Deddf Pensiynau 2004
Cafodd Deddf Pensiynau 2004, sy'n galluogi sawl un o'r polisïau a amlinellir yn yr adran hon, Gydsyniad Brenhinol ar 18 Tachwedd 2004, ar ôl cyhoeddi'r Mesur Pensiynau, Papur Gwyrdd y Llywodraeth o'r enw `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad` ym mis Rhagfyr 2002 a `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol` ym mis Mehefin 2003.
- Darllenwch Ddeddf Pensiynau 2004 ar wefan HMSO
- Darllenwch Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad (234KB)
- Dewch o hyd i gopi o'r Mesur Pensiynau (12 Mai 2004) ar wefan Senedd y DU
- I ddarllen am ddatblygiadau ers 2004, ewch i Trafodaeth Genedlaethol am Bensiynau
- Darllenwch Arweiniad byr i Ddeddf Pensiynau 2004 (49KB)
- Dysgwch am Amserlen y Digwyddiadau (12KB)
Mae pecyn y Llywodraeth ar gyfer diwygio pensiynau'n ceisio:
- helpu aelodau cynlluniau cwmnïau y mae eu cyflogwyr wedi mynd yn fethdalwyr
- gwella diogelwch ar gyfer aelodau cynlluniau pensiwn cwmnïau
- cyflwyno dewisiadau newydd ar gyfer ymddeol
- annog cynllunio ariannol ar gyfer ymddeol
- gwneud darpariaeth pensiynau'n haws i gyflogwyr a darparwyr pensiynau
- adeiladu a chyfnerthu partneriaethau
- Cefndir
Helpu aelodau cynlluniau cwmnïau y mae eu cyflogwyr wedi mynd yn fethdalwyr
Pan fydd cwmnïau sydd â phensiynau wedi'u tanariannu yn mynd yn fethdalwyr, bydd gweithwyr yn eu cael eu hunain ar eu colled yn ddifrifol o ran y pensiwn roeddent yn ei ddisgwyl. Gyda'r Gronfa Diogelu Pensiynau, o fis Ebrill 2005 ymlaen bydd pobl sydd mewn cynlluniau pensiwn galwedigaethol cysylltiedig â chyflog yn fwy sicr o gael y math o incwm ymddeol a addawyd iddynt. Caiff y gronfa'i hategu gan y Rheoleiddiwr Pensiynau a fydd yn ei gwneud yn haws i fusnesau gynnal cynlluniau pensiwn da. Bydd yn canolbwyntio ar y tanariannu, y twyll a'r weinyddiaeth wael sy'n gallu bygwth buddion aelodau, ond gan ymyrryd â chynlluniau sy'n cael eu rhedeg yn dda cyn lleied â phosibl.
- Dysgwch fwy am y Gronfa Diogelu Pensiynau
- Dysgwch fwy am y Rheoleiddiwr Pensiynau
Os bydd pobl ar eu colled oherwydd i'w cyflogwyr fynd yn fethdalwyr cyn i'r Gronfa Diogelu Pensiynau gael ei chyflwyno, efallai y gall y Cynllun Cymorth Ariannol gynnig help.
- Dysgwch fwy am y Gronfa Cymorth Ariannol
Gwella diogelwch ar gyfer aelodau cynlluniau pensiwn cwmnïau
Mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwella diogelwch pensiynau ar gyfer aelodau cynlluniau ymhellach drwy:
- gyflwyno'r Gronfa Diogelu Pensiynau (gweler uchod).
Dysgwch fwy am Y Gronfa Diogelu Pensiynau - estyn diogelwch i hawliau pensiwn gweithwyr pan fyddant yn trosglwyddo o un cyflogwr i un arall o fewn y sector preifat.
Dysgwch fwy am ddiogelu pensiynau wrth drosglwyddo cyflogaeth - rhoi gwell cyfleoedd i bobl sydd mewn swyddi cyfnod byr ddatblygu hawliau pensiwn
- ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori cyn gwneud newidiadau i gynlluniau pensiwn er mwyn sicrhau y caiff newidiadau eu datblygu mewn partneriaeth.
