Gwella’r system bensiynau
5. Rydym bellach yn gwario £10.5 biliwn y flwyddyn (bron i 1 y cant o Gynnyrch Domestig Gros)1 yn fwy ar bensiynwyr na’r hyn y byddem wedi gwneud pe byddem dim ond wedi parhau â’r polisïau a etifeddwyd gennym yn 1997. O’i gyfuno â’r twf mewn cynilo drwy bensiynau preifat, mae hyn wedi golygu bod incwm pensiynwyr wedi codi yn gyffredinol, a’r tlotaf sydd wedi elwa fwyaf. Rydym wedi cyflawni’r nodau hyn ar yr un pryd â chynnal fforddadwyedd y system yn gyffredinol.
Ffigur 2: Codiadau i bensiynwyr yn sgîl polisïau’r Llywodraeth hon er 1997
Ffynhonnell: Model Efelychu Polisi DWP - gweler yr atodiad technegol am ragor o wybodaeth
Nodiadau: Codiadau o bolisïau 2006/07 o’u cymharu â system fudd-daliadau 1997/98 sy’n gysylltiedig â mynegai prisiau 2006/07.
Mae Credyd Pensiwn yn cynnwys traweffeithiau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.
6. Yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi ymysg pensiynwyr, mae’r Llywodraeth wedi cymryd camau sylweddol i wella agweddau eraill ar y system bensiynau er 1997.
7. Cyflwynom Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn 2002, gan roi credydau i bobl ar incwm isel ac i rai gofalwyr nad oeddent yn rhan o’i ragflaenydd, Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion. O ganlyniad, mae gan ryw 4 miliwn o bobl gyfle bellach i adeiladu pensiwn ychwanegol digonol am y tro cyntaf. Cyflwynom bensiynau rhanddeiliaid a`i gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr sydd â phum gweithiwr neu fwy ddarparu mynediad naill ai i bensiwn rhanddeiliaid neu i gynllun galwedigaethol, fel cam pwysig tuag at annog mwy o gynilo preifat a lleihau cost cynilo.
8. Mae Deddf Pensiynau 2004 wedi gwella sicrwydd a hyder ymysg aelodau cynlluniau pensiwn galwedigaethol. Mae’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn golygu bod dros 10 miliwn o aelodau cynlluniau pensiwn sy’n gysylltiedig â chyflog yn gwybod y byddant yn cael iawndal os bydd eu cyflogwyr yn mynd yn fethdalwyr ac os bydd y cynllun pensiwn wedi’i danariannu. Bydd y Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) yn helpu grwpiau sy’n agos at ymddeol a oedd ar eu colled cyn sefydlu’r PPF. Ar ôl cyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd yn hwyluso adolygu’r FAS, a gynllunir ar gyfer CSR07, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu estyn yr FAS er mwyn iddo gynorthwyo pobl gymwys a oedd o fewn pymtheng mlynedd i oedran pensiwn eu cynllun ar 14 Mai 2004 neu cyn hynny. Dylai hyn sicrhau y bydd hyd at 30,000 o bobl eraill a gollodd symiau sylweddol pan ddirwynwyd eu cynlluniau pensiwn i ben, yn elwa ar y trefniadau newydd. O dan yr estyniad hwn, caiff budd-daliadau cynlluniau eu lleihau'n ostyngol fel bydd y Llywodraeth yn talu’r 80 y cant llawn i’r rhai sydd o fewn saith mlynedd i oedran pensiwn y cynllun, 65 y cant i’r rhai sydd o fewn wyth i un ar ddeg mlynedd o oedran pensiwn y cynllun, a 50 y cant i’r gweddill.
9. Bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau yn helpu i ddiogelu budd-daliadau’r aelodau ac yn hyrwyddo gweinyddiaeth dda ar gynlluniau pensiwn sy’n seiliedig yn y gwaith. Mae ganddo bwerau helaeth i archwilio cynlluniau a gweithredu lle bo angen, ac mae’n defnyddio dull rhagweithiol o reoleiddio sy’n canolbwyntio ar risg. Mae’r Rheoleiddiwr hefyd yn cynnig cymorth ymarferol i’r gymuned sydd wedi’i rheoleiddio. A dileodd Deddf Cyllid 2004 gymhlethdod sawl gwahanol gyfundrefn dreth, gan roi yn eu lle un gyfundrefn hyblyg ar sail y cysyniad syml o lwfans oes o £1.5 miliwn ar gyfer cynilion pensiwn treth-freintiedig.
