Rhwydwaith Dysgu'r Strategaeth Dinasoedd
Mae gan bartneriaid lleol a DWP ddisgwyliadau uchelgeisiol iawn i'r Strategaeth Dinasoedd - gan wthio ffiniau hyblygrwydd a datganoli i roi cyfleoedd gwell a mwy ohonynt i bobl heb waith.
Mae Strategaethau Dinasoedd yn her o ran polisi a chyflawni i bartneriaid lleol a chenedlaethol ac mae DWP yn parhau i annog bob partner i ddysgu o’i gilydd ac ysgogi ffordd newydd o feddwl.
Bydd y Rhwydwaith Dysgu yn:
- ysgogi meddwl newydd
- helpu i adeiladu capasiti partneriaid lleol
- darparu rôl newydd i bartneriaid cenedlaethol a lleol
- hyrwyddo arfer gorau
- helpu anghenion cyfathrebu a gwybodaeth rhwng Strategaethau Dinasoedd a llywodraeth genedlaethol.
Mae'r Rhwydwaith Dysgu ar gyfer:
- polisïau'r Strategaeth Dinasoedd a gwneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel
- llywodraeth genedlaethol a llywodraeth ranbarthol
Mae hefyd ar gyfer:
- pob partner lleol sy'n gysylltiedig â chonsortia
- darparwyr
- ardaloedd nad ydynt yn rhan o'r Strategaeth Dinasoedd i ddeall gweithgarwch a chynnydd.
Newyddion Rhwydwaith Dysgu
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau ar fin llunio Rhwydwaith Dysgu newydd yn dilyn cyhoeddiad diweddar am estyniad Ardaloedd Arbrofi’r Strategaeth Dinasoedd am ddwy flynedd o fis Ebrill 2009.
Ym mis Mehefin 2008 gwnaethom ofyn i’r Ardaloedd Arbrofi am eu sylwadau ar y Rhwydwaith Dysgu a sut i ddatblygu’r Rhwydwaith Dysgu? Darllenwch eu hymatebion yn y Gwerthusiad Rhwydwaith Dysgu (27KB) ![]()
Darparu'r hyn sydd ei angen
Ein cam cyntaf fydd cynnal arolwg o'r Strategaethau Dinasoedd ynghylch yr hyn sydd ei angen arnynt a'u dewis ddull o gyfathrebu. Ymhlith y mathau o weithgareddau rydym yn eu hystyried mae:
- Seminarau â thema ac ysgrifau ystyriol – cyfarfodydd a deunydd ysgrifenedig a fydd yn ysgogi ffordd newydd o feddwl a gwell dadansoddi, gan wahodd cyfraniadau gan ystod eang o bobl a sefydliadau sydd â rhywbeth i'w ddweud.
- Cyfarfodydd chwarterol – hyrwyddo'r dasg o gyfnewid barn a gwybodaeth, a helpu partneriaid lleol a llywodraeth genedlaethol i weithio gyda'i gilydd i gynllunio a chyflawni Strategaethau Dinasoedd.
- Sesiynau e-friffio rheolaidd – sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu o'r syniadau, arfer da, ymchwil, data a materion busnes diweddaraf.
- Ymweliadau astudio – mae gweld bob amser yn helpu i ddeall, a dyna pam ein bod yn cynnig trefnu teithiau astudio fel rhan o gyfarfodydd chwarterol ac ar gais.
- Hyfforddiant a chymorth technegol – bydd adeiladu capasiti pob partner yn un o swyddogaethau pwysig y Rhwydwaith - gan roi cymorth a hyfforddiant a fydd yn gwella dadansoddi, cynllunio a chyflawni.