Gwasanaethau a
budd-daliadau

Cynyddiadau blynyddol yng nghyfraddau pensiynau

Faint o wahaniaeth mae’r polisi hwn yn ei wneud?

brig y dudalen

Mynegeio Prisiau Cyfyngedig

Ar hyn o bryd, mae’r gofyniad i fynegeio pensiynau a delir wedi’i osod ar y codiad canran blynyddol yn y Mynegai Prisiau Adwerthu, heb fod yn fwy na 5%. Ar gyfer pob math o gynllun galwedigaethol, mae hyn yn berthnasol i’r holl bensiwn a delir. Ar gyfer Pensiynau Personol Priodol (y term a ddefnyddir ar gyfer pensiynau personol a ddefnyddir i gontractio allan), mae’n berthnasol i’r rhan honno o’r pensiwn yn unig sy’n deillio o’r hawliau contractio allan. Yr enw ar y gofynion hyn yw Mynegeio Prisiau Cyfyngedig, ac maent yn berthnasol i bob pensiwn a delir sy’n deillio o hawliau a gronnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997.

Bydd y newidiadau’n golygu bod yn rhaid i’r cynyddiadau mewn pensiynau galwedigaethol budd a ddiffinnir sy’n deillio o fuddion a gronnwyd ar neu ar ôl y dyddiad y daw`r newidiadau i rym gael eu cynyddu yn ôl y codiad canran blynyddol yn y Mynegai Prisiau Adwerthu, heb fod yn fwy na 2½%. Bydd y gofynion mynegeio ar gyfer pensiynau galwedigaethol cyfraniadau a ddiffinnir a phensiynau personol yn cael eu diddymu’n gyfan gwbl. Fodd bynnag, bydd pobl yn gallu dewis pensiwn sy’n gysylltiedig â’r mynegai o hyd, os ydynt yn mynnu hynny.

Ni fydd pensiynau a delir cyn i’r newidiadau hyn ddod i rym yn cael eu heffeithio.

Mae’r newidiadau i drefniadau cyfraniadau a ddiffinnir a gyflwynwyd yn Neddf Pensiynau 2004 yn berthnasol i bensiynau sy’n deillio o fuddion a gronnwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997 yn unig. Mae gofynion mynegeio gwahanol yn berthnasol i fuddion a gronnwyd cyn hynny a bydd y rhain yn cael eu diddymu yn eu tro. Caiff y newidiadau sydd eu hangen i wneud hyn eu cyflwyno er mwyn iddynt ddod i rym ar yr un pryd â’r rhai a wneir yn y Ddeddf Pensiynau.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.