10. Rydym hefyd wedi cefnogi cynilo preifat drwy helpu pobl i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu hymddeoliad, gan gyflwyno ystod o ragolygon pensiwn i roi dealltwriaeth i unigolion o’r incwm maent yn debygol o’i gael ar ôl ymddeol. Ers eu cyflwyno, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ychydig dros 20 miliwn o’r rhagolygon hyn, ac rydym yn datblygu gwasanaethau ar-lein i gynllunio ar gyfer ymddeol.
11. Rydym wedi cymryd camau i wneud gwahaniaethu ar sail oedran yn anghyfreithlon ac i hyrwyddo gweithio’n h?n. Rydym wedi pennu uchelgais hirdymor i gyrraedd cyfradd o gyflogaeth sy’n gyfartal ag 80 y cant o’r boblogaeth sydd o oedran gweithio, gan gynnwys miliwn yn fwy o weithwyr h?n.
12. Fel y gwnaeth y Comisiwn Pensiynau’n glir, mae incymau o bensiynau preifat ar eu huchaf erioed. Mae safonau byw wedi codi i bawb ond yn fwy i bensiynwyr nag i oedolion sydd o oedran gweithio yn ystod y 25 mlynedd diwethaf o leiaf.
Yr achos dros ddiwygio ymhellach
13. Felly rydym eisoes wedi cymryd camau brieion i ymdrin â’r broblem uniongyrchol i incymau isel pensiynwyr ac wedi sefydlu diwygiadau hanfodol i helpu pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rydym wedi sylweddoli ers tro byd y byddai angen camau pellach i sicrhau y gallai dderbyn yr incwm y disgwyliant ar ôl ymddeol yn y dyfodol. Ym mis Rhagfyr 2002, sefydlwyd y Comisiwn Pensiynau annibynnol gennym, er mwyn adolygu’r gyfundrefn ar gyfer pensiynau preifat y DU a chynilo hirdymor. Gofynnom iddo ystyried yr heriau y mae’r system bensiynau’n eu hwynebu yn y tymor hwy ac a oedd y gyfundrefn gyfredol o bensiynau gwirfoddol yn ymateb digonol. Daeth y Comisiwn Pensiynau i’r casgliad nad oes ‘argyfwng pensiynau’ dybryd, ond amlinellodd yr heriau allweddol hynny ar gyfer y tymor hwy, a'r angen am weithredu cynnar.
Newid demograffaidd a chymdeithasol
14. Heddiw, gall pobl ddisgwyl byw’n hirach nag erioed o’r blaen. Ym 1950, gallai dyn 65 oed ddisgwyl byw hyd 76 oed ar gyfartaledd. Heddiw, gall ddisgwyl byw hyd 85 oed, ac erbyn 2050 hyd 89 oed. Bydd merched yn byw hyd yn oed yn hirach - ar gyfartaledd, efallai, hyd eu nawdegau cynnar. Mae hyn yn newid enfawr, sydd ymysg cyflawniadau cymdeithasol mwyaf y ganrif ddiwethaf.
15. Ar yr un pryd, mae ffyrdd o fyw a disgwyliadau ynglyn ag oedran gweithio ac ymddeol wedi newid yn sylweddol ers creu system bensiynau wladol y DU am y tro cyntaf. Yn 1948, roedd ysgaru ac ailbriodi’n gymharol brin, ac nid oedd yn anghyffredin i ddyn neu fenyw dreulio’u bywyd gwaith cyfan gydag un cyflogwr.
