Diwygio Lles

Pobl Hŷn a chyflogaeth

Rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein gweithwyr hŷn. Bydd y mesurau lles diwygiedig hyn yn helpu i sicrhau bod y farchnad lafur yn decach i geiswyr gwaith 50 oed a throsodd.

Byddwn yn alinio ein cymorth cyflogaeth i bobl ddi-waith hirdymor 50-59 oed gyda phobl sydd yn eu 30au a`u 40au. Yn ogystal, byddwn yn gwella cymorth dychwelyd i`r gwaith i geiswyr gwaith sy`n 50 a throsodd a`u partneriaid. Trefnir cynlluniau peilot i brofi ffyrdd o ddarparu gwybodaeth a fydd yn helpu pobl i wneud penderfyniadau am waith, hyfforddiant ac ymddeoliad. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i`w helpu i weld y manteision o’r busnes o gyflogi gweithwyr hŷn fel rhan o weithlu sy`n gymysg o ran oedran a`u hannog i ymestyn trefniadau gweithio ac ymddeoliad hyblyg.

Ar 1 Hydref 2006 daeth deddfwriaeth ar wahaniaethu ar sail oedran i rym. Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail oedran wrth gyflogi neu gynnig hyfforddiant galwedigaethol. Gwnaeth hefyd gyflwyno oedran ymddeol diofyn o 65 oed. Ni all cyflogwyr orfodi pobl i ymddeol o dan yr oed hwn oni allant gyfiawnhau, yn eu hachos arbennig hwy, y gallant gyfiawnhau oedran is. Gwnaeth cyflogeion hefyd ennill yr hawl  a threfniant ffurfiol i wneud cais i weithio y tu hwnt i oedran ymddeol eu cyflogwr, a bydd dyletswydd ar y cyflogwr i ystyried hynny. Cynhelir adolygaid o’r oedran ymddeol diofyn yn 2011. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Yn Gadarn o Blaid Oedran (mae'r wefan ar gael yn Saesneg yn unig).

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.