Dysgwch fwy am ymgynghori gan gyflogwyr.
Mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â'r rheoliadau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno er mwyn:
- cynyddu'r swm y dylai aelodau o gynlluniau nad ydynt yn bensiynwyr ei dderbyn os bydd eu cynllun pensiwn cysylltiedig â chyflog yn dirwyn i ben tra bo'r cyflogwr sy'n noddi yn ddiddyled
- dosbarthu asedion cyfyngedig cynlluniau sydd wedi'u tanariannu yn decach ymysg aelodau os bydd eu cynllun cysylltiedig â chyflog yn dirwyn i ben.
- Ewch i wefan HMSO i gael mwy o fanylion am y rheoliadau hyn
Cyflwyno dewisiadau newydd ar gyfer ymddeol
Mae'r Llywodraeth am i bobl wneud penderfyniadau gwybodus am sut a phryd i gynilo, a pha mor hir y dylent weithio, er mwyn iddynt dderbyn yr incwm maent yn ei ddisgwyl pan fyddant yn ymddeol. Ei nod yw grymuso pobl hŷn i wella'u rhagolygon wrth ymddeol drwy fod yn weithgar am hirach. 65 fydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o hyd, felly ni fydd neb yn cael ei orfodi i weithio'n hirach na hynny. Ond, drwy fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a rhyddhau pobl i weithio'n rhan amser tra byddant yn codi pensiwn, y gobaith yw gwneud gweithio'n hirach yn fwy deniadol. Mae cynlluniau i:
- gynnig gwell bargen i bobl sy'n dewis codi'u Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth –gan gynnwys dewis newydd i dderbyn un taliad unigol.
Dysgwch fwy am Ohirio Pensiwn y Wladwriaeth - gwneud oedrannau ymddeol gorfodol yn anghyfreithlon, os na all cyflogwyr ddangos y gellir eu cyfiawnhau yn wrthrychol
- caniatáu i bobl barhau i weithio i'r un cyflogwyr tra byddant yn codi`u pensiwn galwedigaethol
- codi'r oedran cynharaf y gellir codi pensiwn o 50 oed i 55 oed, er mwyn hybu'r ffaith y gall ymestyn bywyd gwaith fod yn fuddiol i'r gweithiwr a'r cyflogwr.
Annog cynllunio ariannol ar gyfer ymddeol
Mae'r Llywodraeth am sicrhau bod gan bawb sydd o oedran gweithio fynediad at y wybodaeth berthnasol a'r offer y mae eu hangen arnynt er mwyn hwyluso cynllunio ar gyfer darpariaeth ariannol pan fyddant yn ymddeol. Fel rhan o'r polisi hwn, mae'r Llywodraeth yn datblygu cynllunydd ymddeol ar-lein i'w lansio yng Ngwanwyn 2006. Bydd y cynllunydd yn galluogi pobl i weld ac amcangyfrif yr incwm a ragamcenir, amcangyfrif yr incwm maent yn credu y gallai fod ei angen arnynt wedi ymddeol, cyfrifo unrhyw ddiffyg a chynnig cyfleoedd i gau'r bwlch hwn.
Yn ogystal, mae Symlrwydd, Diogelwch a Dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo, yn ein hadran Cyhoeddiadau, yn amlinellu camau i rymuso pobl i gymryd yr awenau wrth gynllunio ar gyfer ymddeol. Fe'i anelir at feithrin ymwybyddiaeth gynyddol ymysg pobl o oedran gweithio am adolygu cynllunio ariannol ar gyfer ymddeol yn weithredol ac yn rheolaidd. Mae'n ceisio caniatáu gwell dealltwriaeth gan yr unigolyn o bwysigrwydd cynilo'n hirdymor, gwerth cynilion sydd ganddynt yn barod ac ymwybyddiaeth o unrhyw ddiffyg yn eu disgwyliadau ariannol ar gyfer ymddeol.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i annog gweithwyr i gynilo mwy ac am hirach. Mae'r Llywodraeth o'r farn bod gan gyflogwyr rôl hanfodol i'w chwarae fel darparwyr, a chyfranwyr at, gynlluniau pensiwn y gweithle ac fel ffynhonnell gwybodaeth am ddewisiadau pensiwn. Felly, cynhaliom astudiaeth beilot yn ystod Haf 2004 i werthuso effeithiolrwydd darparu gwahanol fathau o wybodaeth a chyngor am bensiynau yn y gweithle.
