau perthnasol ble mae hyn yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau a nodwyd gan y Prawf Iechyd Sgiliau fel rhwystr i ddechrau gweithio
- cyfnodau arbrofi i annog rhieni unigol sydd â phlant o dan 5 oed i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith cyn iddynt gael eu gorfodi i gael Prawf Iechyd Sgiliau.
Goblygiadau newydd ar gyfer rhieni unigol sydd â phlant hyn
Mae’r cynigion newydd o ran rhwymedigaethau ar gyfer rhieni unigol sydd â phlant hŷn fel y’u nodir yn Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth (cyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2007) bellach wedi’u cymeradwyo gan y Senedd a chânt eu gweithredu o 24ain Tachwedd 2004. Byddant yn ei gwneud yn ofynnol i rieni unigol sy’n gallu gweithio wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith os ydynt yn hawlio Cymhorthdal Incwm ar hyn o bryd am eu bod yn rhiant unigol pan fydd eu plentyn ifancaf yn:
- 12 oed neu’n hŷn o fis Tachwedd 2008
- 10 oed neu’n hŷn o fis Hydref 2009
- 7 oed neu’n hŷn o fis Hydref 2010.
Dim ond i rieni unigol sy'n gallu gweithio y bydd y newidiadau hyn yn berthnasol. Bydd rhieni unigol sydd â rhesymau eraill hefyd dros hawlio Cymhorthdal Incwm yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am Gymhorthdal Incwm neu fudd-daliadau priodol eraill, fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Er enghraifft, os oes ganddynt blentyn y mae canol y gyfradd o elfen gofal Lwfans Byw i'r Anabl yn daladwy iddynt, neu os ydynt yn hawlio Lwfans Gofalwr, neu'n maethu.
Cymorth cyn-gyflogaeth a chymorth mewn gwaith
Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys cymorth cyn-gyflogaeth a chymorth mewn gwaith wedi'u hanelu at wneud y broses o drosglwyddo o fod ar fudd-daliadau i waith yn haws.
- Ehangu a datblygu cynlluniau peilot y Fargen Newydd a Mwy ar gyfer Rhieni Unigol.
- Ymestyn cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith bob chwe mis ymhellach i rieni unigol â phlentyn ieuengaf rhwng 0 a 4 oed. O fis Ebrill 2008 bydd pob rhiant unigol â phlentyn ieuengaf sy'n 13 oed neu'n iau yn mynd am gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith bob chwe mis
- Cyfweliad Swydd Gwarantedig i bob rhiant unigol sy'n chwilio am waith ac sy'n barod i weithio.
- Digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau i rieni unigol y mae eu plentyn ieuengaf yn 11 oed neu drosodd, neu'n nesáu at 11 oed, a fydd yn eu galluogi i ddeall sut y gall y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner eraill eu helpu i baratoi i ddychwelyd i'r gwaith, datblygu eu sgiliau a deall sut mae'r farchnad lafur leol yn gweithio.
- Treialon Gwaith sy'n rhoi cyfle i rieni unigol (a chwsmeriaid di-waith eraill) roi cynnig ar swydd am hyd at 15 diwrnod heb orfod rhoi'r gorau i fudd-dal.
- Talu £40 yr wythnos (£60 yn Llundain) o Gredyd Mewn Gwaith am 52 o wythnosau i rieni unigol sy'n rhoi'r gorau i fudd-daliadau i weithio 16 awr neu fwy a hefyd i rieni sy'n gyplau yn Llundain sydd mewn gwaith â thâl am 24 awr yr wythnos.
- Mae Cronfa Disgresiwn Frys Mewn Gwaith yn rhoi help ariannol i rieni unigol am y 26 wythnos cyntaf yn eu gwaith, i oresgyn unrhyw rwystrau ariannol annisgwyl a allai eu hatal rhag aros yn eu swyddi fel arall.
- Cymorth Ymgynghorol Mewn Gwaith gan Gynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith i bob rhiant unigol yn ei 26 wythnos cyntaf mewn gwaith i helpu i ddatrys unrhyw anawsterau, a chyfeirio unigolion at unrhyw gymorth sydd ei angen fel sgiliau a hyfforddiant.
- Mae cynllun peilot Cronfa Gofal Plant Ymlaen Llaw yn Llundain yn rhoi cymorth ariannol i rieni unigol i dalu costau gofal plant ymlaen llaw fel ffioedd cofrestru, blaendaliadau a thaliadau ymlaen llaw.
O fis Gorffennaf 2008
- Ehangu Credyd Mewn Gwaith i rieni sy'n gyplau yn nosbarthau cynllun peilot y Fargen Newydd a Mwy ar gyfer Rhieni Unigol ledled y wlad.
- Mae cynllun peilot Cadw Mewn Gwaith yn gynllun peilot dwy flynedd i brofi effeithiolrwydd defnyddio Credyd Mewn Gwaith fel cymorth i gadw swydd a datblygu ynddi. Ar ôl cyfnod o daliadau wythnosol i gynorthwyo â'r broses o drosglwyddo i mewn i waith, bydd rhieni unigol yn cael cyfandaliadau os byddant yn mynd i gyfarfodydd pellach gyda Chynghorydd Personol.
O fis Hydref 2008
- Treial Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith i sicrhau bod rhieni unigol (a chwsmeriaid sy'n cael Lwfans Ceisio Gwaith a Budd-dal Analluogrwydd) o leiaf £25 yr wythnos yn well eu byd mewn gwaith nag y byddent ar fudd-daliadau allan o waith. Os bydd yn llwyddiannus, caiff ei ehangu yn 2009.
O fis Tachwedd 2008
- Cyfweliadau sy'n Canolbwyntio ar Waith yn chwarterol i rieni unigol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyn i'w plentyn gyrraedd yr oedran pan gallent golli'r hawl i gael Cymhorthdal Incwm.
Gofal plant
Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr sicrhau gofal plant digonol i ddiwallu anghenion rhieni unigol o fis Ebrill 2008. Bydd asesiadau awdurdod lleol a gynhaliwyd yn 2008 yn nodi'r galw am wahanol fathau o ofal plant gan rieni unigol, yn cynnwys y rhai sy'n addysgu eu plant gartref.
Gweithio hyblyg
Ar 26 Awst 2008 cyhoeddodd yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) ymgynghoriad ar sut i ymestyn yr hawl i wneud cais ar gyfer gweithio hyblyg i rieni sydd â phlant 16 oed ac iau. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 18 Tachwedd 2008.
- Ymestyn yr hawl i wneud cais ar gyfer gweithio hyblyg i rieni plant hyn (cysylltiadau i wefan BERR)