Ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr a enwebir gan aelodau
- Bydd yn ofynnol i'r rhan fwyaf o gynlluniau gael o leiaf un rhan o dair o'u hymddiriedolwyr neu'u cyfarwyddwyr wedi'u henwebu gan yr aelodau.
- Ni fydd cyflogwyr mwyach yn gallu dewis peidio â chael ymddiriedolwyr a enwebir gan yr aelodau.
- Bydd y ddeddfwriaeth yn llawer symlach nag y mae hi ar hyn o bryd, a chaiff ei chefnogi gan arweiniad gan y Rheoleiddiwr.
Dysgwch fwy am Y Rheoleiddiwr Pensiynau. - Bydd mwy o gyfle i ymddiriedolwyr fabwysiadu trefniadau sy'n gweddu i'w cynlluniau nhw.
- Mae'r Ddeddf yn cynnwys pŵer i gynyddu'r gyfran leiaf o un rhan o dair i hanner, rhywbryd yn y dyfodol.
Cefndir
Cynigiodd y Papur Gwyrdd –
leihau'r lefel ofynnol ar brosesau dethol ar gyfer ymddiriedolwyr a enwebir gan yr aelodau er mwyn i'r ddeddfwriaeth ganolbwyntio ar y canlyniad i'w gyflawni – dylai o leiaf un rhan o dair o'r ymddiriedolwyr fod wedi'u henwebu gan yr aelodau – ac nid, fel y mae ar hyn o bryd, ar y prosesau manwl y mae'n rhaid i gynlluniau eu dilyn i gyflawni'r canlyniad hwnnw.”
Mae'r cynigion cyfredol yn parhau`r polisi a gychwynnwyd mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Goode ym 1993, a arweiniodd at gyflwyno gofynion am ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr a enwebir gan yr aelodau ar gyfer cynlluniau pensiwn galwedigaethol o dan Ddeddf Pensiynau 1995.
Mae'r gofynion yn mynnu bod o leiaf un rhan o dair o'r ymddiriedolwyr yn ymddiriedolwyr a enwebir gan yr aelodau (MNT), neu'n gyfarwyddwyr a enwebir gan yr aelodau (MND) os yw'r ymddiriedolwr yn gwmni. Fodd bynnag, gall y cyflogwr gynnig trefniadau amgen a gaiff eu mabwysiadu os bydd yr aelodau'n eu cymeradwyo drwy weithdrefn ymgynghori statudol.
Deddfwyd newidiadau i ategu'r polisi ymhellach, ac i ddiddymu hawl y cyflogwr i gynnig trefniadau amgen, yn Neddf Cynhaliaeth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (Deddf CSPSS), ond gohiriwyd eu gweithredu nes canlyniad adolygiad Pickering.
Er bod Adroddiad Pickering yn cefnogi egwyddor sylfaenol lleiafrif o 1/3 o MNTau, pwysleisiodd bod MNTau yn faes yn y ddeddfwriaeth gyfredol y mae angen ei symleiddio. Nododd Pickering fod cyfranogiad aelodau yn `faes yn y gyfraith y gellir ei grynhoi i set glir o egwyddorion” lle gellir newid y canolbwynt o brosesau penodedig i ganlyniadau cyffredinol. Ar hyn o bryd, caiff ymddiriedolwyr eu rhwystro gan brosesau penodedig sy'n gaeth wrth amser sy'n eu hatal rhag mabwysiadu trefniadau sy'n gweddu i amgylchiadau eu cynlluniau.
Yn ystod hynt y Mesur, cyflwynodd y Llywodraeth b?er i godi'r gyfran leiaf o MNTau o un rhan o dair i 50% rhywbryd yn y dyfodol, i alluogi aelodau i gyfrannu mwy a rhoi mwy o hyder iddynt wrth redeg eu cynllun.
Darllenwch Adroddiad Pickering (224KB)
yn ein hadran Cyhoeddiadau.
- Dysgwch fwy am gynlluniau'r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.