Cynlluniau trawsffiniol
Cyfarwyddeb yr UE ar Sefydliadau Darpariaeth Ymddeoliad Galwedigaethol 2003/41 (A elwir yn `Cyfarwyddeb Pensiynau Galwedigaethol” a Gweithgarwch Trawsffiniol
- I alluogi cynllun pensiwn galwedigaethol a sefydlwyd yn y DU i dderbyn cyfraniadau gan gyflogwyr sydd wedi’u lleoli mewn Aelod-Wladwriaethau eraill yn yr UE, yn unol â darpariaethau Cyfarwyddeb Pensiynau Galwedigaethol yr UE (Cyfarwyddeb 2003/41/EC).
- I ganiatáu i gyflogwr sydd wedi’i leoli yn y DU i noddi cynllun pensiwn galwedigaethol a sefydlwyd mewn Aelod-Wladwriaeth arall yn yr UE.
- I sicrhau bod cynllun pensiwn galwedigaethol, p’un a yw wedi’i leoli yn y DU neu yn rhywle arall yn yr UE, yn cydymffurfio â deddfwriaeth bensiynau berthnasol y DU o ran aelodau’r DU.
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau a fydd yn gyfrifol am oruchwylio ‘gweithgarwch trawsffiniol` (fel y’i diffinnir ym mhwyntiau bwled 1 a 2). Bydd gan y Rheoleiddiwr bwerau i awdurdodi a chymeradwyo cynlluniau yn y DU i weithredu ar draws ffiniau, i fonitro a yw cynllun yn cydymffurfio â deddfwriaeth bensiynau’r DU, a gweithredu fel y bo angen os canfyddir torcyfraith.
Dysgwch fwy am Gyfarwyddeb yr UE ar Sefydliadau Darpariaethau Ymddeoliad Galwedigaethol 2003 ar wefan yr Undeb Ewropeaidd.
Cefndir
Un o brif amcanion y Gyfarwyddeb ar Weithgareddau a Goruchwylio Sefydliadau Darpariaeth Ymddeoliad Galwedigaethol (a elwir yn aml yn ‘Cyfarwyddeb Pensiynau Galwedigaethol`) yw rhoi mecanweithiau rheoleiddio yn eu lle i gefnogi gweithredu cynlluniau pensiwn galwedigaethol traws-Ewropeaidd. Mae’n cynrychioli cam cyntaf tuag at un farchnad ar gyfer darpariaeth ymddeoliad galwedigaethol.
Er mai amcan y Gyfarwyddeb yw rhoi fframwaith yn ei le sy’n dileu rhwystrau i ddatblygiad cynlluniau pensiwn galwedigaethol, ni fwriedir gorfodi Aelod-Wladwriaethau i ddatblygu cynlluniau o’r fath o anghenraid. Er bod angen trawsgludo darpariaethau’r Gyfarwyddeb i gyfraith cartref i ymdrin â gweithgarwch trawsffiniol, cynlluniau pensiwn unigol fydd yn penderfynu a ydynt am ymgymryd â busnes trawsffiniol.
- Dysgwch fwy yn ein datganiad i’r wasg am y Gyfarwyddeb.
Nid oes unrhyw effaith ariannol gyffredinol gan fod gweithgarwch trawsffiniol yn ffurf gwbl ddewisol ar weithgarwch busnes. Fodd bynnag, bydd cynlluniau pensiwn sy’n gwneud hynny yn destun gweithdrefn awdurdodi ddau-gam, a hefyd bydd angen i bob un gael eu ‘cyllido’n llawn ar bob adeg`. Ar gyfer cynlluniau pensiwn a ddiffinnir, bydd hyn yn gyfundrefn gyllido fwy llym na gofyniad cynllun-benodol, gan nad yw’n cynnwys cyfle am ‘gynllun adfer`. (Cynllun yw hwn a lunnir i ddod â chynllun i’w lefel cyllido cynllun-benodol dros gyfnod o amser.)
Mae’r Gyfarwyddeb yn berthnasol i bensiynau galwedigaethol (darpariaeth ail golofn). Mae’r sefydliadau dan sylw’n ymwneud â rhyw 25% o farchnad lafur yr UE ac yn rheoli asedion sydd werth 2,500 biliwn Ewro (29% o Gynnyrch Domestic Crynswth (GDP) yr EU) (Datganiad i’r Wasg gan y Comisiwn Ewropeaidd 12.03.03).
Beth mae’r Gyfarwyddeb hon yn ei wneud?
- Mae’r Gyfarwyddeb yn rhoi mecanweithiau rheoleiddio yn eu lle i gefnogi gweithredu cynlluniau pensiwn galwedigaethol traws-Ewropeaidd. Mae’n cynrychioli cam cyntaf tuag at un farchnad ar gyfer darpariaeth ymddeoliad galwedigaethol.