16. Erbyn heddiw, mae dynion a merched yn gweithio gydol eu bywydau, ac rydym yn cydnabod gwerth y gwasanaeth y gall gofalwyr, gofalwyr plant a phobl sydd ag anableddau fel ei gilydd, ei gyfrannu at gymdeithas. Mae’n llawer mwy cyffredin i bobl fod mewn mwy nag un perthynas hirdymor yn ystod bywyd hirach. Ac mae’n debycach y bydd pobl yn gweithio i sawl gwahanol gyflogwr, ac yn plethu cyfnodau o weithio, gofalu ac astudio yn ystod eu bywydau.
17. Mae byw’n hirach yn rhywbeth y dylem ei ddathlu, ond mae hefyd yn creu heriau sylweddol. Nid yw’r heriau hyn yn unigryw i’r DU nac i lywodraethau penodol. Mae cymdeithas sy’n heneiddio yn her sy’n wynebu’r rhan fwyaf o’r byd diwydiannol, ac mewn sawl gwlad, rhagamcanir y bydd gwariant y wladwriaeth yn cynyddu i ddiwallu'r her. Mae Ffigur 3 yn amlinellu cymhareb ddibyniaeth gynyddol gwledydd eraill. Mae rhai o’r gwledydd hyn hefyd wedi dangos peryglon sefydlu polisïau anghynaliadwy, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt leihau ymrwymiadau.
Ffigur 3: Cymarebau dibyniaeth byd-eang
Ffynonellau: Yn achos gwledydd y tu allan i’r UE, Isadran Boblogaeth Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol Ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, World Population Prospects: the 2004 revision; yn achos gwledydd yr UE, Ageing Society Indicators, EUROSTAT 2005.
Nodiadau: Daw cymarebau dibyniaeth ar gyfer gwledydd yr UE a’r tu allan i’r UE o ddau ymarfer rhagamcanu gwahanol ar sail tybiaethau a methodolegau gwahanol, ac felly ni ellir eu cymharu’n gyfan gwbl. Mae’r diffiniad o’r gymhareb ddibyniaeth sydd yn y siart hwn ychydig yn wahanol i’r diffiniad a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y Papur Gwyn am ei fod yn cynrychioli cymhareb y boblogaeth sy’n 65 oed neu’n h?n â’r boblogaeth 15-64 oed (yn hytrach nag 20-64 oed).
18. Yn ogystal, rydym ar fin gweld cynnydd mawr yn y gymhareb ddibyniaeth - y cydbwysedd rhwng niferoedd y bobl sydd o oedran gweithio a’r rhai sy’n h?n nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae cynnydd mewn hyd oes yn golygu bod hyn yn duedd hirdymor tuag i fyny. Fodd bynnag, gyda’r garfan fawr o bobl a anwyd yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn chwyddo’r gweithlu, gostyngwyd y gymhareb hon mewn modd ffug yn y degawdau diwethaf. Wrth i’r genhedlaeth honno ymddeol, byddwn yn ailafael yn gyflym yn y duedd hirdymor.
19. Mae Ffigur 4 yn dangos poblogaeth y pensiynwyr fel canran o’r boblogaeth sydd o oedran gweithio. Ym 1950, dim ond 19 y cant oedd y ganran hon. Erbyn heddiw, mae wedi codi i ryw 27 y cant. Erbyn 2050, ar ôl i’r gymhareb unioni â’r duedd sylfaenol, gallai fod yn 47 y cant. Mae’r newid demograffaidd hwn yn gweddnewid cyd-destun polisi pensiynau.
Ffigur 4: Cymhareb ddibyniaeth yr henoed
Ffynhonnell: Amcangyfrifon DWP ar sail rhagamcan egwyddor Adran Actwari’r Llywodraeth ar sail 2004, y DU
Nodiadau: Mae cymhareb ddibyniaeth yr henoed yn dangos nifer y bobl sy’n 65 ac yn h?n wedi’u rhannu gan nifer y bobl o oedran gweithio (h.y. dynion a menywod rhwng 20 a 64 oed). Pennwyd datblygiad hirdymor y gymhareb gan ddefnyddio patrwm llinol addasedig.
