Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol
Rydym ni wedi llunio'r Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol yn sgil yr ymrwymiad a roddwyd yn yr Adroddiad ar Ail Gam yr Adolygiad o Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr (ELCI).
Rydym wedi cynnwys rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys adrannau perthnasol y Llywodraeth a'r gweinyddiaethau datganoledig. Rydym wedi dosbarthu mwy nag 8,000 copi o'n Papur Trafod ac mae'r ymatebion wedi`n helpu ni i ddatblygu'r Fframwaith.
Mae cysylltiadau i'r dogfennau perthnasol ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.
Mae'r Fframwaith hwn ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol yn gam cyntaf tuag at ddatblygu ymagwedd newydd. Mae'n dangos ymrwymiad y Llywodraeth i gynnig arweiniad ac arweinyddiaeth ar ailsefydlu galwedigaethol drwy:
- lunio disgrifiad ymarferol o ailsefydlu galwedigaethol y gall pawb ei ddefnyddio
- gweithredu'n briodol er mwyn sicrhau bod mentrau`r Llywodraeth yn ategu ei gilydd ac yn cynnwys negeseuon sy'n gyson â'i gilydd
- sefydlu grŵp Llywio Ailsefydlu Galwedigaethol er mwyn i randdeiliaid allu cyfrannu at ddatblygu'r ymagwedd newydd tuag at ailsefydlu galwedigaethol
- sefydlu Gweithgor Ymchwil a Gweithgor Safonau ac Achredu i symud y materion pwysig hyn ymlaen
- datblygu arweiniadau newydd ac offer eraill i randdeiliaid
- ymrwymo i ystyried yr ystod o faterion y mae rhanddeiliaid wedi'u codi, a
- phwysleisio bod gan y sector cyhoeddus gyfraniad sylweddol i'w wneud drwy osod esiamplau priodol - yn enwedig adrannau'r Llywodraeth a`r gweinyddiaethau datganoledig.
Safbwyntiau rhanddeiliaid
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth fanwl am sylwadau rhanddeiliaid ar wahân mewn Atodiad i'r Fframwaith. Mae'r Atodiad yn cynnwys:
- Atodiad A - Trosolwg o'r ymatebion i'r papur trafod y dosbarthodd DWP ym mis Mai 2004 ar ddatblygu Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol.
- Atodiad B - Detholiad o strategaethau, mentrau a phrosiectau cyfredol sy'n berthnasol i ailsefydlu galwedigaethol.
- Atodiad C - Astudiaethau Achos ar Ailsefydlu Galwedigaethol.
| Dogfennau | Fformat |
|---|---|
| Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol: Cynllun ar gyfer symud pobl nôl i waith os ydynt yn sâl neu wedi cael eu brifo (500KB) | |
| Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol: Meithrin Gallu i Weithio (275KB) | |
| Atodiad i'r Fframwaith (225KB) | |
| Datganiad gweinidogol | HTML |
| Adolygiad o ELCI - Adroddiad ar y Cam Cyntaf (211KB) | |
| Adolygiad o ELCI - Adroddiad ar yr Ail Gam (132KB) | |
| Y Papur Trafod - Datblygu Fframwaith ar gyfer Ailsefydlu Galwedigaethol (57KB) |
Diweddariadau ar weithredu
Byddwn ni'n cyhoeddi dogfennau sy'n berthnasol i'r Fframwaith ar y wefan hon er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ar y modd y caiff ei weithredu - er enghraifft, adroddiadau ymchwil a phapurau trafod yn y dyfodol.