Cyllido cynlluniau
Bydd y gofyniad isafswm cyllid (MFR) yn cael ei ddisodli gan ofynion cyllido cynllun-benodol. Elfennau allweddol y trefniadau newydd fydd:
- gofyniad i ymddiriedolwyr cynlluniau lunio Datganiad o Egwyddorion Cyllido (SFP) sy’n nodi strategaeth y cynllun ar gyfer cyllido’i ymrwymiadau o ran pensiynau ac ar gyfer cywiro diffygion cyllid. Bydd yr SFP yn ategu’r Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi, y mae`n ofynnol i ymddiriedolwyr ei lunio eisoes;
- prisiadau actwaraidd rheolaidd, sy’n seiliedig ar ddull cyllido sy’n gyson â’r strategaeth a nodir yn SFP y cynllun. Bydd yr ymddiriedolwyr yn pennu’r dulliau a’r tybiaethau actwaraidd sydd i’w defnyddio, ar ôl cael cyngor gan actwari’r cynllun;
- cyfathrebu’n fwy effeithiol ag aelodau’r cynllun i sicrhau bod ganddynt well gwybodaeth am y modd y caiff eu cynllun ei gyllido;
- pwerau i’r Rheoleiddiwr Pensiynau i helpu i ddatrys anghydfodau am faterion cyllido rhwng yr ymddiriedolwyr a’r cyflogwr sy’n noddi’r cynllun; ac
- eglurhad o rôl actwari’r cynllun mewn perthynas â chyllido’r cynllun.
Cefndir
Cyflwynwyd yr MFR ym mis Ebrill 1997, ac mae’n berthnasol i’r mwyafrif o gynlluniau pensiwn a ddiffinnir y sector preifat. Mae gofyn i gynlluniau sy’n amodol ar yr MFR ddal isafswm o asedion er mwyn bodloni’u hymrwymiadau pensiwn (caiff ei asesu ar sail y prawf MFR), ac mae’n rhaid i unrhyw ddiffygion cyllido o dan yr MFR gael eu cywiro o fewn amserlenni penodedig (cyfnodau cywiro diffygion yr MFR).
- Dysgwch fwy yn Diogelwch ar gyfer Pensiynau Galwedigaethol: Cynigion y Llywodraeth (Mawrth 2001) (200KB)
Pam mae angen y newid?
Mae’r MFR wedi cael ei feirniadu’n helaeth ers cafodd ei gyflwyno, ac mae’n glir nad yw wedi gweithio fel y bwriadwyd. Mae wedi cynyddu rheoleiddio a chostau cyflogwyr sy’n noddi, heb ddarparu’r lefel o ddiogelwch yr oedd llawer o bobl yn ei disgwyl. Ystyrir hefyd ei fod wedi lleddfu penderfyniadau buddsoddi mewn rhai cynlluniau, gan beri iddynt ganolbwyntio ar fodloni amodau’r MFR, yn hytrach nag ar ddatblygu strategaeth gyllido briodol ar gyfer bodloni’u hymrwymiadau penodol o ran pensiynau.
Beth sy’n newid?
Yn amodol ar basio’r ddeddfwriaeth berthnasol, ni fydd yn ofynnol i gynlluniau gyllido mesur cyllido cyffredin. Yn hytrach, bydd yn rhaid i’r cynllun gyrraedd amcan cyllido statudol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod ag asedion digonol a phriodol i ddiwallu ei `ddarpariaethau technegol”. Mae’r term `darpariaethau technegol” wedi’i dynnu o Gyfarwyddeb yr UE ar Sefydliadau ar gyfer Darpariaeth Ymddeol Galwedigaethol 2003 / 41 (y cyfeirir ato fel Cyfarwyddeb Pensiynau Galwedigaethol), ac yn fras, mae’n golygu’r swm o asedion y mae angen i gynllun eu dal nawr, ar sail y dulliau a’r tybiaethau actwaraidd a ddefnyddir, er mwyn talu ei ymrwymiadau pensiwn cronedig wrth iddynt ddod yn ddyledus yn y dyfodol.
Bydd y gofynion newydd yn caniatáu i drefniadau cyllido ystyried amgylchiadau penodol pob cynllun unigol. Bydd gofyn i ymddiriedolwyr cynllun pensiwn, ar ôl cael cyngor gan yr actwari, gytuno â’r cyflogwr sy’n noddi’r cynllun ar strategaeth i gyllido’r ymrwymiadau pensiwn ac i gywiro unrhyw ddiffyg cyllid, ac i nodi hyn mewn datganiad o egwyddorion cyllido. Mae’r fframwaith cyllido newydd yn symud y gofynion statudol presennol ymlaen ar gyfer prisiadau actwaraidd rheolaidd ac i gynllun gael rhestr gyfraniadau yn ei lle.
Sut bydd newidiadau i’r modd y caiff cynllun ei gyllido yn gwella’r sefyllfa i gyflogwyr?
Mae’r gofynion newydd ar gyfer cyllido cynlluniau yn cynnwys pwyslais newydd ar bartneriaeth lle bydd yr ymddiriedolwyr a’r cyflogwr sy’n noddi yn datblygu strategaeth gyllido i ddiwallu’r ymrwymiadau pensiwn yn llawn. Er y bydd y cyfrifoldeb cyffredinol dros benderfyniadau cyllido cynllun yn nwylo`r ymddiriedolwyr, ar y cyfan bydd yn ofynnol iddynt geisio cytundeb y cyflogwr sy’n noddi ar y prif faterion sy’n effeithio ar y modd y caiff y cynllun ei gyllido.
Pam mae dau ofyniad cyllido – un ar gyfer y Gronfa Diogelu Pensiynau ac un arall ar gyfer cyllido cynlluniau?
Mae’r gofynion newydd ar gyfer cyllido cynlluniau yn cael gwared ar y gofyniad isafswm cyllid ac yn ei le yn cyflwyno fframwaith cyllido cynllun-benodol. Bydd hyn yn caniatáu hyblygrwydd i bob cynllun fabwysiadu’r strategaeth gyllido sydd fwyaf priodol iddo ddiwallu’i ymrwymiadau pensiwn penodol.
At ddibenion cyfrifo’r elfen sy’n seiliedig ar risg yn ardoll y Gronfa Diogelu Pensiynau, caiff mesur cyllido cyson ei ddefnyddio ym mhob cynllun – byddai gwneud yn wahanol yn annheg. Y bwriad yw y bydd y mesur cyllido hwn ar gyfer y Gronfa Diogelu Pensiynau, gymaint â phosibl, yn adeiladu ar gyfrifiadau y mae’n ofynnol i gynlluniau eu gwneud at ddibenion eraill. Ond ni fydd yn ofynnol i gynlluniau fodloni unrhyw ofynion cyllido gan gyfeirio at y mesur hwn.
- Dysgwch fwy am gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.