Safleoedd peilot mewn awdurdodau lleol
Mae’r prosiect yn gweithredu mewn safleoedd peilot mewn wyth awdurdod lleol:
- Devon
- Gateshead
- Gloustershire
- Lancaster
- Leeds
- Nottinghamshire
- Salford
- Tower Hamlets
Cyllidir gweithgaredd y cynlluniau peilot gan yr Adran Gwaith a Phensiynau tan mis Hydref 2008.
Themâu Peilot Cyffredin
Mae pob peilot yn wahanol yn ei bwyslais, ond mae’r themâu cyffredin a ganlyn yn ailymddangos ar draws y rhaglen:
- gwirfoddolwyr neu ‘fentoriaid’ am dâl sy’n cefnogi pobl fregus i gael mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael iddynt a’r ffordd i fynd ati.
- gweithgaredd allgymorth i fynd â gwasanaethau at bobl na fyddent fel arall yn cael mynediad at wasanaethau mae eu hangen arnynt
- canolfannau adnoddau ‘galw heibio’ yn cynnig un pwynt mynediad at nifer o wasanaethau.
Yn sylfaenol i hyn oll mae’r dymuniad na fydd ‘yr un drws yn ddrws anghywir’ ar gyfer cael mynediad at yr ystod o wasanaethau mae ar unigolyn eu hangen.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.