Asesiadau Effaith Rheoleiddio ac atodiadau technegol
Mae'r Asesiadau Effaith Rheoleiddio (AERh) yn cyflwyno'n fanwl y dystiolaeth economaidd sy`n sail i brif gynigion y Llywodraeth. Maent yn ystyried costau a buddion y polisïau hyn a rhai amgen, gan ystyried effaith y pecyn cyfan gyda'i gilydd ac ystyried pob gr?p o ddiwygiadau ar wahân.
Mae'r atodiadau'n cyflwyno manylion ychwanegol am y prif offerynnau dadansoddi, tystiolaeth a thybiaethau a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu, asesu a chyflwyno'r cynigion yn 'Sicrwydd mewn ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd` a'r AERh cysylltiedig.
Bwriedir i'r ddogfen hon fod yn hunangynhwysol, ond nid yw'n ailadrodd y drafodaeth gyfan na'r dadansoddiad a gyflwynir yn 'Sicrwydd mewn ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd.' Felly, anogir darllenwyr sydd am wybodaeth bellach ddarllen y ddwy ddogfen.
Gellir archebu copïau ychwanegol o'r Asesiadau Effaith Rheoleiddio ac atodiadau technegol o:-
Pension Guide
Freepost
RLXH-JUEU-GZCH
Northampton
NN3 6DF
Ffôn: 08457 31 32 33
Ffôn testun: 0845 604 0210