Trafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau
Mae ein cymdeithas yn heneiddio. Mae hyn yn newyddion rhagorol am fod pobl yn byw yn hirach, ond o ganlyniad, mae angen i ni wneud newidiadau i’n system bensiynau er mwyn sicrhau y caiff pobl h?n yfory incwm teg a digonol ar ôl ymddeol. Mae’n hanfodol i’r newidiadau a wnawn arwain at ateb parhaol ac rydym wedi bod yn gofyn am eich barn chi i`n helpu i wneud penderfyniadau y gallwn oll fod yn hyderus ynddynt. Gan ganolbwyntio ar y pecyn helaeth o ddiwygiadau a gyflwynwyd gan y Comisiwn Pensiynau annibynnol, mae’r Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau wedi casglu barn miloedd o bobl drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, Trafodaeth ar-lein a thrwy ddigwyddiadau i randdeiliaid. Mae’r farn hon wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i lywio Papur Gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio Pensiynau.
Dysgwch fwy am bapur gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio Pensiynau - `Sicrwydd mewn ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd`.
Canlyniadau’r Drafodaeth - Eich Barn Chi
Yma rydym yn cyhoeddi’r Adroddiad terfynol ar y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau, a ddaeth i ben ddiwedd Mawrth ac a oedd yn cynnwys Diwrnod Cenedlaethol Pensiynau, y digwyddiad mwyaf o’i fath a gynhaliwyd yn y DU erioed. Cymerodd miloedd o bobl ran yn y Drafodaeth mewn arolwg ar-lein ac yn ystod Diwrnod Cenedlaethol Pensiynau, cymerodd dros 1000 o aelodau’r cyhoedd ran mewn digwyddiadau cydamserol a gysylltwyd drwy loeren ac ar draws chwe lleoliad.
Mae’r adroddiad cynhwysfawr hwn yn cynnig dadansoddiad o ganlyniadau’r pleidleisio o’r chwe lleoliad, yn ogystal â chanlyniadau’r Drafodaeth ar-lein. A diolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyfrannu!
Darllenwch fwy am y Diwrnod Cenedlaethol Pensiynau.
Mythau a Ffeithiau
Ydych chi’n gwybod beth sy’n fyth a beth sy’n ffaith am bensiynau? Hoffech chi ddysgu mwy am sut mae`n system bensiynau gyfredol yn gweithio a pham mae angen iddi newid? Rhowch gynnig ar y cwis byr hwn i weld a ydych chi’n gwybod y ffeithiau allweddol a fu`n sail i Ddiwrnod Cenedlaethol Pensiynau.
