Strategaeth Dinasoedd
Nod y Strategaeth Dinasoedd yw mynd i'r afael ag achosion o beidio â gweithio yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ledled y DU - y mae llawer ohonynt yn ddinasoedd mawr ac ardaloedd trefol eraill.
I ddechrau bydd yn canolbwyntio ar 15 ardal arbrofol sydd bellaf o nod y Llywodraeth o 80% o gyflogaeth ar hyn o bryd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ein prif ddinasoedd ac ardaloedd trefol eraill. Roedd y 15 ardal arbrofol Strategaeth Dinas i fod i orffen ym mis Mawrth 2009. Mae gweinidogion wedi cytuno i ymestyn cymorth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer pob ardal arbrofol am ddwy flynedd arall.
Mae'r strategaeth yn seiliedig ar y syniad y gall partneriaid lleol gyflawni mwy os byddant yn cyfuno ac yn alinio eu hymdrechion y tu ôl i flaenoriaethau a rennir, ac os rhoddir mwy o ryddid iddynt i roi cynnig ar syniadau newydd a theilwra gwasanaethau mewn ymateb i angen lleol. Ei nod fydd:
- sicrhau bod darpariaeth yn fwy cydnaws ag anghenion cyflogwyr lleol fel y gall unigolion feithrin y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i gael gafael ar y swyddi penodol y mae angen i gyflogwyr eu llenwi
- chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gynyddu cyfraddau cyflogaeth lleol, gan sicrhau bod y rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur yn gallu cael y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt.
Drwy wneud hynny, gobeithiwn y bydd yn cyfrannu at nodau hirdymor y llywodraeth sef cynyddu nifer y bobl sy'n gweithio a mynd i'r afael â thlodi plant.
Bydd y strategaeth yn profi:
- y ffordd orau o gyfuno gwaith asiantaethau'r llywodraeth, llywodraeth leol, y sector preifat a'r sector gwirfoddol mewn partneriaeth leol gydunol (consortiwm) - er mwyn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bobl heb swyddi i ddod o hyd i waith ac i wneud cynnydd ynddo
- a all rhanddeiliaid lleol gyflawni mwy drwy gyfuno ac alinio eu hymdrechion y tu ôl i flaenoriaethau a rennir, ochr yn ochr â mwy o ryddid i arloesi, a theilwra gwasanaethau mewn ymateb i anghenion lleol.
- Gwerthuso Strategaeth y Ddinas – y diweddaraf ar y gwerthusiad cenedlaethol cyntaf Gorffennaf 2008 (74KB)
