Adrannau a chyrff y Llywodraeth
Cysylltiadau i adrannau a chyrff y Llywodraeth y mae eu gweithgareddau'n berthnasol i weithrediadau DWP.
Sylwer nad yw DWP yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau canlynol ac ni ddylid ystyried ein bod, drwy eu cysylltu, yn eu cefnogi mewn unrhyw fodd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiol.
- www.cehr.org.uk Bydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a hawliau dynol fel gwerthoedd sy'n diffinio ein cymdeithas, yn annog ein holl sefydliadau i weithredu er fudd pob unigolyn.
- www.childcarelink.gov.uk Gwybodaeth genedlaethol a lleol am ofal plant gan Brosiect Datblygu Systemau Gwybodaeth Gofal Plant, a ddatblygwyd i ategu mentrau O Fudd-dal i Waith a'r Strategaeth Gofal Plant Genedlaethol.
- www.dberr.gov.uk Gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr, busnesau bychain, gweithwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb ym myd gwaith gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio.
- www.dcfs.gov.uk Mae’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn gyfrifol am wella’r ffocws am bob agwedd o bolisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, fel rhan o nod y Llywodraeth i gyflenwi rhagoriaeth mewn addysg.
- www.defra.gov.uk Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
- www.direct.gov.uk yr ystod ehangaf o wybodaeth a gwasanaethau`r llywodraeth ar-lein.
- www.dius.gov.uk Mae’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau yn uno swyddogaethau’r Adran Masnach a Diwydiant blaenorol, yn cynnwys cyfrifoldebau ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd, gydag addysg uwch/pellach a sgiliau, a oedd yn rhan o’r Adran Addysg a Sgiliau.
- www.doh.gov.uk Nod yr Adran Iechyd yw gwella iechyd a lles pobl yn Lloegr. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Adran, yn ogystal ag arweiniad, cyhoeddiadau a pholisïau ar iechyd a gofal cymdeithasol.
- www.drc-gb.org Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd yn gweithio tuag at waredu gwahaniaethu ar sail anabledd, at gydraddoli cyfleoedd ac i annog arfer dda wrth drin pobl anabl. Mae'n cynghori'r Llywodraeth ar y ddeddfwriaeth anabledd sydd ar waith (Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 1995 a Deddf y Comisiwn Hawliau Anabledd 1999).
- www.dsdni.gov.uk Mae'r wefan hon yn cyfuno gwybodaeth am bob agwedd ar yr Adran Datblygiad Cymdeithasol a'i hasiantaethau yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol, Cynnal Plant, Tai ac Adfywio Trefol.
- www.e-skillspassport.com Caiff e-sgiliau y DU ei drwyddedu gan y Llywodraeth a'i redeg gan gyflogwyr, a dyma lais cyflogwyr ar sgiliau a chystadleugarwch busnesau.
- www.gov.im/dhss/ Gwefan Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol Ynys Manaw.
- www.ico.gov.uk Gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth, sef swyddog annibynnol a benodir gan y Goron i oruchwylio Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
- www.iiac.org.uk Gwefan y Cyngor Ymgynghorol ar Anafiadau Diwydiannol, sef corff statudol annibynnol a sefydlwyd i gynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â'r cynllun anafiadau diwydiannol.
- www.ind-case-exam.org.uk Gwybodaeth am Archwilwyr Achosion Annibynnol, canolwyr annibynnol mewn cwynion am gamweinyddu ac ymchwiliadau'r CSA am drin achosion.
- www.hmrc.gov.uk Mae gwefan Cyllid a Thollau EM yn amlinellu'r modd y mae'n gweinyddu treth incwm, credydau treth, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth refeniw petrol, treth etifeddu, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi stamp.
- www.info4local.gov.uk Porth i awdurdodau lleol gael mynediad cyflym a rhwydd at wybodaeth y mae ei hangen arnynt ar wefannau adrannau`r Llywodraeth ganolog, asiantaethau a chyrff cyhoeddus.
