Crynodeb Gweithredol
Cynnydd er 1997
Mynd i’r afael â thlodi ymysg pensiynwyr – ein prif flaenoriaeth
1. Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i ddiogelu ei dinasyddion rhag tlodi ac ansicrwydd mewn ymddeoliad. Mae’r camau rydym wedi eu cymryd er 1997 – sefydlu Credyd Pensiwn, Taliad Tanwydd Gaeaf a chynyddiadau mewn termau real yng ngwerth Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth – wedi helpu pensiynwyr i osgoi tlodi.
2. Cyflwynodd y Llywodraeth hon Warant Lleiafswm Incwm i bensiynwyr, sydd bellach yn rhan o’r Credyd Pensiwn, a gododd yr incwm lleiaf y mae gan bensiynwyr hawl iddo o £68.80 yr wythnos ym 1997 i dros £114 heddiw. Codwyd dros 2 miliwn o bensiynwyr o dlodi absoliwt, ac 1 miliwn o dlodi cymharol. A gwelwyd cynyddiadau cyson yn incwm pensiynwyr, a’r tlotaf a elwodd fwyaf. Bellach, mae pensiynwyr yn llai tebygol o fod yn dlawd na phobl iau. Yn ogystal, mae’r gwobrwyo am gynilo sy’n rhan o Gredyd Pensiwn wedi mynd i’r afael â’r gosb o`r gyfradd ddidynnu ffiniol 100 y cant a wynebai llawer o gynilwyr, gan wobrwyo am y tro cyntaf 1.9 miliwn o gartrefi pensiynwyr a gynilodd ar gyfer ymddeol.
3. Roedd y blynyddoedd o ansicrwydd economaidd a chyfraddau diweithdra uchel yn yr 1980au a`r 1990au cynnar yn niweidiol i bensiynau a phensiynwyr. Erydodd chwyddiant uchel werth cynilion. Achosodd diweithdra, a gyrhaeddodd 3 miliwn ddwywaith, i filiynau beidio â chael cyfle i gronni hawliau pensiwn ychwanegol. Gwnaeth twf anwastad ac anghynaladwy hi’n anoddach cynllunio ar gyfer y dyfodol â hyder. Diolch i ymrwymiad y Llywodraeth i gynnal sefydlogrwydd economaidd, buddsoddi yn y Ganolfan Byd Gwaith a’r Fargen Newydd, a gwneud i weithio dalu, gan Brydain bellach mae cyfradd cyflogaeth uchaf unrhyw un o wledydd y G8. Bellach, mae rhyw 2.3 miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith o’i gymharu â 1997.
4. Mae’r polisïau hyn wedi dod â manteision sylweddol i bensiynwyr. Mae`r gyfradd cyflogaeth uchel wedi rhoi cyfle i fwy o bobl gynilo ar gyfer eu hymddeoliad, ac wedi helpu i gyfrannu at dwf sefydlog yr economi. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal y sefydlogrwydd macroeconomaidd hwn.
Ffigur 1: Canran y pensiynwyr sydd ar gyflog isel cymharol ac absoliwt.
Ffynhonnell: Cartrefi sy’n Is na’r Incwm Cyfartalog
Nodyn:Mae incwm isel cymharol yn rhoi’r niferoedd o dan 60 y cant o ganolrif incwm net cyfoes.
Mae incwm isel absoliwt yn rhoi’r nifer o dan 60 y cant o ganolrif incwm net 1996/97 mewn termau real cyson.
Ym mhob achos, caiff incwm ei gyfrifo ar ôl costau tai.
