Bwriad yr Adolygiad
Bydd cynigion diwygio pensitnau’r Llywodraeth, yn enwedig y cynllun newydd o gyfrifon personol, yn cael goblygiadau arwyddocaol ar gyfer y sefydliadau pensiynau. Gwnaeth hyn hi’n brodol, ac yn unol ag egwyddorion o lywodraethu da a gwell rheolaeth, i adolygu gweithrediadau o’r sefydliadau cyfredol sy’n gysylltiedig mewn rheolaeth a diogelwch o bensiynau’ n seiliedig ar waith.
Bwriad yr Adolygiad oedd i archwilio sut oedd gweithrediadau’r Gronfa Diogelwch Pensiynau a’r Rheolydd Pensiynau a sefydliadau eraill yn gysylltiedig â rheolaeth a diogelwch pensiynau’n seiliedig ar waith, yn cynnwys yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, yn ffitio i fewn â polisiau pensiynau presennol y Llywodraeth, ei chynigion diwygio pensiwn a datblygiadau eangach yn y farchnad pensiynau. Estynodd hefyd i’r sefydliadau hynny sy’n gysylltiedig â darparu cyngor, cyfryngiad, cydraniad dadlau neu iawndal ar gyfer bensiynau.
Amcan yr Adolygiad oedd i gefnogi trafodaeth ac adeiladu consensws ar y ffordd fwyaf addas i drefnu cyfrifoldebau sefydliedig i ddosbarthu polisiau pensiwn y LLywodraeth yn y dyfodol.
Darllenwch y Terms of Reference ar gyfer adolygiad
Darllenwvh y Review announcement press release (Ionawr 2007)
Darllenwch y Review consultation press release (Mawrth 2007)
Gellir cael hyd i gefndir i’r Adolygiad yn y Papur Gwyn Pensiynau Towards a New Pensions System, a gyhoeddwyd ym Mai 2006, a Summary of responses i’r ymgynghoriad yn Hydref 2006.