Y Gronfa Diogelu Pensiynau
Sefydlodd Deddf Pensiynau 2004 y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) i ddiogelu aelodau o gynlluniau budd a ddiffinnir y sector preifat y mae eu cwmnïau’n mynd yn fethdalwyr heb ddigon o arian yn eu cynlluniau pensiwn.
Cronfa statudol yw’r PPF a redir gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiynau, sef corfforaeth statudol a sefydlwyd yn ôl darpariaethau Deddf Pensiynau 2004. Daeth y PPF yn weithredol ar 6 Ebrill 2005.
Am ragor o fanylion am y gronfa a sut mae’n gweithio, ewch i wefan y Gronfa Diogelu Pensiynau.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.