Deddfwriaeth a dogfennau allweddol
Isod ceir rhestr isod o’r ddeddfwriaeth Diwygio lles diweddar a dogfennau allweddol eraill.
- Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb - Gorffennaf 2008. Yn nodi amrywiaeth o opsiynau i leihau dibyniaeth ar fudd-daliadau, cefnogi mwy o bobl i mewn i waith, rhoi gwell cymorth a rheolaeth i bobl anabl ac atgyfnerthu cyfrifoldeb rhieni.
- Sgiliau Gwaith– Mehefin 2008. Yn amlinellu sut y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i helpu pobl gymryd rheolaeth o’u hanghenion sgiliau, ar gyfer heddiw a’r dyfodol, a sut y byddwn yn cefnogi cyflogwyr i gael y gweithlu sgiliedig sydd eu hangen arnynt. Rhagor o wybodaeth am Sgiliau Gwaith (cysylltiadau i wefan Department for Innovation, Universities and Skills)
- Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – Mawrth 2008, yn gosod amodau hawlio’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) o 27 Hydref 2008.
- Gweithio
ar gyfer dyfodol mwy iachus (2.4MB)
– Mawrth
2008. Adolygaid y fonesig Carol Black ynglŷn ag iechyd y boblogaeth
oedran gweithio, a gomisiynwyd ar y cyd rhwng DWP a’r Adran
Iechyd. - Yn Barod am Waith, Sgiliau ar gyfer Gwaith: Datgloi Dawn Prydain – Ionawr 2008. Mae’n amlinellu sut y gall llywodraeth a busnes gydweithio i datgloi dawn Prydain, a sicrhau y gall cyflogwyr gael gafael ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu, a rhoi cyfle i filiynau o bobl wireddu eu potensial a newid eu bywydau.
- ‘Trawsnewid
marchnad lafur Prydain – Deng mlynedd o’r Fargen Newydd’ (493KB)
– Ionawr
2008. Yn adlewyrchu ar lwyddiant y Fargen Newydd dros y deng mlynedd diwethaf
ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. - ‘Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth ’ – Rhagfyr 2007. Ymateb i’r ymgynghoriad ‘Mewn gwaith, gwell eich byd’ ac yn amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gyrraedd y nod o gyfradd gyflogaeth o 80 y cant a phobl mewn gwaith gyda sgiliau byd-eang o’r radd flaenaf.
- ‘DWP
Commissioning Strategy – interim report’ (74KB)
– Tachwedd
2007. Yn amlinellau rhai’r o’r prif ffyrdd rydym yn bwriadu
gweithio mewn partneriaeth â’r sectoriaid preifat, cyhoeddus
a thrydydd partïon. - ‘Cyfle, Cyflogaeth a Chynnydd:
gwneud i sgiliau weithio’ (132KB)
– Tachwedd
2007. Yn amlinellu sut y bydd y Llywiodraeth yn symud yr agenda cyflogaeth
a sgiliau ymlaen. - 'Mewn gwaith, gwell eich byd' – Gorfennaf 2007. Yn pennu mesurau pellach i gyflawni nod y Llywodraeth o sicrhau cyflogaeth i bawb.
- Y Ddeddf Diwygio Lles 2007 – Y ddeddfwriaeth sy’n dod â mesurau fel diwygio budd-dal analluogrwydd a Budd-dal Tai, a mesurau eraill i ddiwygio’r system fudd‑daliadau, yn rhan o’r gyfraith.
- ‘Gweithio i Blant ’ – Mawrth 2007. Strategaeth y Llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi ymhlith plant. (Bydd y cyswllt yma’n mynd â chi at dudalennau tlodi ymhlith plant gwefan DWP.)
- ‘Reducing dependency, increasing opportunity: options for the future of welfare to work’ – Mawrth 2007. Adroddiad annibynnol David Freud i DWP ar gyfer adolygiad hirdymor y Llywodraeth o’r strategaeth o fudd-dal i waith.
- Seminarau ‘Y Wladwriaeth Les: y 10 mlynedd nesaf’ – Ionawr / Chwefror 2007. Cyfres o seminarau i drafod materion allweddol yn natblygiad y wladwraieth les yn y degawd nesaf.
- ‘Prosperity for all in the global economy – world class skills’ – Rhagfyr 2006. Adolygiad yr Arglwydd Leitch o’r galw am sgiliau hirdymor. (Bydd y cyswllt yma’n mynd â chi at wefan Trysorlys EM.)
- ‘Delivering on Child Poverty: what would it take?’ – Tachwedd 2006. Adroddiad Lisa Harker i DWP ar eu strategaeth o dlodi ymhlith plant. (Bydd y cyswllt yma’n mynd â chi at ganolfan adnoddau gwefan DWP.)
- ‘Bargen Newydd ar gyfer Lles: Galluogi Pobl i Weithio’ – Ionawr 2006. Yn pennu cynigion gan gynnwys adolygu budd-daliadau analluogrwydd a Budd-dal Tai.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.