Rydym hefyd yn gweithio gyda darparwyr pensiynau a chyflogwyr i werthuso amrediad o dechnegau ymuno i uchafu aelodaeth o gynlluniau pensiwn y gweithle. Un o`r technegau rydym yn eu gwerthuso yw Cofrestru Awtomatig, lle bydd gweithwyr yn dod yn aelodau o gynllun eu cyflogwyr yn awtomatig, ond gallant ddewis tynnu allan. Bydd canfyddiadau'r ddwy astudiaeth hon ar gael ddiwedd Haf 2005.
Mae'r Llywodraeth wedi cael llawer iawn o gefnogaeth ar gyfer darparu Rhagolygon Pensiwn Cyfunol; felly, mae'n gobeithio estyn y gwasanaeth hwn ar draws y diwydiant pensiynau (cyflogwyr a darparwyr pensiwn), i ddechrau, drwy weithio mewn partneriaeth â nhw er mwyn annog cyfranogiad gwirfoddol.
- Dysgwch fwy am y gwasanaeth Rhagolwg Pensiwn Cyfunol am ddim ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn.
Yn rhan gynhenid o'r broses o weld y pecyn ariannol a ddisgwylir wedi ymddeol yw'r gallu i olrhain unrhyw hen bensiwn neu bensiwn ‘coll`. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth olrhain pensiynau'n rhan o gyfrifoldebau'r Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol (Opra). Cytunwyd y bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau newydd yn disodli Opra o fis Ebrill 2005, a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am y gwasanaeth olrhain pensiynau. Bydd y swyddogaeth gwasanaeth olrhain yn dod yn elfen o'r Cynllunydd Ymddeol pan gaiff ei lansio.
Gwneud darpariaeth pensiynau'n haws i gyflogwyr a darparwyr pensiynau
Bydd mesurau symleiddio'n ei gwneud yn haws i gyflogwyr ddarparu pensiynau, drwy gwtogi`r fiwrocratiaeth. Sut?
- Drwy symleiddio'r gyfundrefn dreth. Dysgwch fwy am y mesurau pensiynau yn Neddf Cyllid 2004.
- Caiff cynlluniau eu rhyddhau i osod eu strategaethau cyllid a buddsoddi yn ôl eu nodweddion penodol eu hunain. Dysgwch fwy am gynlluniau i ddisodli'r Gofyniad Isafswm Cyllid gyda threfniadau cyllido cynllun-benodol.
- Caiff llu o reoliadau ynghylch gweinyddu –gan gynnwys ynghylch ymddiriedolwyr, treth, datrys anghydfodau a chontractio allan –eu symleiddio. Hefyd, caiff gofynion mynegeio gorfodol eu llacio (ni fydd hyn yn effeithio ar bensiynau sy`n cael eu talu eisoes, nac ar werth hawliau cronedig presennol). Dysgwch fwy am sut yr effeithir ar ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr.
- Bydd rheolau newydd am newid rheolau cynlluniau a hawliau aelodau cynlluniau yn rhoi mwy o ryddid i gyflogwyr a darparwyr. Dysgwch fwy am addasu hawliau cyfredol.
- Cyfleoedd newydd i ddatblygu cynlluniau pensiwn galwedigaethol traws-Ewropeaidd. Dysgwch fwy am gynlluniau trawsffiniol.