Tangynilo ar gyfer ymddeoliad
20. Gellir diffinio’r rhai sy’n tangynilo ar gyfer ymddeoliad fel rhai sy’n debygol o fod yn derbyn incwm nad yw’n darparu ar gyfer eu disgwyliadau rhesymol o ansawdd bywyd yn ystod ymddeoliad. Bydd y disgwyliadau hyn yn amrywio i adlewyrchu gwahanol amgylchiadau ac uchelgeisiau – ac o ganlyniad nid yw'n hawdd pennu un ffordd gwbl gynhwysfawr o fesur tangynilo ar gyfer ymddeoliad. Fodd bynnag, mae rhai dadansoddwyr wedi defnyddio'r syniad o gyfraddau cyfnewid, hynny yw, incwm ar ôl ymddeol fel canran o gyflog terfynol unigolyn. Wrth ddarparu incwm ar gyfer eu hymddeoliad, bydd gan unigolion wahanol fwriadau o ran eu hoedran ymddeol a gwahanol fathau o asedau iddynt eu defnyddio. Yn ogystal â phensiynau, efallai bod asedau ariannol ac anariannol eraill ganddynt, gan gynnwys eiddo. Bellach, mae cyfanswm cyfoeth net yn uwch nag oedd erioed o'r blaen, ar ôl codi rhyw 60 y cant mewn termau real ers 1997. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy'n cynilo mewn cyfryngau pensiwn yn gostwng.
21. Ers yr 1970au, mae cyflogwyr wedi bod yn cilio rhag pensiynau galwedigaethol wrth i godiadau mewn disgwyliad oes ac yna diwedd y farchnad ecwiti uchel ddiwedd yr 1990au wthio costau’n uwch nag a ragwelwyd pan gynlluniwyd cynlluniau pensiwn galwedigaethol. Mae’r duedd hon wedi parhau, ac roedd 2 miliwn yn llai o aelodau gan gynlluniau pensiwn galwedigaethol agored o’r sector preifat yn 2004 nag yn 2000.2
Ffigur 5: Aelodau gweithredol cynlluniau pensiwn galwedigaethol
Ffynhonnell: Arolwg Adran Actwari’r Llywodraeth o Gynlluniau pensiwn galwedigaethol
Nodiadau: Ni ellir cymharu’r rhaniad yn 2004 rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus â rhaniadau mewn blynyddoedd blaenorol yn fanwl, am i’r ffigurau o 2000 ymlaen gynnwys dim ond yr aelodau hynny sydd mewn cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus. Gan hynny, o 2000 ymlaen, mae ffigurau’r sector preifat hefyd yn cynnwys aelodau o’r sector cyhoeddus ehangach (fel Swyddfa’r Post a’r BBC).
22. Mae natur cynlluniau galwedigaethol wedi newid a’u maint wedi gostwng hefyd, gyda newid o fudd-dal a ddiffinnir (DB) i gyfraniad a ddiffinnir (DC).
23. Awgrymodd y Comisiwn Pensiynau gyfraddau amnewid meincnodol sy’n amrywio yn ôl incwm yn-y-gwaith. Cafodd eu dadansoddiad fod rhwng 9.6 miliwn a 12 miliwn o bobl yn cynilo ar gyfradd na fyddai’n darparu incwm ymddeol iddynt yn unol â’r cyfraddau meincnodol hynny.
Ffigur 6: Canran y bobl rhwng 50 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd mewn perygl o syrthio o dan gyfraddau amnewid meincnodol y Comisiwn Pensiynau 3
Ffynhonnell: Futher analysis of those at risk of inadequate resources in retirement (Emmerson a Tatlow, Sefydliad Astudiaethau Ariannol, ar y gweill).
Nodiadau: Mae’r canrannau’n cyfeirio at ganrannau unigolion mewn teuluoedd sy’n ennill rhywfaint o incwm. Mae’n cynnwys y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth â thâl y mae gan ei b/phartner incwm o gyflogaeth. Mae bandiau enillion yn cynrychioli'r incwm gros cydraddoledig a enillir gan deuluoedd, gan gynnwys unrhyw enillion o hunangyflogaeth.
