Diogelu Pensiynau wrth Drosglwyddo Darpariaethau Cyflogaeth
Mae darpariaethau yn Neddf Pensiynau 2004 a`r Rheoliadau Trosglwyddo Cyflogaeth (Diogelu Pensiynau) SI 2005/649 ategol sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2005 yn sicrhau, am y tro cyntaf, bod yn rhaid i weithwyr a drosglwyddwyd, a oedd â mynediad at ddarpariaeth pensiwn galwedigaethol â chyfraniad cyflogwr cyn trosglwyddo, gael cynnig darpariaeth pensiwn cyflogwr ar ôl trosglwyddo.
Bydd gan gyflogwyr gweithwyr a drosglwyddir hyblygrwydd i gynnig naill ai bensiwn galwedigaethol neu gynllun cyfranddeiliad ar lefel benodedig.
Cefndir
Mae Cyfarwyddebau Ewropeaidd yn mynnu bod Aelod-Wladwriaethau yn sicrhau y caiff telerau ac amodau cyflogaeth - o leiaf - eu diogelu lle bu trosglwyddiad busnes. Rhoddodd y Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (y'u gelwir yn TUPE) y cyfarwyddebau ar waith yng nghyfraith y DU. Cyfrifoldeb yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (DBERR) yw Rheoliadau TUPE.
Fodd bynnag, oherwydd na wnaeth y Cyfarwyddebau ymestyn y gofyniad gorfodol hwn i fuddion o dan gynllun pensiwn galwedigaethol fel y mae'n berthnasol i henaint, analluedd neu oroeswyr, nid oes unrhyw ofyniad amlwg i ddiogelu'r rhain yn Rheoliadau TUPE.
Yng ngoleuni Cyfarwyddebau newydd o'r UE, cynigiodd y DTI ddiweddaru Rheoliadau TUPE a'u hymestyn i gynnwys darpariaeth pensiynau galwedigaethol.
Ym mis Medi 2001 cyhoeddodd y DTI y papur ymgynghori Cynigion y Llywodraeth i Ddiwygio. Roedd hwn yn edrych ar y Rheoliadau TUPE cyfredol ac yn ceisio barn am ddarparu diogelwch cyfreithiol penodol ar gyfer hawliau gweithwyr o ran pensiynau galwedigaethol pan gânt eu trosglwyddo. Ym Mhapur Gwyrdd DWP, Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad cyflwynodd y Llywodraeth ddau ddewis posibl i'w hystyried ymhellach ac i gynnig sylwadau arnynt.
Ym mis Mehefin 2003, datganodd papur DWP, Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol gynnig y Llywodraeth ar gyfer lleiafswm o gyfraniad cyfatebol o 6% i bensiwn cyfranddeiliad. Mae'n rhaid i'r cyflogwr gyfrannu swm sy'n cyfateb i gyfraniad y gweithiwr, hyd at uchafswm o 6%, a gall y naill barti neu'r llall gyfrannu mwy os mynnant wneud.
Pam y mae angen y newid?
Cyn Ebrill 2005, nid oedd rhwymedigaeth ar gyflogwr gweithiwr a drosglwyddir i gynnig unrhyw fath o ddarpariaeth pensiwn os oedd gan weithwyr fynediad at bensiwn galwedigaethol cyn hynny. Mae llawer o gyflogwyr eisoes yn cynnig darpariaeth pensiwn galwedigaethol i weithwyr a drosglwyddir am ei fod yn gwneud synnwyr busnes da. Fodd bynnag, defnyddir trosglwyddiadau busnes yn fynych fel modd o ddileu cyfraniadau pensiwn cyflogwyr yn gyfan gwbl.
Sut bydd diogelwch pensiynau wrth drosglwyddo cyflogaeth yn diogelu gweithwyr?
Mae'r Ddeddf Pensiynau yn darparu lefel benodedig o ddiogelwch i weithwyr, lle bo busnesau'n trosglwyddo, pan roeddent naill ai'n:
- aelodau gweithredol o gynllun pensiwn galwedigaethol y trosglwyddwr;
- yn gymwys i fod yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol trosglwyddwr; neu
- mewn cyfnod aros cyn dod yn gymwys i fod yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol cyflogwr-drosglwyddwr.
