Diwygio Pensiynau

Bywgraffiad Paul Thornton

Paul Thornton yw Rheolwr Gyfarwyddwr y tîm Ymgynghori ar Bensiynau yn Gazelle Corporate Finance Limited, yn cynnig cyngor ar ariannu diffygion mewn pensiynau i ymddiriedolwyr pensiynau, cyflogwyr nawdd a buddsoddwyr preifat. Mae'n ymgynghorydd i PensionDCisions, sy'n cynnig gwasanaeth meincnodi perfformiad buddsoddiad i noddwyr ac aelodau o gynlluniau pensiwn DC, ac mae'n aelod o 'With Profits Committee' annibynnol Prudential Assurance.

Hyd Mehefin 2006, roedd Paul yn Actwari Ymgynghori gyda Watson Wyatt Limited, sef cangen Ewropeaidd Watson Wyatt Worldwide. Roedd yn Uwch Bartner Watson Wyatt LLP o fis Mai 2001 hyd Gorffennaf 2005. Fel Uwch Bartner roedd yn Gadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ewropeaidd, ar ôl bod yn Gadeirydd Pwyllgor Rheoli y cwmni yn y DU o 1995 i 1997, ac yn Gadeirydd y Bwrdd a oedd yn goruchwylio gweithrediadau Ewropeaidd Watson Wyatt o 1996 i 1999. Bu'n gwasanaethu ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Watson Wyatt Worldwide o fis Tachwedd 2000 nes mis Ionawr 2006.

Ymunodd Paul â Watson Wyatt (R Watson & Sons gynt) ym 1974, gan gymhwyso'n Gymrawd Sefydliad yr Actiwarïaid ym 1975 a dod yn Bartner yn y cwmni ym 1977. Mae gan Paul brofiad o roi cyngor i drefniadau pensiwn mawr ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ac ef oedd Actwari Cynllun i Gynllun Pensiwn BT, sef y gronfa bensiwn sector preifat fwyaf yn y DU. Mae'n aelod o'r "Committee of Wise Actuaries" a benodwyd mewn cysylltiad â Chronfa Pensiwn Wrth Gefn Swyddfa Batent Ewrop.

Mae wedi ysgrifennu papurau proffesiynol ar Dylunio Cynlluniau, Trosglwyddiadau Crynswth a Thybiaethau Ariannu Realistig ynghyd ag ar bynciau pensiwn eraill, ac mae wedi siarad yng nghynadleddau'r OECD a Banc y Byd yn ogystal â chymryd rhan yng nghyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Pensiynau Preifat yr OECD a'r International Organisation of Pension Supervisors ar ran y Gymdeithas Actiwarïaid Ryngwladol.

Bu Paul yn Llywydd Sefydliad yr Actiwarïaid, sef y corff proffesiynol ar gyfer actiwarïaid yn y DU, o fis Gorffennaf 1998 i fis Gorffennaf 2000, a bu'n Gadeirydd Bwrdd Pensiynau Cyfadran a Sefydliad yr Actiwarïaid o 1994 i 1996 a Chadeirydd y Gymdeithas Actiwarïaid Ymgynghori o fis Mehefin 1997 hyd Mehefin 1998. Ar hyn o bryd, mae'n aelod o'r Pwyllgor Penodiadau Disgyblu ac o Bwyllgor Rhyngwladol Proffesiwn Actiwarïaid y DU.

Bu Paul yn Gadeirydd Pwyllgor Pensiynau'r Groupe Consultatif o Actiwarïaid Ewrop o fis Hydref 1999 hyd mis Hydref 2005, yn Gadeirydd Pwyllgor y Gymdeithas Actiwarïaid Ryngwladol a oedd yn delio gyda Phensiynau a Buddion Cyflogeion o fis Rhagfyr 1995 hyd Rhagfyr 2005 ac mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Gweithredol a Chyngor y Gymdeithas Actiwarïaid Ryngwladol.

Mae gan Paul radd Anrhydedd mewn Mathemateg o Brifysgol Rhydychen.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.