24. Mae sawl rheswm dros y tangynilo ar gyfer ymddeoliad: am nad yw unigolion wedi ymddiried mewn pensiynau preifat, am nad oedd cyfryngau cynilo addas ar gael iddynt, ac yn sgil system bensiynau sy’n draddodiadol gymhleth, am fod diffyg rhagamcanu ariannol a llesgedd wedi gadael dim dewis ond peidio â gweithredu.
25. Mae pensiynau rhanddeiliaid yn adlewyrchu'n cred mai’r gweithle sy’n cynnig yr amgylchedd gorau ar gyfer darparu pensiynau preifat. Ond er y gwerthwyd dros 2.7 miliwn o bensiynau rhanddeiliaid, maent wedi amlygu'r meysydd lle mae angen gweithredu ymhellach, yn enwedig yn achos y bobl hynny nad yw’r farchnad gynilo wedi eu gwasanaethu yn draddodiadol. Oherwydd rhwystrau i gynilo, yn aml ni fydd pobl, heb eu hysgogi, yn gwneud y penderfyniad i ddechrau cynilo – ac wrth i bobl newid swyddi, nid oes llawer o bobl yn dal ati gyda’u pensiynau. Mae hyn yn golygu bod costau gweinyddol, cyngor a gwerthu darparwyr yn uchel ac yn ei gwneud yn anodd iddynt wasanaethu rhai sectorau yn y farchnad mewn modd proffidiol.
26. Mae angen i ni wneud mwy i oresgyn y rhwystrau hyn a bwrw costau i lawr ymhellach. Yn aml, bydd gwybodaeth a chymhelliannau ariannol sylweddol yn annigonol. Un nodwedd hirdymor o system bensiynau’r DU yw ei chymhlethdod, a all ddrysu cyflogwyr ac unigolion sy’n ceisio gwneud y penderfyniadau ariannol gorau ar gyfer yr hirdymor. Mae cost uchel cynilo i’r rhai heb ddarpariaeth dda gan gyflogwr a diffyg mynediad at gynhyrchion priodol yn dal i fod yn broblem. Hynny yw, ac unol â chasgliad y Comisiwn Pensiynau, mae angen diwygio’r strwythurau presennol i ymdrin â’r heriau a ddaw yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio.
27. Yn ogystal â chynilo mwy mewn ymateb i’r cynnydd mewn disgwyliad oes, bydd llawer o unigolion yn penderfynu gweithio’n hirach er mwyn adeiladu incwm ymddeol sy’n bodloni eu disgwyliadau. Gall gweithio am fwy o flynyddoedd arwain at gronni mwy o hawliau pensiwn y wladwriaeth yn ogystal â chynnig y cyfle i gynilo mwy. Er 1997, mae cyfradd gyflogaeth y rhai sydd rhwng 50 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth wedi cynyddu o 65 y cant i dros 70 y cant, a bellach mae dros filiwn o unigolion mewn gwaith sy’n h?n nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 4
Anghydraddoldebau yn system bensiwn y wladwriaeth
28. Mae’r system bensiynau sydd gennym heddiw wedi’i gwreiddio yng nghymdeithas y 1940au. Mae’r gymdeithas wedi symud yn ei blaen ers hynny, ac os na weithredwn ni nawr, bydd menywod a gofalwyr a fydd yn ymddeol yn y ddau ddegawd nesaf yn parhau i ddioddef effeithiau’r system gyfrannu a oedd ar waith yn ystod eu bywydau gwaith. Mae Ffigur 7 yn dangos, ymysg y rhai a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddar, bod gan ryw 85 y cant o ddynion hawl i Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, o’u cymharu â dim ond rhyw 30 y cant o fenywod. Mae cyflwyno’r Credyd Pensiwn wedi gwella sefyllfa menywod, sy’n cynrychioli dwy ran o dair o’r rhai sydd wedi elwa ar ei gyflwyno. Ym mis Tachwedd 2005, cyhoeddom ddadansoddiad manwl o sefyllfa merched o ran pensiynau - yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol - gyda dadansoddiad o effaith rheolau Yswiriant Gwladol cyfredol yn Adroddiad Ymchwil yr Adran Gwaith a Phensiynau, Women and pensions: The evidence.
