Bodloni pum prawf diwygio
Rydym o’r farn bod y pecyn diwygio a gyflwynir yn y Papur hwn yn bodloni pum prawf diwygio:
Cyfrifoldeb personol
42. Bydd Cofrestru awtomatig yn sicrhau bod gan weithwyr fynediad awtomatig at gyfrwng cynilo ar gyfer ymddeol. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gan yr hunangyflogedig a’r rhai nad ydynt yn gweithio fynediad at gynllun cyfrifon personol. Bydd gan bawb gyfle i gynilo’n rhwydd, fel cam hanfodol tuag at fynd i’r afael â thangynilo ar gyfer ymddeol.
43. Mae angen i ni fod yn glir bod yn rhaid i unigolion fod yn gyfrifol am eu cynlluniau eu hunain ar gyfer ymddeol. Bydd y diwygiadau’n sicrhau darparu cyfryngau cynilo o ansawdd uchel, a sylfaen sefydlog ar gyfer cynilon preifat. Ond mae’n rhaid rhoi dewis i’r unigolyn ynghylch faint i gynilo, lefel y risg i’w chymryd wrth fuddsoddi, a pha mor hir i weithio. Mae hynny’n rhoi’r cydbwysedd priodol rhwng dewis a chefnogaeth ar gyfer cyfrifoldeb yr unigolyn.
44. Drwy’r diwygiadau hyn, dylai pobl weld mwy o enillion o’u cynilion preifat na’r hyn a welant o dan y system bresennol.
Tegwch
45. Diogelu’r tlotaf. Rydym wedi ymrwymo i uwchraddio’r Credyd Gwarantedig i bensiynwyr, yn unol â thwf enillion. Mae hyn yn golygu y bydd gwerth y gwarant incwm lleiaf o £114 i bensiynwyr sengl heddiw yn parhau i gynyddu gyda’r twf yng nghyfoeth y genedl.
46. Rydym yn creu system sy’n sefydlu egwyddor cyfrannu newydd ar gyfer pensiynau’r wladwriaeth. Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor o roi ‘rhywbeth am rywbeth`, gan wobrwyo’r rhai sydd wedi gweithio a gofalu am ddegawdau cyn ymddeol. Bydd ein mesurau i ddiwygio’r rheoliadau ar gyfer cyfrannu i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn cyflawni hynny.
47. Bydd gostwng nifer y blynyddoedd y mae eu hangen i fod yn gymwys am hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn arwain at ganlyniadau tecach ar unwaith, yn enwedig i fenywod. Caiff pawb sydd wedi gweithio neu ofalu am 30 mlynedd hawl llawn i Bensiwn sylfaenol newydd y Wladwriaeth. O dan y system bresennol, byddai rhyw hanner y merched sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn 2010 wedi cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth. O dan ein diwygiadau ni, bydd y gyfran honno’n cynyddu i ryw 70 y cant. Ac, erbyn 2025, bydd dros 90 y cant o bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.
48. Byddwn yn ehangu mynediad at gynlluniau cynilo preifat o ansawdd uchel. Disgwyliwn y bydd rhyw 6 i 10 miliwn o bobl wedi cofrestru ar y cynllun newydd o gyfrifon personol ar ôl ei gyflwyno’n llawn.
49. Rydym wedi pennu cyfradd cyfraniadau ar gyfer y cynllun newydd o gyfrifon personol er mwyn cyflawni cydbwysedd teg rhwng y cyfraniad y mae ei angen gan gyflogwyr a chan weithwyr. Rydym hefyd yn pennu cydbwysedd teg a pharhaol rhwng y cenedlaethau. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i weithwyr dalu i ddarparu ar gyfer pensiynwyr heddiw (drwy Yswiriant Gwladol) a chynilo mwy ar gyfer eu dyfodol eu hunain. Bu’n rhaid i ni gyflawni cydbwysedd rhwng yr hyn sy’n briodol ac yn rhesymol iddynt ei ddarparu er mwyn gwella sefyllfa’r rhai sy’n ymddeol yn y degawdau nesaf, y gyfradd y gallwn fforddio uwchraddio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth arni, a’r disgwyliad ar weithwyr heddiw ac yfory i gynilo ar eu cyfer eu hunain.
Symlrwydd
50. Sylwodd y Comisiwn Pensiynau fod "gan y DU y system bensiynau fwyaf cymhleth yn y byd". Bydd cyfuniad ein diwygiadau ar gyfer pensiwn y wladwriaeth a phensiynau preifat yn symleiddio’r system yn ddramatig, ac yn gwneud y penderfyniad i gynilo yn un syml iawn i unigolion.
51. Bydd ein diwygiadau i ddarpariaeth y wladwriaeth yn symleiddio’r system yn sylweddol. Bydd sylfaen Pensiwn y Wladwriaeth sy’n gysylltiedig ag enillion yn sicrhau y gall y penderfyniad i gynilo fod yn symlach. Bydd ein diwygiadau yn sicrhau y gall llawer mwy o bobl fod yn hyderus o’u hawl i Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.
