Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae’r ";Mesur Pensiynau yn nodi cynigion ar gyfer rheoleiddiwr pensiynau newydd i ddiogelu aelodau cynlluniau pensiwn sy’n seiliedig yn y gwaith yn well, ac i leihau’r baich o ran cydymffurfio ar gynlluniau a gaiff eu rhedeg yn dda.
";Ei brif waith fydd diogelu buddion aelodau cynlluniau pensiwn, a bydd yn canolbwyntio’i ymdrechion ar gynlluniau y mae`n asesu bod risg uchel o dwyll iddynt, llywodraethu gwael neu weinyddu’n wael. Bydd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau bwerau newydd pwysig i fynd i’r afael â thanariannu.
";Ni fydd y Rheoleiddiwr yn rhoi gormod o faich ar gyflogwyr sy’n darparu cynlluniau pensiwn, a bydd yn rhoi’r rhyddid i gynlluniau a weinyddir ac a gyllidir yn dda i barhau i gefnogi’u cynlluniau heb orfod mynd trwy reoleiddio parhaus, ymwthiol a beichus.”
Andrew Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, 12 Chwefror 2004.
- Dysgwch fwy ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.