Cymorth Tai
Rydym yn parhau i wneud newidiadau i Fudd-dal Tai a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl symud i mewn i waith, yn helpu awdurdodau lleol i brosesu ceisiadau yn gynt, yn hybu mwy o ddewis a chyfrifoldeb i denantiaid, yn hybu cynhwysiant ariannol ac yn helpu i fynd i`r afael â thwyll budd-daliadau.
Gwelwyd diwygiadau Budd-dal Tai a gynhwysir yn Neddf Diwygio Lles 2007 yn galluogi cyflwyniad cenedlaethol y Lwfans Tai Lleol (LHA) ar draws y sector rhentu preifat o fis 7 Ebrill 2008. Mae LHA yn cynnig ffordd haws a mwy clir o gyfrifo hawl i Fudd-dal Tai. Mae hefyd darpariaethau sy’n cefnogi ein hymdrechion i annog mwy o denantiaid y sector cymdeithasol i reoli eu taliadau rhent eu hunain.
Mae’r Ddeddf yn ein galluogi i gynnal cynllun peilot i leihau Budd-dal Tai pobl sydd wedi cael eu troi allan o’u cartrefi oherwydd ymddygiad gwerth-gymdeithasol ac sy’n anfodlon ymgymryd a’r broses adsfedylu. Mae’r cynlluniau peilot wedi bod yn rhedeg ers 1 Tachwedd 2007 yn yr ardaloedd awdurdod lleol canlynol:
- Cyngor Bwrdeistref Blackburn a Darwen
- Cyngor Bwrdeistref Blackpool
- Cyngor Dosbarth Dover
- Cyngor Dinas Manceinion
- Cyngor Dosbarth New Forest
- Cyngor Bwrdeistref Newham Llundain
- Cyngor Bwrdeistref Swydd Caerloyw
- Cyngor Bwrdeistref Metropolaidd Cilgwri
Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi i awdurdodau lleol i ymchwilio ac erlyn twyll sy’n gysylltiedig â budd-daliadau DWP yn ogystal â budd-daliadau a weinyddwyd ganddynt.