Diwygio Lles

Mynegi diddordeb

Yn dilyn ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai`r ardaloedd arbrofi ar gyfer strategaethau`r dinasoedd yn cael eu dewis drwy ymarfer `mynegi diddordeb`.

Gwahoddwyd nifer o ardaloedd i gyflwyno cynnig gan ddefnyddio profforma safonol, gan ddilyn arweiniad a gyhoeddwyd gan DWP (57KB) PDF .

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb oedd 3 Gorffennaf 2006 a chyhoeddwyd yr ardaloedd llwyddiannus ar 27 Gorffennaf.

Mewn ysbryd arloesedd calonogol a thrwy rannu syniadau ac arfer da, mae pob un o`r ardaloedd arbrofi wedi cytuno y gellir cyhoeddi eu diddordeb ar y wefan hon. Ni fu dwy ardal arbrofi yn Llundain a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cymryd rhan yn yr ymarfer mynegi diddordeb, ond maent wedi cytuno y bydd eu cynlluniau interim ar gael ar yr un sail.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.