Adeiladu a chyfnerthu partneriaethau
Mae`r Papur Gwyrdd yn cyflwyno cynigion i adnewyddu partneriaethau rhwng y Llywodraeth, unigolion, cyflogwyr a'r diwydiant gwasanaethau ariannol.
- Pwysigrwydd cyflogwyr –Mae gan gyflogwyr ran bwysig i'w chwarae yn y bartneriaeth pensiynau drwy gynnig mynediad, gwybodaeth a chyfraniadau at bensiynau i'w gweithwyr. Mae'r gweithle yn amgylchedd effeithiol y gall pobl gynilo trwyddo –mae'r weinyddiaeth yn fwy effeithlon ac mae manteision treth i'r cyflogwr a'r gweithiwr. Hefyd, mae manteision eraill i'r cyflogwr –mae darpariaeth pensiwn dda yn helpu wrth recriwtio staff, cadw staff a`u symbylu.
Er mwyn datblygu a hyrwyddo rôl ganolog cyflogwyr mewn darpariaeth pensiynau, mae'r Llywodraeth hefyd wedi sefydlu Gweithlu Cyflogwyr annibynnol ar bensiynau.
- Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Gweithlu Cyflogwyr.
- Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Gweithlu Cyflogwyr.
- Y Comisiwn Pensiynau –Cyfrannwr pwysig arall at bartneriaeth pensiynau yw'r Comisiwn Pensiynau, a sefydlwyd ar ôl cyhoeddi'r Papur Gwyrdd i fonitro ac adolygu'r systemau pensiynau preifat a chynilo hirdymor yn annibynnol. Bydd yn archwilio pa mor effeithiol yw natur wirfoddol system bensiynau'r DU.
- Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Pensiynau.
Cefndir
Deddf 1995 ac Adroddiad Goode
Pasiwyd y Ddeddf Pensiynau bwysig ddiwethaf ym Mhrydain Fawr ym 1995, ac ysbrydolwyd y Ddeddf, i raddau helaeth, gan Adroddiad Goode. O dan y teitl Diwygio`r Gyfraith Pensiynau –Adroddiad Pwyllgor Adolygu`r Gyfraith Pensiynau –fe'i cyhoeddwyd ym mis Medi 1993, ac roedd yn ganlyniad sefydlu pwyllgor annibynnol, y gofynnodd y Llywodraeth iddo adolygu'r fframwaith o ddeddfau a rheoliadau yr oedd cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn gweithredu o'u mewn. Ystyriodd fuddiannau: aelodau, pensiynwyr a chyflogwyr.
1997-2000
Daeth prif ddarpariaethau Deddf 1995 i rym ym 1997, yn fuan cyn Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Yr her ddybryd i'r Llywodraeth newydd oedd tlodi ymysg pensiynwyr. Felly, cyflwynodd y Gwarant Lleiafswm Incwm, y Credyd Pensiwn a chodiadau uwchlaw chwyddiant ym Mhensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Her arall oedd helpu pensiynwyr y dyfodol i ddarparu ar gyfer eu hymddeoliad. Ar adeg Papur Gwyrdd 1998, Contract newydd ar gyfer lles: partneriaeth mewn pensiynau, roedd incwm pensiynwyr mwy cefnog wedi bod yn cynyddu'n sylweddol oherwydd bod Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) yn aeddfedu ac yn sgil twf pensiynau galwedigaethol. Ond roedd hefyd yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cynilo digon neu`n gweithio'n ddigon hir, yn enwedig yng ngoleuni`r cynnydd mewn hyd oes.
Felly, i ategu diwygiadau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi ymysg pensiynwyr, cyflwynodd Papur Gwyrdd 1998 ddiwygiadau hefyd, a roddwyd ar waith drwy Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 a Deddf Cynnal Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000, fel disodli SERPS â'r pensiwn newydd, Ail Bensiwn y Wladwriaeth, er mwyn cynnig pensiynau mwy hael i bobl ar incwm is a chymedrig, llawer o ofalwyr â phobl ag anableddau, a chyflwyno pensiynau cyfranddeiliad i ddarparu cyfrwng diogel, syml a hyblyg i gynilo ar ôl ymddeol.