Ffigur 7: Hawl pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn 2005 i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth
Ffynhonnell: Model Pensiynau Ymddeol Adran Actwari’r Llywodraeth, Prydain Fawr
Nodiadau: Mae hawl menywod yn seiliedig ar eu hanes cyfrannu eu hunain a rhai eu gw?r. Mae’n cynnwys pensiwn gwraig weddw dros 60 oed a gohirwyr.
Cymhlethdod
29. Cyflwynwyd Pensiwn cyntaf y Wladwriaeth – cynllun ar sail prawf modd i’r rhaid 70 oed neu’n h?n – ym 1908. Ers hynny, mae cyfres o newidiadau cyfreithiol a newidiadau eraill wedi addasu a diwygio’r ddarpariaeth syml honno, i greu system bensiynau heddiw a ddisgrifir gan y Comisiwn Pensiynau fel y system fwyaf cymhleth yn y byd.
30. Mae ein newidiadau i system bensiwn y wladwriaeth ers 1997 wedi bod yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau uniongyrchol y daethom ar eu traws ac, fel rydym wedi’i nodi, maent wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r cymhelliannau i gynilo yn y system gyfredol yn gryf o hyd. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod y cymhelliannau i lawer o bobl sydd ar incwm isel wedi gwella o ganlyniad uniongyrchol i gyflwyno’r Credyd Pensiwn.5
31. Fodd bynnag, gallai problemau gyda chymhelliannau ddatblygu pe bai system bensiynau’n esblygu lle byddai gan fwyafrif sylweddol o’r pensiynwyr hawl i Gredyd Pensiwn yn yr hirdymor. Ni fu hynny erioed yn fwriad gan y Llywodraeth hon.
Hanes deddfwriaeth bensiynau
1908 Cyflwynodd y Llywodraeth Ryddfrydol gynllun ar gyfer pensiwn digyfraniad. Rhoddwyd ar waith o fis Ionawr 1909, roedd 'Pensiwn Lloyd George' werth 5 swllt, ac yn daladwy i ddynion a menywod o 70 oed ymlaen yn gyfartal.
1911 Gwnaeth Deddf Yswiriant Gwladol hi’n ofynnol i weithwyr a chyflogwyr dalu cyfraniadau cyfradd unffurf orfodol ar gyfer yswiriant iechyd a diweithdra. Estynnwyd y cynllun yswiriant ym 1926 i ddarparu pensiynau cyfraniad ar gyfer pobl h?n, gwragedd gweddw a phlant amddifad.
1948 Cyflwynwyd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth fel Pensiwn y Wladwriaeth i bawb yn gyfnewid am
gyfraniadau cyfradd unffurf a delir gan bob gweithiwr a’u cyflogwyr (ac eithrio gan wragedd priod a allai ddewis peidio â chyfrannu).
1961 Cyflwynodd Budd-dal Pensiwn Graddedig (GRB) dri chysyniad i ddarpariaeth y wladwriaeth: cyfraniadau cysylltiedig ag enillion, pensiwn cysylltiedig ag enillion, a chontractio allan o GRB i’r rhai a chanddynt bensiynau galwedigaethol.
1974 Cyflwynwyd sylfaen gyfreithiol ar gyfer cynyddu cyfraddau’n rheolaidd (drwy p'un bynnag oedd orau, prisiau neu enillion). Diddymwyd deddfwriaeth “y gorau” ym 1979 a daeth cyswllt â phrisiau yn ei lle.
1978 Cyflwynwyd Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) i ddisodli GRB, a gafodd ei ddirwyn i ben ym 1975. Cyflwynwyd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) i ofalwyr.
1995 Sefydlodd y Ddeddf Pensiynau oedran cydradd ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth, sef 65 oed - i’w gyflwyno’n raddol rhwng 2010 a 2020 - cryfhawyd y modd y caiff pensiynau galwedigaethol eu rheoleiddio, ac addaswyd y telerau ar gyfer contractio allan o SERPS.
