Diwygio Pensiynau

Diwygio Pensiynau – 2010 ymlaen

Mae’r Llywodraeth yn ymgymryd â diwygiad carreg filltir o systemau pensiynau’r DU. Mae hyn yn dilyn gwaith helaeth i adnabod y problemau yn wynebu’r systemau pensiynau. Yna fe aeth pecyn o fesurau awgrymedig, wedi’i gynllunio i ddosbarthu diogelwch ariannol ychwanegol i boblogaeth sy’n heneiddio drwy broses ymgynghoriad cenedlaethol heb ei thebyg er mwyn adeiladu consensws gwirioneddol, seiliedig eang o gwmpas y ffordd ymlaen.

Diwedd i’r gwaith hwn oedd dau Bapur Gwyn.

Cafodd cyfnod cyntaf o’r diwygiadau ei gwblhau gyda’r Ddeddf Pensiynau yn dod yn gyfraith yng Ngorffennaf 2007. Cafodd yr ail gyfnod yn y Mesur Pensiynau ei gyflwyno i’r Senedd ar 5 Rhagfyr 2007.

Y Ddeddf Pensiynau 2007

Yng Ngorffennaf 2007 fe wnaeth y Ddeddf Pensiynau ddeddfu am y diwygiadau i’r system Pensiwn y Wladwriaeth â osodwyd allan yn y cyntaf o’r Papurau Gwyn hyn. Bydd mesurau yn y Ddeddf, dros y blynyddoedd nesaf yn gwneud system y wladwriaeth yn fwy hael, yn decach i ferched a gofalwyr ac ar gael yn fwy eang. Creodd y Ddeddf yr Awdurdod Dosbarthu Cyfrifon Personol i gynghori ar gyflwyno cyfrwng newydd, syml, cost isel, cynilion pensiynau.

Y Bil Pensiynau

Aeth Mesur i fewn i’r Senedd ar 5 Rhagfyr i gymryd mesurau ymlaen wedi eu hanelu at annog mwy o gynilo preifat. Mae rhain yn cynnwys dyletswydd ar gyflogwyr i ymrestru yn awtomatig eu cyflogai cymmwys i fewn i gynllun pensiwn gweithle ansawdd da (cyn belled nad ydynt mewn cynllun o’r fath eisioes) a rhoi lleiafswm o gyfraniad. Mae hefyd yn canaiatau i gynllun cyfrifon personol, cyfrwng newydd, syml,cost isel, cynilion pensiynau gael ei sefydlu. Gallwch ddarllen y Mesur , yr Asesiad Effaith (wedi'i ddiweddaru yn Ebrill 2008), yr Asesiad Effaith Rhyw ac rhai ffeithlennau yn berthnasol i gynllun cyfrif personol drwy'r cysylltiadau isod.

Cewch wybod mwy am y Mesur Pensiynau.

Adolygiad dadreoli

Cafodd y Government response (311KB) PDF i ganlyniadau’r Adolygiad Dadreoli annibynnol ei gyhoeddi ar 22 Hydref 2007. Gosododd yr ymateb awgrymiadau am newid a gofyn barn. Daeth y cyfnod ymgynghoriad ar i ben ar 15 Tachwedd. Cafodd y response to the consultation (91KB)PDF ei gyhoeddi ar 5 Rhagfyr 2007.

Cewch wybod mwy am yr Adolygiad Dadreoli.

Fforwm Pensiynau

Cynllunwyd y Fforwm Pensiynau i roi cyfle i chi gyfrannu i’r cyfnodau allweddol o ddatblygiad polisi pensiynau’r llywodraeth.

Mae’r fforwm, yn cynnwys gwefan y Gweinidogion yn awr ar gau. Mae archif o'r materion dan sylw yn cael eu cynnwys gan y Fforwm.

Gallwch gofrestru o hyd am ddiweddariadau ebost ar ddatblygiadau mewn polisi pensiynau.

Diolch yn fawr i bawb a wnaeth gyfrannu i’r Fforwm.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.