Diwygio Lles

Bargen Newydd ar gyfer Lles: Galluogi Pobl i Weithio

Ymateb ymgynghori

Cyhoeddodd y Llywodraeth ymateb i`r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd `Bargen newydd ar gyfer lles: Galluogi pobl i weithio` – a`i hymateb i adroddiad y Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau ar `Fudd-daliadau Anablluogrwydd a Llwybrau at Waith – ar 19 Mehefin 2006.
Mae`r ddwy ddogfen yn nodi cynigion DWP ar gyfer Diwygio Lles ac maent yn adlewyrchu adborth dros 600 o sefydliadau ar yr ymgynghoriad.

brig y dudalen

Bargen Newydd ar gyfer Lles: Galluogi Pobl i Weithio

Lansiodd y Llywodraeth Bapur Gwyrdd `Bargen newydd ar gyfer lles: Galluogi pobl i weithio` ar 24 Ionawr 2006.
Roedd y ddogfen hon yn garreg filltir i`r Adran o ran cyflawni ei hamcanion i hyrwyddo cyfle ac annibyniaeth i bawb. Roedd yn  cynnwys cynigion newydd pwysig i helpu unigolion i wireddu eu potensial drwy weithio.

HTML

PDF

brig y dudalen

Fersiynau amgen

Mae fersiynau amgen o`r Papur Gwyrdd a`r adroddiad ymgynghori ar gael mewn amrywiaeth o fformatau (yn cynnwys copi caled, tâp saon, Braille, fersiwn hawdd ei ddarllen print bras a Saesneg). Gallwch archebu`r rhain drwy gysylltu â`r Tîm Diwygio Lles.

brig y dudalen

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.