2002 Disodlwyd SERPS gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth, a ddarparai tua dwywaith cymaint o bensiwn i bobl ar incwm isel ag y byddent wedi’i gael o dan SERPS.
2004 Deddf Pensiynau (gweler paragraff 8)
Ochr yn ochr â’r system gyfrannu, mae pensiwn cynhwysfawr ar sail prawf modd wedi datblygu. Cyflwynwyd Pensiynau Atodol ar sail prawf modd ym 1941. Disodlwyd Cymorth Cenedlaethol, a gyflwynwyd ym 1948, gan Fudd-dal Atodol ym 1966, yna gan Gymhorthdal Incwm ym 1988 (a ddatblygodd i’r Gwarant Lleiafswm Incwm ym 1999), a chan y Credyd Pensiwn ym mis Hydref 2003.
Edrych tua’r dyfodol
32. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, sefydlwyd y Comisiwn Pensiynau gennym ym mis Rhagfyr 2002. Gofynnwyd iddo adolygu’r modd y mae system bensiynau’r DU yn gweithredu a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio. Ym mis Tachwedd 2005, cyhoeddodd y Comisiwn ei argymhellion.
33. Mae’r Llywodraeth wedi pennu pum targed ar gyfer y pecyn diwygio, gan adeiladu ar ein llwyddiant a’n hegwyddorion ar gyfer diwygio hyd yma. Mae’n rhaid i unrhyw system bensiynau ddiwygiedig:
- hyrwyddo cyfrifoldeb personol: mynd i’r afael â’r broblem o dangynilo ar gyfer ymddeoliad;
- bod yn deg: diogelu’r tlotaf, a bod yn deg i fenywod, gofalwyr, cynilwyr a rhwng y cenedlaethau;
- bod yn syml: egluro priod rolau'r Wladwriaeth, y cyflogwr a’r unigolyn;
- bod yn fforddiadwy: cynnal sefydlogrwydd macroeconomaidd a tharo'r cydbwysedd priodol ar gyfer darpariaeth rhwng y Wladwriaeth, y cyflogwr a’r unigolyn; a
- bod yn gynaliadwy: gosod sylfaen ar gyfer cydsyniad cenedlaethol parhaol, ar yr un pryd â bod yn hyblyg ar gyfer tueddiadau yn y dyfodol.
34. Ar ôl asesu argymhellion y Comisiwn Pensiynau, byddwn yn:
- Cyflwyno cyfrifon personol cost isel er mwyn rhoi cyfle i gynilo i’r rhai heb fynediad at gynlluniau pensiwn galwedigaethol. Caiff pobl eu cofrestru’n awtomatig naill ai ar gynllun eu cyflogwr neu i gyfrif personol newydd, a byddant yn rhydd i ddewis peidio ag ymuno. Bydd cyflogwyr yn gwneud cyfraniadau cyfatebol gofynnol.
- Gwella’r sylfaen i bawb ar yr un pryd â pharhau i ymdrin â thlodi ymysg pensiynwyr. Byddwn yn diwygio system bensiwn y wladwriaeth drwy gynyddu cyfraddau'r elfen gwarant ar Gredyd Pensiwn a Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, yn unol â chynnydd enillion, yn hytrach na phrisiau. Byddwn yn gwneud Pensiwn y Wladwriaeth yn decach ac ar gael i fwy o bobl a byddwn yn codi oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn unol â chynnydd mewn hyd oes.
35. Bydd y diwygiadau a gyflwynir yma yn gwneud gwahaniaeth ar unwaith i’r rhai sy’n gweithio ac yn cynilo ar gyfer ymddeoliad, gan gyflawni cydbwysedd cydraddoldeb newydd rhwng y cyflogwr, y Wladwriaeth a’r unigolyn. Ar yr un pryd, byddwn ni’n parhau i ddiogelu’r pensiynwyr tlotaf rhag tlodi a byddwn yn sicrhau bod pob pensiynwr yn rhannu yn ffyniant cynyddol y genedl. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar y diwygiadau hyn yn ystod ail sesiwn y Senedd hon.
