Gwasanaethau a
budd-daliadau

Ymgynghori gan gyflogwyr

brig y dudalen

Cefndir

Nododd y Papur Gwyrdd ei bod yn arfer dda i gyflogwyr ymgynghori ag unigolion a/neu eu cynrychiolwyr cyn gwneud unrhyw newid i drefniadau pensiwn, ond nad oedd pob cyflogwr yn gwneud hyn. Ceisiwyd sylwadau ynghylch rhoi gofyniad statudol ar gyflogwyr i ymgynghori, a rhoddwyd sicrwydd y byddai'r sylwadau hyn yn cael eu hystyried ochr yn ochr â rhoi Cyfarwyddeb Gwybodaeth ac Ymgynghori'r UE ar waith, y mae'n rhaid ei drosglwyddo i ddeddfwriaeth y DU erbyn Mawrth 2005.

Cadarnhaodd Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2003, bod llawer yn croesawu'r cynnig i gyflwyno gofyniad i ymgynghori. Y prif faterion a godwyd mewn ymatebion i'r ymgynghoriad oedd na ddylai unrhyw ofyniad newydd rwystro hyblygrwydd busnesau i wneud penderfyniadau masnachol hirdymor; y dylai ymwneud â newidiadau mawr, nid rhai bach; ac y dylid cydnabod bod amrywiaeth o fecanweithiau ymgynghori yn eu lle eisoes.

brig y dudalen

Beth sy'n newid?

Bydd dyletswydd newydd ar gyflogwyr i ymgynghori yn y modd a nodir mewn rheoliadau, os ydynt yn cynnig un penderfyniad o blith rhestr benodedig o benderfyniadau mewn perthynas â'u cynllun pensiwn galwedigaethol neu drefniadau pensiwn personol grŵp sy'n seiliedig ar waith. Os yw rheolau'r cynllun yn rhoi pwerau penodol i'r ymddiriedolwyr, bydd yn ofynnol iddynt beidio â gwneud penderfyniadau penodedig oni bai eu bod yn fodlon bod y cyflogwr wedi ymgynghori. Bydd y Rheoleiddiwr yn gorfodi cydymffurfio.

brig y dudalen

Sut bydd hyn yn gwella'r ddeialog rhwng y cyflogwr a'r gweithiwr?

brig y dudalen

Gyda phwy fydd y cyflogwr yn ymgynghori?

Os oes Undebau Llafur cydnabyddedig, neu drefniadau gwybodaeth ac ymgynghori priodol a gymeradwywyd gan weithwyr, bydd yn ofynnol ar gyflogwyr i ymgynghori ag un neu fwy o'r rhain. Mae hyn yn unol â'n hymrwymiad Papur Gwyrdd i roi'r gofyniad ynghylch ymgynghori ar bensiynau ar waith ochr yn ochr â gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwybodaeth ac Ymgynghori.

Mae`r Llywodraeth yn parhau i drafod gyda'r TUC a'r CBI fanylion y rheoliadau ynghylch gyda phwy y mae'n rhaid ymgynghori.

brig y dudalen

Pa fath o benderfyniadau a fydd yn ysgogi`r gofyniad i ymgynghori?

Rhagwelir y bydd y rheoliadau'n ymwneud â phenderfyniadau fel cau cynllun yn gyfan gwbl, cau cynllun i groniadau yn y dyfodol, cau cynllun i aelodau newydd, newid o gynllun budd a ddiffinnir i gynllun cyfraniadau a ddiffinnir neu gynllun cymysg, a lleihau cyfraniad cyflogwr yn sylweddol, neu ei ddileu, i gynllun cyfraniadau a ddiffinnir neu i gynllun pensiwn personol grŵp.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.