Gwasanaethau a
budd-daliadau

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Ystyr gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yw oedi cyn hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu ddewis stopio’i hawlio ar ôl i chi fod yn ei hawlio am gyfnod.

O 6 Ebrill 2005, os dewiswch beidio â’i hawlio am gyfnod, fe allech dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth uwch, neu ddewis cael un taliad trethadwy unigol pan fyddwch chi yn hawlio yn y pen draw.

Bwriad y newid hwn yw rhoi mwy o ddewis i chi o ran sut a phryd i ymddeol drwy ei wneud yn fwy deniadol i ohirio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.