- www.irs-review.org.uk Mae'r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn cynnal adolygiadau annibynnol ar gyfer cwsmeriaid anfodlon y gronfa gymdeithasol ddewisol.
- www.nationalemploymentpanel.org.uk Corff a arweinir gan gyflogwyr yw'r Panel Cyflogaeth Cenedlaethol, sy'n cynnig cyngor i Weinidogion ar gynllun, cyflwyno a pherfformiad polisïau a rhaglenni marchnad lafur Llywodraeth y DU. Mae'i gylch gorchwyl yn cwmpasu pob Bargen Newydd a gweithgareddau eraill o fudd-dal i waith, y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau partner ar lefel genedlaethol a lleol.
- www.officefordisability.gov.uk Y Swyddfa Materion Anabledd fydd y canolbwynt yn y Llywodraeth ar gyfer cydlynu polisi anabledd ar draws pob adran.
- www.ombudsman.org.uk Gwybodaeth am waith y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (Ombwdsmon Seneddol), sy'n ymchwilio i gŵynion am achosion y'u cyfeirir gan ASau.
- www.open.gov.uk Man cyswllt cyntaf ar gyfer gwybodaeth am sector cyhoeddus y DU. Mae'r wefan yn cynnwys cysylltiadau i holl Adrannau a chyrff y Llywodraeth.
- www.opra.co.uk Gwefan yr Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol. Mae'r corff hwn yn ceisio sicrhau bod cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn ddiogel ac y cânt eu rhedeg yn dda.
- www.parliament.uk/commons/selcom/socshome.htm Gwefan swyddogol Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Nawdd Cymdeithasol, sydd â`r grym i archwilio gwariant, polisi a gweinyddiaeth DWP.
- www.pensions-ombudsman.org.uk Mae`r Ombwdsmon Pensiynau yn ymchwilio i gŵynion ac anghydfodau, ac yn penderfynu arnynt, am y modd y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg. (Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n delio â chwynion am werthiannau a marchnata cynlluniau pensiwn).
- www.publicappointments.gov.uk Mae dros 800 o gyrff cyhoeddus a noddir gan Adrannau Llywodraeth y DU. Aelodau a benodir yn gyhoeddus sy'n eistedd ar fyrddau'r sefydliadau hyn. Cânt eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n datblygu, yn ffurfio neu'n cyflwyno polisïau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
- www.remploy.co.uk Remploy Cyf yw darparwr mwyaf rhaglen WORKSTEP y Llywodraeth (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith). Mae'n cefnogi tua 9,000 o bobl anabl, ac mae dros 5,500 mewn ffatrïoedd a 3,300 gyda chyflogwyr prif-ffrwd.
- www.ssac.org.uk Cyngor gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Nawdd Cymdeithasol ar faterion y'u cyfeirir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau neu gan yr Adran yng Ngogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am Nawdd Cymdeithasol.
- www.therentservice.gov.uk Mae'r Gwasanaeth Rhent yn cynnig gwasanaeth prisio rhenti at ddibenion Budd-dal Tai, prisiadau rhenti teg ar gyfer landlordiaid a thenantiaid a chyngor i gwsmeriaid a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a`r sector preifat.
- www.tribunals.gov.uk Mae’r Gwasanaeth Tribiwnlys yn trefnu ac yn gwrando ar apeliadau am nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant, niwed trwy frechiad, credyd treth a phenderfyniadau adfer iawndal.
- www.womenandequalityunit.gov.uk Mae'r wefan hon yn rhan o'r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ac mae'n gyfrifol am hyrwyddo a gwireddu manteision cydraddoldeb rhyw ac amrywiaeth yn yr economi, ac am sicrhau y caiff gwaith ar gydraddoldeb ar draws y Llywodraeth gyfan ei gydlynu."
Gwefannau eraill
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.