Gwerthuso
Byddwn yn defnyddio gwerthuso annibynnol ar y cynlluniau peilot wrth lunio penderfyniadau’r dyfodol. Bydd y gwerthuso yn ystyried y modelau amrywiol a ddefnyddiwyd yn y cynlluniau peilot, ac yn nodi ystod o ddulliau o fynd ati a allai fod â’r potensial i gael eu defnyddio mewn amgylcheddau gwahanol.
Byddwn yn archwilio effeithiau’r cynlluniau peilot ar nifer o feysydd gan gynnwys:
- gwelliannau safon byw i bobl hŷn
- rhagor o gysur ac annibyniaeth
- hygyrchedd ac effeithiolrwydd.
Mae meini prawf y gwerthuso wrthi’n cael eu datblygu gyda chyngor gan arbenigwyr dadansoddol.
Adroddiadau Ymchwil
- Tuag at Achos Busnes am LinkAge Plus yw’r ardoddiad cyntaf mewn gwerthusiad sy’n anelu at adeiladu sail dystiolaeth sy’n cefnogi’r achos economaidd a chymdeithasol ar gyfer gwasanaethau cydgysylltiedig/cyfannol ar gyfer pobl hŷn
Bydd mwy o adroodiadau ar gael ar y dudalen hon fel y maent yn cael eu hargraffu.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.