Diwygio Pensiynau

Trefniant pensiynau newydd: ein cynigion ar gyfer diwygio

Ein prif flaenoriaeth yw ei gwneud yn haws i fwy o bobl gynilo ar gyfer eu hymddeoliad. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn cyflwyno’r canlynol yn 2012:

36. Cynllun cyfrifon personol newydd, a fydd yn cynnig cyfle syml i gyfrannu at gyfrwng cynilo sydd o safon uchel a chost isel. Bydd gan y cynllun y nodweddion allweddol canlynol:

Bydd y system newydd o gyfrifon personol gyda chofrestru awtomatig yn cynnig ffordd syml i bobl gymryd cyfrifoldeb personol dros yr incwm y mae ei eisiau arnynt ar ôl ymddeol.

Mae dadansoddiad cychwynnol yn awgrymu mai’r model cyflwyno gorau ar gyfer y cynllun cyfrifon personol yw’r hyn a gynigiwyd gan y Comisiwn Pensiynau, ond bydd y Llywodraeth yn cynnal dadansoddiad pellach o hyn, a dewisiadau amgen i ddiwydiant, er mwyn cyflawni cydbwysedd cywir rhwng gwerth am arian i’r trethdalwr a gwerth am arian i gynilwyr. Byddwn yn cyflwyno cynigion yn ddiweddarach eleni.

Yn ail, er mwyn gwneud y system cyfrifon personol yn effeithiol, byddwn yn cynnig sylfaen gadarn y gall pobl gynilo arni. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn diwygio pensiynau’r wladwriaeth er mwyn iddynt fod yn symlach ac yn fwy hael, a byddwn yn sicrhau y caiff pensiynwyr ran o gyfoeth cynyddol y wlad.

37. Yn ystod y Senedd nesaf, byddwn yn ailgysylltu codiadau yng nghyfraddau Pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ag enillion cyfartalog. Ein nod, yn amodol ar fforddiadwyedd a’r sefyllfa ariannol, yw gwneud hyn erbyn 2012, ond erbyn diwedd y Senedd ar yr hwyraf beth bynnag. Byddwn yn gwneud datganiad am yr union ddyddiad ar ddechrau’r Senedd nesaf.
Byddwn hefyd yn:

Yn drydydd, o 2010, byddwn yn gwneud Pensiwn y Wladwriaeth yn decach ac yn agored i fwy o bobl.

38. Byddwn yn diwygio`r egwyddor cyfrannu yn sylweddol, drwy gydnabod cyfraniadau i’r gymdeithas ar yr un pryd â chadw’r cysylltiad rhwng hawliau a chyfrifoldebau. Cyflawnir hyn drwy’r dulliau canlynol:

Mae`r system gyfredol yn annheg i’r rhai sydd â chyfrifoldebau dros ofalu, sy’n dueddol o fod yn fenywod, ac sy’n golygu na chaiff eu cyfraniadau cymdeithasol eu cydnabod yn llawn gan system bensiwn y wladwriaeth. Bydd y system gyfrannu fwy modern hon yn adlewyrchu’n well y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn cyfrannu i’r gymdeithas, a bydd yn sicrhau bod gan ofalwyr well cyfleoedd i adeiladu hawliau i Bensiwn y Wladwriaeth.

Yn bedwerydd, byddwn yn cefnogi ac annog bywydau gwaith estynedig.

39. Byddwn ni’n:

Nodwn awgrym y Comisiwn Pensiynau y gallai’r oedran y bydd gan bobl hawl i’r Credyd Gwarantedig sy’n rhan o’r Credyd Pensiwn aros yn 65 oed, er mwyn diogelu’r rhai sydd â’r disgwyliadau oes isaf. Rydym o’r farn fod hyn yn fater y mae’n rhaid ei ystyried yn agosach at yr amser perthnasol, yng ngoleuni’r dystiolaeth sydd ar gael am anghyfartaledd mewn disgwyliadau oes a phatrymau gwaith ymysg pobl h?n.
Cynigiwn hefyd gomisiynu adolygiadau cyfnodol, sy’n tynnu ar ystod o gyngor arbenigol annibynnol yng ngoleuni tystiolaeth a ddaw i’r fei am newid demograffig.

40. Bydd y cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn rhannu’r cynnydd mewn disgwyliad oes rhwng yr amser a dreulir yn y gwaith a’r amser a dreulir wedi ymddeol, a bydd yn diogelu sefydlogrwydd ariannol a chynaliadwyedd system pensiwn y wladwriaeth yn yr hirdymor.

Yn olaf, byddwn yn rhesymoli’r amgylchedd rheoleiddio.

41. Gwnawn hyn drwy:

Bwriad unrhyw symleiddio o`r fath fydd lliniaru`r baich rheoleiddio ar gyflogwyr sy`n darparu pensiynau galwedigaethol da. Cânt hwy, a mesurau eraill yn y pecyn diwygio arfaethedig, eu symud yn eu blaenau gan ystyried agenda ehangach y Llywodraeth i hyrwyddo rheoleiddio gwell a lleihau`r baich gweinyddol ar fusnes.

brig y dudalen

Canlyniadau allweddol y diwygiadau

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.