Gall cyflogwyr gweithwyr a drosglwyddir gynnig aelodaeth i weithwyr a drosglwyddir o naill ai:
Cynllun cyfraniadau budd a ddiffinnir sy'n
- bodloni'r Prawf Cynllun Cyfeirio
- yn cynnig buddion sy'n gyfwerth â neu'n fwy na 6% o dâl pensiynadwy aelod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth, yn ogystal â chyfraniadau'r gweithiwr. Nid yw`n ofynnol i weithwyr gyfrannu ar gyfradd o fwy na 6%
- yn amodi bod y cyflogwr yn cyfrannu swm sy'n cyfateb i gyfraniadau gweithwyr hyd at 6% o'r cyflog pensiynadwy
Cynllun cyfraniadau a ddiffinnir sy'n
- amodi bod y cyflogwr yn cyfrannu swm sy'n cyfateb i gyfraniadau gweithwyr hyd at 6% o'r cyflog pensiynadwy
Cynllun pensiwn cyfranddeiliad sy'n
- amodi bod y cyflogwr yn cyfrannu swm sy'n cyfateb i gyfraniadau gweithwyr hyd at 6% o'r cyflog pensiynadwy
fel amod yn eu contract cyflogaeth.
Pam swm cyfatebol o 6%?
- Mae'r cynnig am isafswm cyfraniad cyfatebol o hyd at 6% i bensiwn cyfranddeiliad yn gyfaddawd synhwyrol. Mae'n sicrhau bod gweithwyr yn parhau i elwa ar gyfraniad pensiwn gan gyflogwr ar ôl eu trosglwyddo, ond mae`n cynnig i gyflogwyr amrediad hyblyg o opsiynau ar gyfer sut i wneud y cyfraniadau hynny.
- Mae ystod o adroddiadau ymchwil diweddar –gan gynnwys arolygon gan Adran Actwari'r Llywodraeth, Sefydliad Cenedlaethol y Cronfeydd Pensiwn ac arolwg gan DWP o Ddarpariaeth Pensiwn Cyflogwyr –yn awgrymu bod cyflogwyr, ar gyfartaledd, yn cyfrannu rhwng 5 a 7% tuag at gynlluniau pensiwn cyfraniadau a ddiffinnir a rhwng 5 a 6% tuag at bensiynau personol grŵp a chynlluniau pensiwn cyfranddeiliad.
- Gallai rhai cyflogwyr wynebu costau sylweddol petai`n rhaid iddynt sefydlu ac ariannu cynllun cyfatebol o'r cychwyn. Mae'r ddarpariaeth hon yn sicrhau bod gan y cyflogwyr hyn ddewis amgen hyblyg ar yr un pryd â sicrhau bod gweithwyr yn elwa ar gyfraniadau pensiwn gan gyflogwyr.
Enghreifftiau –Beth fydd hyn yn ei gyflawni o ran pensiwn terfynol?
- Gallai gweithiwr sy'n cyfrannu 6% ac sy'n cael swm cyfatebol gan ei gyflogwr gyrraedd cyfradd ddisodli o rhwng 40% a 60% o'i gyflog terfynol wrth ymddeol o'i bensiwn preifat yn unig. Bydd hyn yn uwch os caiff buddion ail bensiwn y wladwriaeth eu cynnwys oherwydd bod y cyfraniad 6%+6% yn net o unrhyw ad-daliad contractio allan y mae'r cyflogwr yn ei dalu i'r cynllun.
- Yn amlwg, bydd y swm hwn yn amodol ar berfformiad enillion y farchnad a phatrwm ei yrfa drwy'i fywyd gwaith.
- Ar y llaw arall, gall cynllun budd cyffredin a ddiffinnir greu cyfradd ddisodli o lai na 2/3 o'r cyflog terfynol, wrth ystyried colledion o newid swyddi.
- Mae cyflogau real yn cynyddu 2% y flwyddyn, fel yn y Papur Gwyrdd.
- Mae'r gronfa'n cynyddu 4% mewn termau real fel yn y Papur Gwyrdd, i greu cyfradd ddisodli o 40%, 5% mewn termau real i greu cyfradd ddisodli o 50% a 6% mewn termau real i greu cyfradd ddisodli o 60%.
- Mae 1% o`r gronfa yn mynd tuag at gostau bob blwyddyn, fel yn y Papur Gwyrdd.
- Cyflog cychwynnol o £16,000 y flwyddyn yn 25 oed (mae'r gyfradd ddisodli'n annibynnol ar y ffigur hwn). Cyflog terfynol yn 65 oed yw £34,636.
- Mae'r cyfraddau blwydd-dal ar y lefel bresennol (0.07) yn berthnasol, fel yn y Papur Gwyrdd. Ond byddant wedi newid yn y cyfamser.
- Cyfraddau cyfrannu 12% (sy'n cynnwys cyfraniadau cyfatebol o 6%).
- Mae'r dadansoddiad mewn termau real.
Er gwybodaeth –y tybiaethau sy'n sail i'r enghraifft hon:
Y gyfradd gyfrannu gyfartalog i gynlluniau pensiwn budd a ddiffinnir yw 16% (Arolwg GAD 2000, tud. 42).