Diwygio Pensiynau

Diogelwch ar ôl Ymddeol

Ar 25 Mai 2006 cyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i sialens pensiynau hir dymor y DU. Mae ein Papur Gwyn 'Sicrwydd mewn ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd'' yn anelu at annog mwy o bobl i gynllunio a chynilo ar gyfer ei hymddeoliad.
Bydd y diwygiadau arfaethedig yn darparu seilwaith ar gyfer y system dros y deugain mlynedd nesaf. Byddant hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer consensws newydd a pharhaol ynglyn â phensiynau.

Rhwng mis Mai a mis Medi 2006, gwnaeth y Llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar becyn diwygiadau yn y Papur Gwyn. Gwnaeth oddeutu 350 o unigolion a sefydliadau ymateb i’r ymgynghoriad. Cyhoeddodd y Llywodraeth grynodeb o’r ymatebion a’i cynigion ar gyfer symud ymlaen ar 30ain Hydref 2006.

Ym mis Tachwedd 2006 cyhoeddodd y Llywodraeth ei Mesur Pensiynau. Mae’r ddogfen hon yn deddfu ar gyfer diwygiadau pensiynau hir dymor, gwneud pensiwn y wladwriaeth yn fwy teg ac yn fwy hael a darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynilo’n breifat.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.