Canolfan adnoddau

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn


Gall ymdopi â chostau ychwanegol babi newydd fod yn anodd, yn enwedig os ydych chi ar incwm isel.

Mae grant ar gael i'ch helpu i roi cychwyn cadarnhaol i'ch babi mewn bywyd. Ei enw yw'r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Telir y grant o'r Gronfa Gymdeithasol ac nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.

brig y dudalen

Pwy gaiff dderbyn y grant?

Gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os ydych chi neu'ch partner yn derbyn:

brig y dudalen

Sut ydw i'n gwneud cais?

Gallwch wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar ffurflen SF100 Cychwyn Cadarn, y gallwch gael gafael arni yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol

Os oes partner gennych, gall unrhyw un ohonoch chi lenwi'r ffurflen gais, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys enw mam y babi. Llenwch eich ffurflen a`i hanfon yn ôl i`ch Canolfan Gwaith leol neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Gallwch wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn unrhyw bryd o`r 29ain wythnos y byddwch chi'n feichiog hyd y bydd eich plentyn yn dri mis oed.

Os ydych chi'n mabwysiadu plentyn, mae'n rhaid i chi wneud cais am y grant cyn pen tri mis i'r dyddiad mabwysiadu ac ni ddylai'r plentyn fod yn hŷn na 12 mis oed pan wnewch chi'ch cais.

Os ydych chi neu'ch gŵr neu wraig wedi cael gorchymyn rhiant ar gyfer genedigaeth croth fenthyg, mae'n rhaid i chi wneud cais cyn pen tri mis i ddyddiad y gorchymyn rhiant.

brig y dudalen

Lawrlwythwch ffurflen gais am Grant Mamolaeth

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais am Grant Mamolaeth ar ffurf PDF (226KB). Mae nodiadau gyda`r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i roi gwybod i chi ble i'w hanfon ar ôl ei llenwi. Ni allwch ddefnyddio'r ffurflen hon yng Ngogledd Iwerddon. 

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn: argraffwch ffurflen i'w llenwi mewn llawysgrifen (226KB)

Os cewch anawsterau technegol wrth:

Cysylltwch â Desg Gymorth yr e-Wasanaeth.

brig y dudalen

Pa wybodaeth mae'n rhaid i mi ei rhoi?

Bydd angen i chi roi gwybod i ni beth yw dyddiad disgwyliedig genedigaeth eich babi. Os yw'ch babi wedi'i eni eisoes, mae angen i ni wybod dyddiad yr enedigaeth, yr enedigaeth groth fenthyg neu'r dyddiad mabwysiadu. Os ydych chi'n gwneud cais ar ôl mabwysiadu neu enedigaeth croth fenthyg, bydd angen i ni weld eich papurau mabwysiadu neu orchymyn rhiant. Dylech roi'r rhai gwreiddiol, yn hytrach na llungopïau.

Hefyd, bydd angen i chi ddangos i ni eich bod chi wedi cael cyngor ar anghenion iechyd a lles cyffredinol eich babi - ac ar iechyd y fam, os ydych chi'n gwneud cais cyn genedigaeth y babi. Mae tystysgrif ar gefn y ffurflen gais i chi ei defnyddio.

Bydd angen i chi ofyn i un o'r canlynol lofnodi'r dystysgrif:

brig y dudalen

A fydd fy nghynilion yn effeithio ar fy ngrant?

Fel rheol, ni fydd cynilion yn effeithio ar swm Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.