52. Mae cofrestru awtomatig yn rhoi mynediad i bobl o oedran gweithio at gyfryngau cynilo preifat. Yn achos gweithwyr cymwys, oni bai eu bod yn penderfynu dewis peidio ag ymuno, bydd ymuno â’r cynllun hwnnw’n awtomatig. Gyda’i gilydd, bydd y diwygiadau hyn yn golygu ei bod yn llawer symlach i unigolion gynilo.
53. Byddwn hefyd yn symleiddio’r rheolau a’r strwythur ar gyfer darpariaeth breifat drwy:
- newidiadau i ddewis peidio ag ymuno a fydd yn helpu i symleiddio’r penderfyniad i gynilo; ac
- adolygiad o’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r amgylchedd rheoleiddio.
Fforddiadwyedd
54. Mae ffigur 9 yn dangos y ffigurau cost diweddaraf, yn seiliedig ar ddyddiad dechrau yn 2012 ar gyfer cynyddu cyfraddau yn ôl Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ôl enillion. Fel y noda paragraff 37, ein nod, yn amodol ar fforddiadwyedd a’r sefyllfa ariannol, yw uwchraddio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ôl enillion erbyn 2012, ond erbyn diwedd y Senedd o leiaf beth bynnag. Byddwn yn gwneud datganiad ynghylch yr union ddyddiad ar ddechrau’r Senedd nesaf.
Ffigur: Rhagamcan o gostau diwygio Pensiwn y Wladwriaeth, y DU
| Cost pecyn diwygio’r wladwriaeth (£ biliwn, prisiau 06/07) | ||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| £bn, arian | 2008 | 2009 | 2010 | 2011 | 2012 | 2013 | 2014 | 2015 | 2016 | 2017 | 2018 | 2019 | 2020 | 2030 | 2040 | 2050 |
| Costau diwygio: | ||||||||||||||||
| Diwygiadau i’r Credyd Pensiwn | 0.6 | 1.2 | 1.8 | 2.9 | 4.2 | 5.5 | 6.8 | 8.1 | 9.4 | 10.7 | 12.1 | 13.5 | 15.1 | 28.6 | 86 | 201.7 |
| Diwygiadau i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.7 | 1.4 | 2.2 | 3.1 | 3.9 | 4.9 | 5.9 | 6.9 | 8.2 | 34.2 | 84.9 | 157.6 |
| Diwygiadau i Ail Bensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.1 | 0.3 | 2.5 | 13.2 | 26.9 |
| Newid yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | -11.4 | -35.2 | -104 |
| Cyfanswm costau diwygio Pensiwn y Wladwriaeth | 0.6 | 1.2 | 1.8 | 2.9 | 4.9 | 6.9 | 9.1 | 11.1 | 13.3 | 15.6 | 18 | 20.5 | 23.6 | 64.9 | 148.8 | 282.4 |
| Cyfanswm gwariant ar bensiynau ar ôl diwygio | 74 | 78 | 82 | 85 | 90 | 95 | 100 | 106 | 111 | 117 | 123 | 129 | 136 | 248 | 434 | 728 |
| £ bn, prisiau 2006/07 | ||||||||||||||||
| Costau diwygio: | ||||||||||||||||
| Diwygiadau i’r Credyd Pensiwn | 0.6 | 1.1 | 1.6 | 2.6 | 3.6 | 4.6 | 5.5 | 6.3 | 7.1 | 7.9 | 8.7 | 9.5 | 10.3 | 20 | 33.8 | 60.1 |
| Diwygiadau i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.6 | 1.2 | 1.8 | 2.4 | 3 | 3.6 | 4.2 | 4.8 | 5.6 | 17.7 | 33.3 | 47 |
| Diwygiadau i Ail Bensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 1.8 | 5.2 | 8 |
| Newid yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | –5.9 | –13.8 | –31.0 |
| Cyfanswm costau diwygio Pensiwn y Wladwriaeth | 0.6 | 1.1 | 1.6 | 2.6 | 4.2 | 5.7 | 7.3 | 8.7 | 10.2 | 11.6 | 13 | 14.4 | 16.1 | 33.6 | 58.4 | 84.1 |
| Cyfanswm y gwariant ar bensiynau ar ôl diwygio | 70 | 72 | 73 | 75 | 77 | 79 | 81 | 83 | 85 | 86 | 88 | 90 | 93 | 128 | 170 | 217 |
| canran o CMC | ||||||||||||||||
| Costau diwygio: | ||||||||||||||||
| Diwygiadau i’r Credyd Pensiwn | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 0.2 | 0.3 | 0.4 | 0.4 | 0.4 | 0.5 | 0.5 | 0.5 | 0.6 | 0.9 | 1.3 | 1.9 |
| Diwygiadau i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 0.2 | 0.2 | 0.2 | 0.3 | 0.3 | 0.8 | 1.3 | 1.5 |
| Diwygiadau i Ail Bensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0.1 | 0.2 | 0.2 |
| Newid yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | –0.3 | –0.5 | –1.0 |
| Cyfanswm costau diwygio Pensiwn y Wladwriaeth | 0 | 0.1 | 0.1 | 0.2 | 0.3 | 0.4 | 0.5 | 0.5 | 0.6 | 0.7 | 0.8 | 0.8 | 0.9 | 1.6 | 2.2 | 2.6 |
| Cyfanswm gwariant ar bensiynau ar ôl diwygio | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.1 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.2 | 5.9 | 6.5 | 6.7 |
Nodiadau:
- Ffynhonnell: Mae’r ffigurau’n seiliedig ar ragamcanion hirdymor DWP o wariant y Deyrnas Unedig ar fudd-daliadau, yn gyson ag Adroddiad y Gyllideb 2006 ac amcangyfrifon DWP o gostau mesurau diwygio.
