Llawn Bywyd

Mae pobl yn byw yn hirach. Erbyn 2020, bydd hanner poblogaeth y DU yn 50 oed a throsodd. Daw hyn â newidiadau sylfaenol i natur cymdeithas ac mae'r Llywodraeth eisiau sicrhau ein bod yn addasu'n llwyddiannus i'r newidiadau hyn.
Mae hon yn her tymor hir a fydd yn gofyn am gefnogaeth pawb.
O dan faner Llawn Bywyd, mae'r Llywodraeth a grwpiau cefnogol eraill yn ymgymryd â rhaglen eang o weithgareddau er mwyn codi proffil y materion sy'n ymwneud â phobl hyn a'n cymdeithas sy'n heneiddio.
Hunaniaeth weledol Llawn Bywyd
Mae hunaniaeth weledol Llawn Bywyd ar gael ar-lein. Gallwch ddefnyddio Llawn Bywyd yn eich cyfathrebiadau eich hun am Ddiwrnod Pobl Hyn y DU.
- Cofrestrwch i weld hunaniaeth weledol a gwaith celf Llawn Bywyd a'u lawrlwytho, drwy anfon neges e-bost at DWP.FullofLife@dwp.gsi.gov.uk. Rhowch eich enw, eich sefydliad a theitl eich swydd. Byddwn yn anfon dolen i'r wefan a chyfrinair atoch o fewn pum diwrnod
- Os ydych wedi cofrestru'n barod - logiwch i mewn i weld hunaniaeth weledol a gwaith celf Llawn Bywyd a'u lawrlwytho (bydd y ddolen hon yn eich anfon i wefan arall).
Diwrnod Pobl Hyn y DU 2008
Roedd dathlu Diwrnod Pobl Hyn y DU 2008 yn gyfle gwych i ddod â chymunedau ynghyd a meithrin cysylltiadau newydd gyda phobl o bob oedran.
Ymchwil Llawn Bywyd
- The Generation Factor (122KB) Ymchwil i'r wybodaeth a'r doethineb a drosglwyddwyd drwy deuluoedd (a gyflawnwyd ar y cyd â Diwrnod Pobl Hyn y DU 2008).
Rhagor o wybodaeth
- Cyfleoedd a hawliadau i bobl hyn ar wefan Directgov.
- Gwybodaeth am bensiynau, budd-daliadau pensiynwyr ac ymddeoliad ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn.