LinkAge Plus
Mae cynlluniau peilot ‘LinkAge Plus’ yn darparu mynediad i bobl hŷn at wasanaethau integredig, cysylltiedig â’i gilydd, gan gynnwys:
- tai
- trafnidiaeth
- gofal iechyd a chymdeithasol
- gwaith
- cyfleoedd i wirfoddoli.
Datblygwyd wyth peilot i ddwyn ynghyd llywodraeth ganol, awdurdodau lleol a chyrff eraill mewn partneriaethau i gyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion lleol.
Y Cefndir
Mae ‘LinkAge Plus’ yn adeiladu ar y cynigion yn ‘Opportunity Age – Meeting the challenges of ageing in the 21st century’, a gyhoeddwydym Mawrth 2005. Dyma oedd y strategaeth gyntaf ar draws y llywodraeth a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar y materion sy’n wynebu cymdeithas wrth i bobl fyw bywydau hwy ac iachach.
Un ymrwymiad yn yr adroddiad oedd adeiladu ar lwyddiant datblygiadau Cam Cyntaf ‘Link-Age’ (Joint Teams, Alternative Offices a’r Partnership Fund) a pheilotio gwasanaeth ‘LinkAge Plus’, i gynnig mynediad at wasanaethau wedi’u hintegreiddio’n llawn ar gyfer pobl hŷn.
Cadarnhawyd yr ymagwedd hon wedyn pan gyhoeddwyd adroddiad yr Uned Allgau Cymdeithasol ‘A Sure Start to Later Life’ yn Ionawr 2006. Awgrymai’r adroddiad hwn y gallai dull Cychwyn Cadarn o fynd ati drwy symbylu cymunedau ac ailffurfio gwasanaethau plant weithio lawn cystal gyda phobl hŷn.
Bydd egwyddorion Cychwyn Cadarn o gyflawni gwasanaeth yn sicrhau gwasanaeth sydd wedi’i anelu’n lleol, yn gydgysylltiedig, heb fod yn stigmateiddio, yn hawdd cael ato ac yn economaidd effeithiol.