- Yn hanfodol, mae’n rhoi rhyddid i Aelod-Wladwriaethau bennu strwythur eu systemau pensiwn yn unol ag egwyddor sybsidiaredd. Felly, nid yw’n ceisio diffinio nodweddion cynllun pensiwn na’r budd-daliadau y mae’n eu cynnig.
- Mae’r Gyfarwyddeb yn defnyddio dull buddsoddi’r person gochelgar mewn cyfraith Gymunedol ar yr un pryd â pharchu amrywiaeth y systemau pensiwn sydd yn yr Aelod-Wladwriaethau, ac mae’n rhyddfrydoli, i ryw raddau, rheolau buddsoddi a ddefnyddir ar hyn o bryd gan rai Aelod-Wladwriaethau.
- Mae hefyd yn sefydlu’r egwyddor ei bod yn dderbyniol i gynlluniau pensiwn weithredu ar draws ffiniau.
- Mae’r Gyfarwyddeb yn berthnasol yn unig i gynlluniau pensiwn galwedigaethol a ariennir. Nid yw’n berthnasol i gynlluniau gwladwriaeth neu bensiynau personol.
Enghreifftiau
Model amlwladol
Ar hyn o bryd, mae darparwyr pensiynau galwedigaethol yn gweithredu, ar y cyfan, yn yr Aelod-Wladwriaeth lle maent wedi’u sefydlu. Felly, mae’n rhaid i gwmni sy’n weithredol ym mhob un o’r 25 o Aelod-Wladwriaethau alw ar wasanaethau 25 o wahanol ddarparwyr. Felly, gellid cyflawni darbodion maint sylweddol pe gallai un sefydliad reoli pob un o amryw gynlluniau cwmni sy’n weithredol mewn sawl Aelod-Wladwriaeth.
Enghraifft
Mae cwmni amlwladol sy’n gweithredu drwy is-gwmnïau mewn sawl un o wladwriaethau’r UE am gyfuno’i drefniadau pensiwn mewn un aelod-wladwriaeth.
Yr Aelod-Wladwriaeth lle caiff y cynllun ei gyfuno yw’r Aelod-Wladwriaeth gartref, ac Aelod-Wladwriaethau’r is-gwmnïau sy`n weddill yw`r Aelod-Wladwriaethau cynnal.
Os y DU yw’r Aelod-Wladwriaeth gartref, byddai`r cynllun cyfan yn cael ei reoleiddio o dan system y DU (gan gynnwys sefydlu’r cynllun dan ymddiriedolaeth) ond hefyd, byddai’n rhaid i’r cynllun gydymffurfio â gofynion yr Aelod-Wladwriaeth gynnal o ran gofynion ‘cyfraith gymdeithasol a llafur` (gweler isod) – o ran yr aelodau yn yr Aelod-Wladwriaethau hynny.
Er enghraifft, os yr Iseldiroedd yw’r Aelod-Wladwriaeth gartref, gallai’r DU o hyd orfodi’i ‘deddf gymdeithasol a llafur o ran pensiynau galwedigaethol` (h.y. yr elfennau perthnasol mewn cyfreithiau pensiwn) ar y cynllun o ran ei aelodau yn y DU.
Y ‘model ar y môr`
Mae cyflogwr mewn un Aelod-Wladwriaeth am leoli’i gynllun pensiwn mewn Aelod-Wladwriaeth arall oherwydd bod yn well ganddo’r gyfundrefn reoleiddio yn yr Aelod-Wladwriaeth honno.
Yr Aelod-Wladwriaeth lle lleolir y cynllun yw’r Aelod-Wladwriaeth gartref, a hi fydd yn rheoleiddio’r cynllun o dan ei deddfwriaeth genedlaethol (hyd yn oed os nad oes unrhyw aelodau yn yr Aelod-Wladwriaeth honno). Yr Aelod-Wladwriaeth lle mae’r cyflogwr a`r aelodau wedi’u lleoli yw’r Aelod-Wladwriaeth gynnal a gall orfodi gofynion o ran ‘cyfraith gymdeithasol a llafur` ar y cynllun.
Felly, gallai cyflogwr o Ffrainc geisio lleoli’i gynllun yn y DU, a byddai’n cael ei reoleiddio gan Y Rheoleiddiwr Pensiynau, ond byddai’n rhaid iddo gydymffurfio o hyd â deddfwriaeth bensiynau Ffrainc (sydd hyd yma heb ei meintoli). Yn yr un modd, gallai cyflogwr yn y DU leoli’i gynllun yng Ngwlad Pwyl, a byddai’n cael ei reoleiddio gan reoleiddiwr Gwlad Pwyl – ond byddai’n rhaid iddo gydymffurfio o hyd â’r ddeddf bensiynau berthnasol yn y DU y bernir ei bod yn gymwys.
- Dysgwch fwy am gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.