Tîm Adolygu
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Andrew Young sy’n Actiwari Cyfarwyddo (Yswiriant cymdeithasol, polisi pensiynau, demograffi & ystadegau) yn y Government Actuary's Department.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio i The Pensions Regulator, yn rhoi cyngor actiwari mewn perthynas i weithredoedd corfforedig, ac yn y Pension Protection Fund (PPF), yn cefnogi’r datblygiad o weithgareddau actiwari yn y PPF. Yn union cyn hynny roedd wedi cael ei symud i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac wedi cynllunio strwythur y PPF.
Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Pensiynau yr Institute and Faculty of Actuaries ac yn Gadeirydd o’u Pwyllgor Technegol ac Ymchwil. Mae hefyd yn gyn-gadeirydd o’r International Actuarial Association Social Security Committee.
Arbenigwyr allanol tîm adolygu
Alan Higham yn arbenigwr blaenllaw o fewn y sector Bywyd a Pensiynau ac yn Gyfarwyddwr Di-weithredol Higham Dunnett Shaw (HDS).
Ashok Gupta yn gyfarwyddwr ar Fwrdd Pearl Group Limited.
Jane Samsworth yn bartner cwmni cyfreithiol rhyngwladol Lovells.
Chris Martin yn Reolwr Gyfarwyddwr Independent Trustee Services (ITS) Limited.
Dr David Blake yn Athro Economeg Pensiynau Cass Business School, sy’n rhan o Brifysgol Dinas Llundain, ac yn Gyfarwyddwr y Pensions Institute.
Angela Hills yn weinyddwraig i Mercers Human Resource Consulting Limited.
Martin Clarke yn Gyfarwyddwr Dros Dro Menter Ariannol yn y Pension Protection Fund.
Gellir ychwanegu eraill os bydd meysydd ychwanegol o arbenigedd yn cael eu hadnabod yn ystod cwrs y gwaith adolygu.