Budd-daliadau analluogrwydd
Mae'r Papur Gwyrdd: Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb, cyhoeddi 21 Gorffennaf 2008, yn amlinellu'r camau nesaf ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a diwygiadau budd-daliadau analluogrwydd. Mae hyn yn cynwys cynlluniau i symud cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd presennol i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae'r cynigion yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus tan 22 Hydref 2008.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
O 27 Hydref 2008, bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm y gwneir cais amdanynt ar sail analluogrwydd ar gyfer cwsmeriaid newydd. Bydd y system newydd yn ystyried beth mae'r unigolyn yn gallu ei wneud, a pha help a chymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu cyflwr a dychwelyd i'r gwaith.
Rhwng 2010 a 2013 bwriedir cyflwyno hawlwyr presennol i mewn i'r system newydd. Bydd budd-daliadau presennol yn parhau i gael eu talu hyd y pwynt hwnnw.
Asesiad Gallu i Weithio
Bydd prawf newydd, Asesiad Gallu i Weithio, yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref 2008 ar gyfer ceisiadau am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a bydd yn gymwys i bawb fydd yn gwneud cais am y lwfans newydd. Bydd yn asesu beth mae unigolyn yn gallu ei wneud - yn hytrach na beth na all ei wneud. Bydd yr asesiad yn edrych ar allu corfforol a meddyliol pobl, gan gynnwys cyflyrau fel anableddau dysgu a chyflyrau eraill tebyg.
Yn dilyn yr asesiad hwn bydd y mwyafrif o unigolion yn cael cymorth a chyngor cyflogaeth er mwyn eu galluogi i ddychwelyd i'r gwaith lle bo'n bosibl.
Bydd pobl sydd â chyflwr sy'n achosi cyfyngiad difrifol iawn o'u gallu, na allant gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith yn cael cyfradd uwch o fudd-dal. Byddant yn dal i allu gwirfoddoli i gael cymorth a chyngor cyflogaeth os ydynt yn dymuno.
O 2010, bydd yr Asesiad Gallu i Weithio newydd, cywirach hwn yn cychwyn cael ei gymhwyso i gwsmeriaid presennol budd-daliadau analluogrwydd.
Mae'r mesur hwn yn rhan o Deddf Diwygio Lles 2007.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl ar fudd-daliadau analluogrwydd yn Llwybrau at Waith.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – gwybodaeth i gwsmeriaid ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - gwybodaeth i bobl broffesiynol a chynghorwyr
- Rheoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008