Diwygio Pensiynau

Cefndir i Ddiwygio

Mae’r adran hon yn cwmpasu’r digwyddiadau allweddol a arweiniodd i fyny i’r Ddeddf Pensiynau 2007 ac yn darparu gwybodaeth cefndirol ar ymgynghoriadau a phenderfyniadau a luniodd polisi’r llywodraeth.

Y Comisiwn Pensiynau Annibynnol

Yn Rhagfyr 2002 sefydlodd y Llywodraeth y Comisiwn Pensiynau Annibynnol i adolygu’r heriau tymor hirach a wynebai’r system pensiynau a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganlyniadau yn Nhachwedd 2005, gan gosod allan ei gynigion ar gyfer cyfarfod yr heriau rydym yn eu hwynebu mewn darparu incwm ymddeol teg a digonol i bawb mewn ymddeoliad.

Gellwch weld y cyntaf, yr ail a’r olaf o adroddiadau’r comisiwn a chael gwybod am y comisiynwyr ar wefan y Comisiwn Pensiynau.

Y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau

Gydag adroddiad annibynnol y Comisiwn Pensiynau yn darparu sail gadarn ar gyfer adeiladu cydsyniad, lansiodd y Llywodraeth y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau i roi cyfle i’r cyhoedd gael dweud eu dweud ar yr opsiynau sy’n ymddangos ar gyfer diwygio. Cyrhaeddodd y broses yma ei uchafbwynt yn y Diwrnod Pensiynau Cenedlaethol – y digwyddiad cydgynghorol ymgynghorol mwyaf hyd yma yn y DU.

Roedd yn hanfodol fod y newidiadau a wnaeth y Llywodraeth yn darparu datrysiad parhaol a gofynwyd i bobl beth roeddynt yn ei feddwl fel fod penderfyniadau yn cael eu gwneud y buasai pawb yn hyderus ohonynt. Wrth ganolbwyntio ar becyn eang o ddiwygiadau â roddwyd gerbron gan y Comisiwn Pensiynau Annibynnol, casglodd y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau farn miloedd o bobl drwy ddigwyddiadau cyhoeddus, Trafodaeth arlein a thrwy ddigwyddiadau hapddaliwyr. Chwaraeodd hyn ran bwysig trwy helpu i hysbysu’r cyfnod nesaf  o’r broses ddiwygio, Papur Gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio Pensiynau, Diogelwch mewn Ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd.

Canlyniadau o’r drafodaeth – Beth â ddywedoch

Mae’r Adroddiad olaf (1.04MB) pdf ar y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau yn crynhoi canlyniad y drafodaeth genedlaethol, â gwblhawyd yn ddiwedd Mawrth 2006 ac a gynhwysodd y Diwrnod Pensiynau Cenedlaethol, y digwyddiad mwyaf o’i fath â ymgymerwyd erioed yn y DU. Cymerodd miloedd o bobl ran yn yr arolwg arlein ac roedd y Diwrnod Pensiynau Cenedlaethol yn cynnwys dros 1000 o aelodau o’r cyhoedd yn cymryd rhan ar yr un pryd mewn digwyddiadau lloeren gyswllt yn ymestyn i chwech lleoliad.

Mae’r adroddiad cynhwysfawr yma yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau pleidleisio o’r chwech lleoliad, yn ogystal â chanlyniadau o’r Drafodaeth arlein.

Diwrnod Pensiynau Cenedlaethol – 18 Mawrth 2006

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau Diwrnod Pensiynau Cenedlaethol yn Belfast, Birmingham, Glasgow, Llundain, Newcastle ac Abertawe, gallwch ddarllen adroddiad Diwedd y Dydd (78KB) pdf â darganfyddiadau o’r digwyddiadau.

Dau Bapur Gwyn

Diogelwch mewn ymddeoliad: tuag at system bensiynau newydd

Gyda mewnbwn o’r Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau, adeiladodd y Llywodraeth ar adroddiad y Comisiwn a chyhoeddi ei chynigion ei hunan ar 25 Mawrth 2006 yn y Papur Gwyn Diogelwch mewn ymddeoliad: tuag at system bensiwn newydd (1.58MB) pdf. Cynlluniwyd y cynigion yma i gyfarfod y pump prawf o gyfrifoldeb personol, tegwch, symlrwydd, fforddiadwyaeth a chynaliadwyaeth.

Ymateb ymgynghoriad

Rhwng Mai a Medi 2006, ymgynghorodd y Llywodraeth ar y pecyn diwygiad yn y Papur Gwyn. Cafwyd ymateb gan tua 350 o unigolion a chyfundrefnau i’r ymgynghoriad.

Cyhoeddodd y Llywodraeth grynodeb o’r ymatebion a’i chynigion ar gyfer symud ymlaen (607KB) pdf ar 30 Hydref 2006.

Hefyd cyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau ar Ddiwygio Pensiynau (443KB) pdf ar yr un diwrnod.

Gallwch hefyd ddarllen y datganiad ysgrifenedig gweinidogol i’r senedd (19KB) pdf a’r datganiad i’r wasg.

Cyfrifon Personol: ffordd newydd i gynilo

Ar 12 Rhagfyr 2006 cyhoeddodd y Llywodraeth ail Bapur Gwyn, Cyfrifon Personol: ffordd newydd i gynilo. Gosododd y Papur Gwyn hwn gynigion ar gyfer system newydd genedlaethol o gyfrifon pensiwn cost isel.

Ymateb Ymgynghoriad

Cafodd cyhoeddiad y Papur Gwyn ei ddilyn â chyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus â ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2007. Cyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i’r ymgynghoriad ar 14 Mehefin 2007.

Hefyd cyhoeddodd y Llywodraeth ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau ar Bapur Gwyn Cyfrifon Personol (224kb) pdf ar yr un diwrnod.

Gallwch hefyd ddarllen y datganiadad ysgrifenedig gweinidogol i’r senedd (19KB) pdf a’r datganiad i’r wasg.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.