Adroddiad Myners
Ym mis Mawrth 2001, ar ôl cyhoeddi adroddiad Syr Paul Myners, `Buddsoddi Sefydliadol yn y Deyrnas Unedig: adolygiad`, cyhoeddodd y Llywodraeth gynigion i ddisodli'r gofyniad isafswm cyllid â dull cynllun-benodol (sydd angen deddfwriaeth gynradd); a diystyru (bryd hynny) cronfa derfynu ac yswiriant ansolfedd.
- Dysgwch fwy am Adroddiad Myners ar wefan Trysorlys EM.
Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad
Yn ystod Gwanwyn 2002 gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol bryd hynny i Alan Pickering edrych ar sut y gellid symleiddio'r modd y câi cynlluniau pensiwn galwedigaethol eu gweinyddu. Comisiynwyd Ron Sandler gan Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol ar y cyd i adolygu cynilion adwerthu yn ystod yr un cyfnod. Yn 2002, cynhaliwyd adolygiad pum mlynedd o'r Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol (Opra) ac astudiaeth Gwerth am arian gan NAO i'r modd roedd Opra yn gweithio. Dangosodd canlyniadau'r holl adolygiadau unigol hyn fod prif themâu'n dod i'r amlwg ar gyfer diwygio pensiynau.
- Darllenwch Adroddiad Pickering (224KB)
yn ein hadran Cyhoeddiadau. - Dysgwch fwy am Adroddiad Sandler ar wefan Trysorlys EM.
- Darllenwch yr adolygiad pum mlynedd o Opra (Mai 2002) (64KB)
yn ein hadran Ymgynghoriadau. - Ym mis Rhagfyr 2002 cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyrdd o'r enw `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad` [Gorch 5677], a'i chynigion ar gyfer symleiddio`r modd y caiff pensiynau galwedigaethol a phersonol eu trin at ddibenion treth.
- Darllenwch Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad yn ein hadran Ymgynghoriadau.
Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad dilynol, ym mis Mehefin 2003 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau `Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol` [Gorch 5835], a oedd yn canolbwyntio fwyfwy ar yr angen i ddiogelu aelodau gael cymaint o sylw â'r themâu eraill. Argoelodd ddeddfwriaeth sylfaenol ar draws y meysydd yr ymgynghorwyd arnynt, gan gynnwys Cronfa Diogelu Pensiynau i dalu iawndaliadau i aelodau cynlluniau budd a ddiffinnir a chynlluniau cymysg yr aeth eu cyflogwyr yn fethdalwyr gan adael y cynllun pensiwn yn methu diwallu'i ymrwymiadau. Mabwysiadwyd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Weithgareddau a Goruchwylio Sefydliadau o ran Darpariaeth Ymddeoliad Galwedigaethol ym mis Medi 2003 i'w gweithredu erbyn mis Medi 2005.
- Darllenwch Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol yn ein hadran Ymgynghoriadau.
Symlrwydd, diogelwch a dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo
Ym mis Chwefror 2004, aeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau â`r polisi ehangach ar gynllunio ymddeol ariannol yn ei flaen yn `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo` [Gorch 6111].
- Darllenwch Symlrwydd, diogelwch a dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo yn ein hadran Cyhoeddiadau.
Mae'r gwahanol ddatblygiadau hyn wedi dod ynghyd yn y Mesur Pensiynau hwn.
- I ddysgu mwy am y Mesur Pensiynau (sy'n Fesur Cyhoeddus), neu am Fesurau eraill sydd gerbron y Senedd hefyd (gan gynnwys trawsgrifiadau trafodaethau a nodiadau esboniadol), ewch i wefan y Senedd; a dilynwch y cyswllt perthnasol â'r ddogfen dan sylw.
- Dysgwch fwy am gynlluniau'r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau