Oes Cyfle - Cyfle a sicrwydd gydol oes
Oes Cyfle yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. Nod y strategaeth yw rhoi gorau i’r ddelwedd o bobl hŷn fel pobl sy’n dibynnu ar eraill; sicrhau bod bywyd hirach yn iach ac yn llawn; a bod pobl hŷn yn cymryd rhan llawn yn y gymdeithas. Cafodd ei chyhoeddi’n gyntaf yn ‘Oes Cyfle: Ymateb i heriau heneiddio yn yr 21ain ganrif’ ym mis Mawrth 2005.
Cydlynir ac arweinir y strategaeth gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ei rôl fel Eiriolwr dros Bobl Hyn, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
- gwaith ac incwm – i gyflawni cyfraddau cyflogaeth uwch a gwell hyblygrwydd ar gyfer y rhai sy’n 50 oed a hŷn yn eu gyrfaoedd parhaus, rheoli unrhyw gyflyrau iechyd gyda a chyfuno gwaith gydag ymrwymiadau teulu (ac eraill)
- heneiddio’n weithredol – galluogi pobl hŷn i chwarae rôl llawn a gweithgar yn y gymdeithas
- gwasanaethau – sy’n ein galluogi i gadw annibyniaeth a rheolaeth dros ein bywydau wrth i ni heneiddio, hyd yn oed os cawn ein cyfyngu gan broblemau iechyd a allai ddigwydd wrth i ni heneiddio.
Mae hefyd yn gosod y camau y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth eu cymryd ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn trefnu ein hunain i gyflenwi’r strategaeth.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiad a chynnydd y strategaeth Oes Cyfle yma, yn ogystal â darllen yr Adroddiad cyntaf ar y safle hwn.