- Mae costau diwygio`r Credyd Pensiwn yn cynnwys cost cynyddu cyfraddau’r Credyd Gwarantedig yn ôl enillion o 2008/09 a diwygiadau i’r Credyd Cynilo.
- Mae costau diwygio Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth yn cynnwys cost net cynyddu cyfraddau Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn ôl enillion, gwelliannau i gyfraddau PSW, a diwygiadau i Gynyddiadau Oedolyn Dibynnol.
- Mae costau diwygio Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys costau net y newidiadau i groniad a chyfrannau S2P.
- Mae costau diwygio oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys arbedion ar fudd-daliadau pensiynwyr a gwariant ychwanegol ar fudd-daliadau oedran gweithio.
- Mae gwariant ar bensiynau’n cynnwys Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth, Ail Bensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn a budd-daliadau pensiwn eraill: Taliadau Tanwydd Gaeaf, trwyddedau teledu i bobl dros 75 oed, taliadau sy’n gysylltiedig ag oedran a’r Bonws Nadolig. Mae costau diwygio Pensiwn y Wladwriaeth hefyd yn cynnwys newidiadau mewn gwariant ar Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor ymysg pensiynwyr a gwariant ychwanegol ar fudd-daliadau oedran gweithio sy’n ganlyniad cynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth.
- Ni chynhwyswyd costau sy’n gysylltiedig â Chyfrifon Personol.
- Nid yw’r ffigurau’n cynnwys costau gweinyddol na goblygiadau diwygio o ran refeniw treth.
- Mae diddymu Contractio Allan ar gyfer cynlluniau Cyfraniadau a Ddiffinnir o 2012 yn lleihau refeniw ad-dalu blaenorol ar gyfer Contractio Allan - £4bn i £5bn y flwyddyn ym mhrisiau 2006/07; nid yw hyn wedi’i gynnwys yn y ffigurau. Mae diddymu hefyd yn cynyddu gwariant ar S2P yn y dyfodol - mae hyn wedi’i gynnwys yn y ffigurau.
- Mae’r arbedion o gyfartalu OPW yn y cyfnod rhwng 2010 a 2020 wedi’u hadlewyrchu yng nghyfansymiau’r gwariant.
- Mae’r ffigurau’n cyfeirio at flynyddoedd ariannol – 2020 yw 2020/1.
- Ni ystyrir cynyddiadau mewn CMC o gyflogaeth uwch wrth i oedran Pensiwn y Wladwriaeth godi ar ôl 2020.
Cynaliadwyedd
55. Mae diffyg ymddiriedaeth a dealltwriaeth rhwng unigolion, cyflogwyr a’r wladwriaeth ynghylch eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth ddarparu pensiynau’n greiddiol i’r broblem a wynebwn gyda darpariaeth pensiynau heddiw. Mae angen i ni ailosod y cydbwysedd eto. Ond mae angen i ni ddiwygio’r system hefyd, er mwyn rhoi ymddiriedaeth a hyder i bawb bod hwn yn gynnig cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor. Mae angen cydsyniad arnom fod hyn yn ffordd dda o gyflawni cydbwysedd. Ac mae angen i ni sefydlu’r system yn y fath fodd fel y gall ymateb yn hyblyg i newidiadau yn y gymdeithas yn y dyfodol.
56. Sefydlwyd y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau ym mis Chwefror 2005, a dechreuodd yr ail ran ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. At ei gilydd, mae’r Llywodraeth wedi clywed barn bron i 10,000 o bobl mewn trafodaethau wyneb-yn-wyneb a thrwy wefan DWP.
57. Dim ond rhan oedd hyn o raglen helaeth o ymgynghori’r Llywodraeth â rhanddeiliaid. Rydym yn hyderus bod yr ateb rydym wedi’i gyrraedd yn cyflawni’r cydbwysedd priodol rhwng barn yr holl bartïon yr effeithir arnynt. Mae’r Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau’n dangos yn glir, allan o’r pedwar dewis a nododd y Comisiwn Pensiynau, bod ar bobl eisiau ateb sy’n cyflawni cydbwysedd rhwng cynilo mwy, ailgyfeirio gwariant y wladwriaeth ar bensiynwyr, a chynnydd yn yr oedran ymddeol cyfartalog. Mae ein diwygiadau arfaethedig yn cyflawni’r cydbwysedd hwnnw’n union.
