Y Mesur Pensiynau
Ymrestriad Awtomatig, Cyfraniadau Lleiafswm Cyflogwr a Chyfrifon Personol
Mae ail Bapur Gwyn y Llywodraeth, Cyfrifon Personol: ffordd newydd i gynilo yn gosod allan cynigion, fydd am yn tro cyntaf, yn rhoi cyfle i lawer o enillwyr isel a chanolog i adeiladu cynilion pensiwn preifat gyda chyfraniadau gan eu cyflogwyr, a’r Wladwriaeth.
Ar 5 Rhagfyr cyflwynodd y Llywodraeth Fesur i ddosbarthu’r newidiadau hyn. O 2012, bydd system o ymrestriad awtomatig yn cael ei gynnig, ynghyd a chyfraniadau lleiafswm cyflogwr yn rhoi agoriad i bensiwn preifat i bob cyflogai cymwys rhwng 22 ac oedran peniswn y Wladwriaeth, sydd ddim ar hyn o bryd wedi ymrestru â chynllun pensiwn gweithle.
Creodd y Y Ddeddf Pensiynau 2007 yr Awdurdod Dosbarthu Cyfrifon Personol i gynghori ar y cynigion diwygio.
Ymrestriad Awtomatig
O 2012, Mae’r Llywodraeth yn cynllunio y bydd pob cyflogai cymwys, sydd ddim ar hyn o bryd mewn pensiwn gweithle o safon da, yn cael eu hymrestru’n awtomatig i un ai cynllun pensiwn cymhwyso, neu i mewn igynllun pensiwn cyfrif personol. Mae ymrestru awtomatig yn golygu yn hytrach na dewis p’un ai ymuno â chynllun pensiwn gweithle wedi ei ddarparu gan eu cyflogwr, bydd gweithwyr cymwys i gyd yn gorfod penderfynu’n weithredol i beidio a bod mewn cynllun, os am unrhyw reswm maent yn teimlo nad ydyw cynilo mewn cynllun yn iawn iddynt hwy.
Cyfraniad lleiafswm cyflogwr
Am y tro cyntaf bydd cyflogwyr cymwys i gyd angen cyfrannu isafswm o 3% (ar fand o enillion) i gynllun pensiwn cyflogai gweithle. Bydd hyn yn cynyddu y 4% o gyfraniad oddi wrth y cyflogai ac oddeutu 1% gan y LLywodraeth yn y ffurf ryddhad treth.
Y cynllun cyfrifon personol
O 2012 Mae’r Llywodraeth yn cynllunio i gyflwyno cyfrwng newydd cynilo cost isel, y cynllun cyfrifon personol, wedi ei anelu at gyflogai nad ydynt yn gallu cael mynediad at gynllun pensiwn o safon da wedi ei seilio ar waith - yn bennaf, enillwyr isel i ganolog.
Agweddau allweddol o’r cynllun:
- Cynllun pensiwn galwedigaethol yn seiliedig ar ymddiriedolaeth - wedi ei redeg er budd ei aelodau
- Costau isel;
- Symlrwydd.
Bydd cyfyngiad o gyfraniad o £3,600 pob blwyddyn (yn seiliedig ar lefelau enillion 2005) a gwaharddiad cyffredinol ar drosglwyddo i fewn ac allan o gynlluniau, i ganolbwyntio’r cynllun ar y farchnad sydd wedi ei thargedu.
Y Mesur Pensiynau
Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys mesurau i:
- Gorfodi dyletswyddau drwy gyfundren cydymffurfio;
- Estyn cyfrifoldeb yr awdurdod dosbarthu;
- Galluogi sefydlu’r cynllun cyfrifon personol;
Mae’r Llywodraeth yn cynllunio i gyflwyno’r diwygiadau hyn o 2012. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynllunio i gyflwyno nifer o fesurau symleiddo Pensiwn y Wladwriaeth.