Gwasanaethau a
budd-daliadau

Addasu hawliau cyfredol

Diwygiadau i Adran 67 Deddf Pensiynau 1995

brig y dudalen

Cefndir

Deddfwyd Adran 67 Deddf Pensiynau 1995 yn sgil un o argymhellion Adroddiad Goode, a gyhoeddwyd ym mis Medi 1993. Cyn hyn, roedd aelodau cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn dibynnu ar ymddiriedolwyr yn gweithredu yn eu rôl ymddiriedol o dan ddeddfwriaeth ymddiriedolaeth i warchod eu buddion.

Ym mis Gorffennaf 2002, awgrymodd adolygiad Alan Pickering o reoleiddio pensiynau galwedigaethol bod adran 67 yn ffactor cyfrannol at gyflogwyr yn symud oddi wrth drefniadau pensiwn budd a ddiffinnir i drefniadau pensiwn cyfraniadau a ddiffinnir. Argymhellodd y dylid gadael i gynlluniau newid rheolau i effeithio ar hawliau cronedig gyhyd ag y disgwylir i werth cyffredinol budd aelod fod yr un faint mewn gwerth (er na ellir gwarantu hyn) – gelwir hyn yn `cywerthedd actwaraidd”. Caiff gwerth actwaraidd unrhyw hawliau a gaiff eu dileu neu eu gostwng yn sgil newid rheol ei ddisodli gan ryw hawliau eraill neu drwy ymestyn gwerth actwaraidd cyfwerth o leiaf.

Ym Mhapur Gwyrdd mis Rhagfyr 2002 Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad cynigiodd y Llywodraeth ddiwygio adran 67 i ganiatáu cynlluniau i wneud newidiadau ar yr amod na fyddai’r hawliau cronedig a newidir yn cyfrif am fwy na chanran benodol o gyfanswm hawliau cronedig aelod – awgrymwyd 5% fel terfyn `de minimis”.

Ym mis Mehefin 2003 cynghorodd y Llywodraeth yn Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol bod y diwydiant pensiynau wedi gwrthod cynnig y Papur Gwyrdd ar y sail ei fod yn rhy gymhleth ac yn rhy anodd ei weinyddu; roedd y terfyn 5% yn annigonol. Yn hytrach, cynigiodd y Llywodraeth ddiwygiad tebyg i lwybr Pickering ond â diogelwch ychwanegol i aelodau (mae’n rhaid dweud wrth aelodau am effaith newid arfaethedig a rhoi cyfle iddynt gynnig sylwadau amdano, dim newidiadau o ran budd a ddiffinnir i gyfraniadau a ddiffinnir, a dim gostyngiad yn swm pensiwn a delir eisoes).

brig y dudalen

Sut caiff gwerth actwaraidd hawliau cronedig aelod a effeithir ei gyfrifo?

Mae cyfrifo gwerth actwaraidd hawliau pensiwn cronedig aelodau mewn cynlluniau pensiwn budd-dal a ddiffinnir wedi bod yn nodwedd sefydledig mewn deddfwriaeth pensiynau. Er enghraifft, os bydd aelod am drosglwyddo’i hawliau o un cynllun i gynllun arall, neu pan gaiff aelodau eu trosglwyddo gyda’i gilydd ar ôl cyfuno corfforaethol, mae angen cyfrifo gwerth yr hawliau cronedig.

Bydd y Llywodraeth, mewn cydweithrediad â phroffesiwn yr actwariaid, yn sicrhau y rhoddir methodoleg briodol ar waith i sicrhau y rhoddir gwerth priodol ar hawliau cyfredol aelodau ar adeg unrhyw newid.

brig y dudalen

A fydd unrhyw un mewn sefyllfa waeth ar ôl trosi cynllun?

Bydd gofynion cywerthedd actwaraidd yn golygu y caiff gwerth actwaraidd hawliau cyfredol pob un o aelodau’r cynllun sy’n cael ei effeithio ei gynnal, ar adeg y trosi.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.