Iechyd, gwaith a lles
Nod y llywodraeth yw gwella iechyd a lles cyffredinol yr holl boblogaeth sydd o oedran gweithio. Bydd hyn yn lleihau nifer y bobl fydd yn cymryd cyfnod salwch ac yn hawlio budd-daliadau salwch.
Trwy weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr iechyd proffesiynol, byddwn yn:
- creu gweithleoedd mwy iachus
- sicrhau darpariaeth gwasanaethau iechyd galwedigaethol da
- gwella cymorth adfer iechyd
- ceisio darparu cyfleoedd cyflogaeth i’r rheiny sydd ar hyn o bryd ddim yn gweithio oherwydd salwch neu anabledd.
Mae’r Strategaeth iechyd, gwaith a lles yn bartneriaeth rhwng yr Adran Iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gweithrediaeth yr Alban. Rydym am i iechyd a lles pobl o oedran gweithio gael y sylw y mae’n ei haeddu. Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn gallu gweithio, eu bod yn hapus ac yn iach yn y gwaith, ac y gall y rhai sydd â phroblemau iechyd neu anableddau fanteisio ar well cyfleoedd gweithio.
Fel rhan o’r Strategaeth iechyd, gwaith a lles mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd ar y cyd wedi comisiynu'r Fonesig Carol Black i adolygu iechyd y bobl o oedran gweithio.
- Darllenwch mwy am adolygiad Y Fonesig Carol ‘Gweithio ar gyfer dyfodol mwy iachus’ a’r Strategaeth iechyd, gwaith a lles ar wefan Gweithio ar gyfer Iechyd.